Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir V.E. Smith fuddiant personol, manteisiol yn unol â Chod Ymddygiad yr Aelodau parthed cofnod 6, Craffu Partneriaethau, oherwydd ei bod yn Aelod o Gymdeithas Tai Cyngor Sir Fynwy.
|
|||||||||||||||||||
Cyfarfod arbennig ar gyfer cyllideb ar y cyd. PDF 403 KB Cofnodion: Nodwyd cofnodion y Pwyllgor Dethol ar y Cyd dyddiedig 16eg Rhagfyr 2015.
|
|||||||||||||||||||
Pwyllgor craffu Cymunedau cryf dyddiedig 25ain Chwefror 2016. PDF 102 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf dyddiedig 25ain Chwefror 2016 a llofnodwyd hwy gan y Cadeirydd.
|
|||||||||||||||||||
Cyfarfod arbennig – Pwyllgor Craffu Cymunedau Cryf dyddiedig 17eg Mawrth. PDF 125 KB Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion Cyfarfod Arbennig Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf dyddiedig 17eg Mawrth 2016 a llofnodwyd hwy gan y Cadeirydd.
|
|||||||||||||||||||
Polisi Datblygu Cynaliadwy. PDF 204 KB Cofnodion: Cyd-destun:
Darparu’r Pwyllgor Dethol â’r cyfle i graffu’r Polisi Datblygiad Cynaliadwy arfaethedig cyn ceisio penderfyniad y Cyngor llawn.
Materion Allweddol:
Yn Ebrill 2016 daeth y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol 2015 (Cymru) yn gyfraith gan nodi beth mae datblygiad cynaliadwy yn ei olygu yng Nghymru. Mae’n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymhwyso egwyddor datblygiad cynaliadwy i fwyhau’u cyfraniad i saith o nodau llesiant cenedlaethol.
Roedd y Cyngor wedi mabwysiadu’r Ddeddf yn gynnar. Fel rhan o’r agwedd hon gweithiodd y Cyngor gyda Swyddfa Archwiliad Cymru a gynhyrchodd adroddiad ar barodrwydd y Cyngor. Cyflwynwyd canlyniadau’r gwaith hwn yn y Pwyllgor Archwilio ac yn y Cabinet ac fe’u defnyddiwyd fel cymorth i weithredu’r Ddeddf.
Mae Datblygiad Cynaliadwy bob amser wedi bod yn ganolog i’r modd y gweithredwn fel Cyngor. Bydd yr awdurdod nawr yn diwygio’i bolisi presennol i adlewyrchu’r Ddeddf a sicrhau dealltwriaeth glir a chyson ar draws y sefydliad. Bydd hyn yn caniatáu i’r sefydliad gael eglurder ar draws ei fframwaith polisi a bydd disgwyl i bolisïau a rhaglenni a ddygir gerbron yr Aelodau i’w penderfynu yn y dyfodol ei hadlewyrchu.
Craffu Aelodau:
Wedi craffu’r adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Cymerwyd y rhan fwyaf o’r polisi cynaliadwy o ddeddfwriaeth sy’n annhebygol o newid yn y dyfodol. Felly, fe allai fod yn briodol adolygu’r polisi eto yn 2018 i weld a yw’n dal yn unol â’r asesiad o lesiant.
· Gosodir strwythurau yn eu lle i nodi a ydym ni fel awdurdod yn cyfrannu at ein nodau. Gallai aelodau a Swyddfa Archwilio Cymru herio a dynodi problemau posib. Gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth yn gymorth i ddynodi unrhyw broblemau posib.
· Roedd materion yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch ar frig blaenoriaethau’r awdurdod. Bydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn asesu hyn gyda’r bwriad o wella llesiant pobl. Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn integreiddio’n fwy effeithiol gyda Meddygon Teulu a gwasanaethau nyrsio i ganiatáu i’r Awdurdod ymyrryd yn gynt a darparu cefnogaeth briodol.
· Ers 15fed Tachwedd 2015 cyflwynwyd rhestri gwirio newydd sy’n benodol i bob un o’r Nodau Llesiant.
|
|||||||||||||||||||
Cofnodion: Cyd-destun:
Darparu gwybodaeth berthnasol ar bartneriaethau ar gyfer y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf · parthed cyfraniad mudiadau trydydd sector.
· Canolbwyntio ar gynrychiolaeth, gweithgarwch a chyflenwi partneriaid y trydydd sector ar draws y tirlun partneriaethau o fewn Sir Fynwy, dan arweiniad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy (y Bwrdd Gwasanaethau Lleol blaenorol).
· Cael trosolwg o’r cyllid a ddarperir i bartneriaid trydydd sector.
Materion Allweddol:.
