Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

2.

Strategaeth Sbwriel / Polisi Gwastraff a Chasgliadau a Safleoedd Amwynderau Dinesig

I ystyried strategaeth sbwriel Sir Fynwy sy'n gyson â'r Strategaeth Sbwriel Genedlaethol sy'n cael ei datblygu ar y cyd â sefydliad Cadwch Gymru'n Daclus.

 

Adroddiad cynnydd ar:

·         Goblygiadau'r Polisi Casglu Gwastraff newydd

·         Effaith cyflwyno trwyddedau i’r Ganolfan Gwastraff Cartref ac Ailgylchu

·         Effaith cau rhai o'r Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu a'r cyfeiriad posibl ar gyfer y gwasanaethau hyn

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddiad perfformiad ar y Strategaeth Sbwriel, y Polisi Gwastraff a Chasgliadau a newidiadau i'r Safle Amwynderau Dinesig

 

Gwnaed gwaith craffu cyn gwneud penderfyniadau yn gynnar yn 2019 ynghylch y penderfyniad i gyflwyno trwyddedau yng Nghanolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu yn Sir Fynwy a gweithredu newidiadau gwasanaeth mewn rhai safleoedd.  Roedd y Pwyllgor hefyd wedi craffu ar y Polisi Casgliadau Gwastraff newydd a Strategaeth Sbwriel y Cyngor. Roedd y gwasanaeth wedi bwriadu adolygu'r newidiadau ar ôl eu cyflwyno.  Roedd y Pwyllgor wedi gofyn i adroddiad perfformiad gael ei gyflwyno iddynt ar ôl i’r newidiadau cael eu gweithredu er mwyn mesur a yw'r newidiadau i'r gwasanaethau a ddarperir wedi bod yn llwyddiannus ac i drafod unrhyw oblygiadau ar breswylwyr y gallai fod angen mynd i'r afael â hwy ymhellach. Roedd yr adroddiad yn amlinellu perfformiad ar y materion canlynol yn eu tro: 

 

·         Cynnydd y Strategaeth Sbwriel

·         Goblygiadau'r Polisi Casglu Gwastraff newydd

·         Effaith cyflwyno trwyddedau i’r Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu

·         Effaith cau rhai o'r Canolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu a'r cyfeiriad posibl ar gyfer y gwasanaethau hyn

 

Her:

 

Strategaeth Sbwriel

 

Roedd y cynnydd a ragwelwyd ar y Strategaeth Sbwriel wedi bod yn destun rhywfaint o oedi cychwynnol oherwydd bod ffrydiau ariannu newydd dim ond wedi cael eu cadarnhau gan Lywodraeth Cymru’n ddiweddar.  Mae'r gwasanaeth wedi amlygu sut y byddai cadarnhau ffrydiau ariannu’n gynharach yn galluogi cynllunio mwy effeithiol ar gyfer defnyddio arian er mwyn cyflawni'r Strategaeth Sbwriel. Heriodd y pwyllgor y swyddogion fel a ganlyn:

 

·         O ran diffinio "sbwriel", a fyddai gwastraff gardd sy'n dechrau cyflwyno ymddangosiad gwael yn cael ei ddiffinio fel "sbwriel"?

Rydym yn cymryd y farn mai "sbwriel" yw unrhyw ddeunydd ar ôl yn y lle anghywir, felly byddai hynny'n cael ei ystyried yn "sbwriel".

·         Roeddem yn pryderu y gallai fod cynnydd mewn tipio anghyfreithlon o ganlyniad i gyflwyno newidiadau gwasanaeth i Ganolfannau Gwastraff Cartref ac Ailgylchu. A yw hyn wedi digwydd?

·         Mae riportio tipio anghyfreithlon wedi cynyddu, ond credwn y gallai hyn fod o ganlyniad i'r canfyddiad y byddai'n cynyddu o ganlyniad i'r newidiadau a gyflwynwyd gennym, oherwydd nid ydym wedi gweld cynnydd sylweddol mewn gwirionedd ers i'r newidiadau gael eu rhoi ar waith.

·         Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ail-ddynodi rhai o'r ardaloedd gorffwys fel "cilfachau". A fydd goblygiadau cost i ni o ganlyniad i'r newid hwn ac a fydd Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw gyfraniad i ni tuag at gynnal a chadw'r ardaloedd hyn yn y dyfodol?  A fydd y bloc toiledau sy'n anaddas i'w ddefnyddio ac sydd ar gau ar hyn o bryd yn cael ei ddileu?

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gorffen dynodi'r safleoedd yn gilfachau, bydd cyfrifoldeb y rheini yn disgyn yn ôl i ni ac nid oes unrhyw awgrym ar hyn o bryd o unrhyw gyfraniad tuag at gynnal yr ardaloedd hyn. Rydym hefyd yn ansicr beth fydd yn digwydd i'r bloc toiledau sydd ar gau.

·         Rydym yn sylwi bod gr?p amgylcheddol Llanfihangel Crucornau wedi cael gwahoddiad i fynychu'r cyfarfod hwn ond nad oeddent yn  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf