Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Remote Meeting

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Please note that in order to watch this meeting online via Microsoft Teams you may need to download the Teams app to your device. The meeting will be available to watch after the event on our youtube channel. 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Cynnig ar gyfer diwygio’r Polisi ac Amodau Llogi Tacsis a Hurio Preifat i gynnwys Trwyddedu Tuk Tuks a Ricsiôs. pdf icon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriwyd adroddiad am y cynnig i ddiwygio Amodau Polisi Tacsis a Cherbydau Hur Prefat 2020 i gynnwys trwyddedu cerbydau Ricsiô.

 

Wrth wneud hynny nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Newidwyd ychydig ar y polisi fel y gosodir drysau teithwyr ar ddwy ochr cerbydau Ricsiôs a Tuk Tuks gydag o leiaf un o’r drysau yn rhoi mynediad ac allanfa.

·         Roedd dau aelod o’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio wedi treialu defnyddio Tuk Tuk o amgylch ardal y Fenni. Ystyriwyd y byddai’r mathau hyn o gerbydau yn addas ar gyfer teithiau lleol.

·         Byddid yn adolygu’r geiriad yn y polisi yn amlinellu cod gwisg gyrwyr Tuk Tuk a’i ddiwygio i amlinellu prif gorff y polisi ei hunan.

 

 

Penderfynwyd::

 

(i)            mabwysiadu’r Amodau Polisi Tacsis a Cherbydau Hur Preifat (newidiadau i ran 4.3, i ddileu pwyntiau 32 a 33 yn atodiad J a newid Atodiad M y polisi i gynnwys pwyntiau 66 i 92. Bydd y newid hwn yn cynnwys trwyddedu Tuk Tuks a Ricsiôs Trydan a Seiclo (pedicabs).

 

(ii)          diwygio ychydig ar y polisi fel y gosodir drysau teithwyr ar ddwy ochr y cerbydau i Ricsiôs a Tuk Tuk trwyddedig gydg o leiaf un o’r rysau yn rhoi mynediad ac allanfa.

 

 

3.

Deddf Gamblo 2005 - Ffioedd Trwyddedau Safle. pdf icon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd adroddiad ym ymwneud â’r ffioedd ar gyfer yr Awdurdod yng nghyswllt Trwyddedau Safleoedd dan Ddedf Gamblo 2005 yn ôlweithredol ar gyfer 21 Mai 2020 – 20 Mai 2021.

 

Penderfynwyd:

 

(i)            cymeradwyo’r ffioedd a chostau a amlinellir yn Atodiad ! yr adroddiad i ddod i rym yn ôl-weithredol o 21 Mai 2020;

(ii)           Bod y ffioedd yn cael eu hadolygu’n flynyddol yn ddilynol.

 

4.

I gadarnhau'r cofnodion canlynol:

4a

Y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio dyddiedig 14 Ionawr 2020. pdf icon PDF 59 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio dyddiedig 14 Ionawr 2020.

 

4b

Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio dyddiedig 14 Ionawr 2020. pdf icon PDF 50 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Is-Bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2020.