Yn 2012, symleiddiodd Canllaw Statudol Llywodraeth Cymru “Cydamcanu, Cydymdrechu” y tirlun partneriaeth, drwy leihau cymhlethdod a dyblygu, a rhyddhau adnoddau drwy ddatblygu Byrddau Iechyd Lleol a’r Cynllun Sengl Integredig, Yn Ebrill 2016, daeth Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol i rym a thrawsnewidiwyd Bwrdd Gwasanaeth Lleol Sir Fynwy i mewn i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus statudol, â chyfrifoldeb dros oruchwylio’r flwyddyn oedd yn weddill o’r Cynllun Integredig Sengl, sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2017.
Yn dilyn archwiliad ac adolygiad o’r tirlun partneriaeth newydd yn 2014/15, canolbwyntiodd y Tîm Partneriaeth Strategol ar ffurfio’r tirlun partneriaeth i mewn i strwythur a oedd yn hygyrch i’r holl bartneriaid. Mapiwyd ac adolygwyd grwpiau partneriaeth strategol a galluogodd hyn y tîm i ddeall cymhlethdodau trefniadau partneriaeth, cadernid llywodraethu mewn partneriaeth a sut oeddent yn cyfrannu at wella canlyniadau poblogaeth a ddynodwyd yn y CIS ar gyfer Sir Fynwy ac yn adrodd i mewn i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Mae’r tirlun Partneriaeth yn Sir Fynwy yn llawn gofleidio gweithio amlasiantaethol, gyda chynrychiolaeth o ystod eang o sefydliadau partner, gan gynnwys y trydydd sector, sy’n gweithio’n gydweithredol i wella’r canlyniadau i breswylwyr Sir Fynwy. Mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth yn ffurfio rhan allweddol o’r mecanwaith cyflawni ar draws y sir, ac mae’n bwysig bod gan y Pwyllgor Dethol drosolwg cadarn o’r gwaith hwn a chyfraniad partneriaid trydydd sector yr Awdurdod yn y tirlun llydan ac amrywiol hwn.
Mae cyllid ar gael i rai o bartneriaid trydydd sector yr Awdurdod, sy’n cyfrannu tuag at ganlyniadau Cynllun Integredig Sengl Sir Fynwy. Mae’r cyllid yn cynnwys y canlynol:
Craffu Aelodau:
Wedi craffu’r adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Gwnaed cyflwyniad a dangoswyd fideo i’r Pwyllgor Dethol ynghylch y mater hwn.
· Mae Home Start wedi gwneud gwahaniaeth. Mae ysgolion yn fodlon â’r deilliannau.
· Mae cyfraniad ariannol yr Awdurdod i GAVO yn sicrhau ein bod yn cael gwerth ein harian o’r gwasanaeth hwn. Mae GAVO yn chwarae rhan bwysig fel un o’n partneriaid.
· Bydd GAVO yn dod i gyfarfod y Pwyllgor Dethol yn y dyfodol.
· Mae Canolfan Cyngor ar Bopeth (CCB) yn darparu gwaith ardderchog a bydd yn dod i gyfarfod y Pwyllgor Dethol Oedolion yn y dyfodol.
· Nodwyd bod cyfraniad y Cyngor Cymuned i’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth yn llai yn gyffredinol na’r cyfraniadau a ddarparwyd gan y Cynghorau Tref o fewn Sir Fynwy. Byddai gwybodaeth am braeseptau trethdalwyr yn help i benderfynu faint dylai pob cyngor cymuned ei gyfrannu i’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
· Mae GAVO hefyd yn ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|||||||||||||||||||
Craffu ar yr Amcanion Gwella wrth ddatblygu'r Cynllun Gwella ar gyfer 2016-2017. PDF 91 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyd-destun:
Craffu’r Amcanion Gwelliant a gynhwysir yng Nghynllun Gwelliant 2016-17 o flaen penderfyniad gan y Cyngor ar 12fed Mai 2016.
Materion Allweddol:.
Mae gosod Amcanion Gwelliant blynyddol a chynhyrchu Cynllun Gwelliant Yn ofynion statudol dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
Cynhyrchir y Cynllun Gwelliant mewn dwy ran. Dyma adran flaengar y Cynllun ac mae wedi’i ffocysu ar ymrwymiadau a dyheadau. Mae’n rhoi cyfle i osod y cyfnodau allweddol a fydd yn cyflenwi blaenoriaethau addysg y Cyngor, cefnogaeth i bobl fregus, cefnogi busnesau a chreu swyddi a chynnal gwasanaethau mwyaf hygyrch y Cyngor yn lleol.
Cyhoeddwyd Cynllun Gwelliant 2015-17 ym Mai 2015 a chynhwysai bum amcan yn rhedeg ochr yn ochr â chyflawni blaenoriaethau’r Cyngor. Mae’r amcanion gwelliant ar gyfer 2016/17 yn barhad o’r pum amcan a osodwyd ym Mai 2015:
· Byddwn yn gwella ym mhob cyfnod allweddol ym maes addysg. · Byddwn yn diogelu pobl, ifanc neu hen, tra byddwn yn lleihau dibyniaeth pobl ar ofal cymdeithasol. · Rydym eisiau galluogi’n Sir i ffynnu. · Yn y cyfamser, cynnal gwasanaethau mwyaf hygyrch y Cyngor · Rydym eisiau bod yn sefydliad effeithlon, effeithiol a chynaliadwy.
Mae’r wybodaeth ar gyfer craffu yn canolbwyntio ar fanyldeb yr Amcanion Gwelliant ar gyfer 2016/17, a gynhwysir o fewn y Cynllun Gwelliant llawn. Cafodd yr amcanion eu hadolygu a’u diweddaru er mwyn parhau â’r gweithgarwch perthnasol yr ymrwymwyd iddo eisoes yn yr amcanion a chynnwys unrhyw gamau gweithredu newydd a gafodd eu dynodi. Mae’r Amcanion Gwelliant ar hyn o bryd yn rhwym wrth ymgynghori cyhoeddus a fydd yn rhedeg tan 22ain Ebrill 2016 ac ymgorfforir adborth o’r ymgynghoriad i mewn i’r amcanion, fel y bydd yn berthnasol, cyn eu dwyn gerbron y Cyngor i’w cymeradwyo ar 12fed Mai 2016.
Cynllun drafft yw hwn ar gyfer craffu ac ar hyn o bryd mae rhai rhannau o’r cynllun heb eu cwblhau a thargedau heb eu gorffen, fe’u cwblheir cyn y penderfyniad gan y Cyngor.
Gwnaed rhai newidiadau i ffurf y cynllun i adlewyrchu deddfwriaeth ddiweddaraf, ymateb i adborth gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghyd â’r hyn a ddysgwyd gan y Cyngor ei hun.
Y rhain yw:
· Egluro strwythur yr amcan fel bod pawb yn deall paham y cynhwysir gwybodaeth benodol. · Parhau i sicrhau cysylltiadau gwell rhwng camau gweithredu a mesurau gyda thargedau cysylltiedig ar gyfer gwelliant. · Gweu gofynion y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol i mewn i’n cynllunio, gan gynnwys sut mae’n gweithgarwch yn cyfrannu at saith amcan llesiant Llywodraeth Cymru.
Yn ystod 2016-2017 bydd Cyngor Sir Fynwy’n ymgymryd â dau asesiad sylweddol o angen a llesiant o fewn y Sir o ganlyniad i’r Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles. Bydd y wybodaeth a enillir yn ystod y gwaith hwn yn gosod sylfaen lawer dyfnach o dystiolaeth i gyhoeddi amcanion lles y Cyngor erbyn 31ain Mawrth 2017 (gofyniad dan y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol). Pan ddaw’n amser datblygu’r amcanion lles bydd angen ailfeddwl yr amcanion gwelliant yn unol ag egwyddorion y Ddeddf.
Cyflwynir rhan dau’r cynllun, yn canolbwyntio ar yr hyn a gyflawnwyd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|||||||||||||||||||
Blaenraglen Waith Craffu. PDF 187 KB Cofnodion: Derbyniasom Flaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Cymunedau Cryf. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Cynhelir y cyfarfod cyffredin nesaf ar ddydd Iau 30ain Mehefin 2016 am 10.00am.
· Bydd angen cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Dethol cyn 30ain Mehefin 2016. Bydd y Rheolwr Craffu’n ymchwilio i ddyddiad cyfleus ar gyfer y cyfarfod hwn.
· Bydd y Pennaeth Craffu’n ysgrifennu at yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Sir P. Murphy gyda’r bwriad i roi’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch gwerthu’r cyfleuster cyhoeddus yn Rhaglan.
· Bydd y Rheolwr Craffu’n cydgysylltu â’r Pennaeth Gweithrediadau ynghylch y Gweithgor Priffyrdd gyda’r bwriad o ychwanegu’r eitem hon i’r Flaenraglen Waith er mwyn ystyried atgyfodi’r gweithgor.
Penderfynasom dderbyn y Flaenraglen Waith, gan nodi’r pwyntiau a godwyd.
|
|||||||||||||||||||
Blaengynllunydd y Cabinet. PDF 320 KB Cofnodion: Penderfynasom dderbyn Blaenraglen Waith y Cyngor a’r Cabinet, gan nodi’i chynnwys.
|
|||||||||||||||||||
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf Mehefin 30, 2016 am 10.00am. Cofnodion: |