Skip to Main Content

Cofnodion

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

2.

Masnachu ar y Stryd yn y Fenni pdf icon PDF 69 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad er mwyn iddynt ystyried y trefniadau masnachu ar y stryd presennol yn y Fenni, gan nodi pryderon diweddar a godwyd gan Aelodau Etholedig o'r ardal.

 

Yn sgil y seremoni 'Gosod Carreg Gopa' yn y Fenni ar ddydd Sadwrn, 24ain Awst 2019, cododd rhai cynghorwyr lleol bryderon am rai o’r cerbydau symudol oedd wedi'u lleoli ar Sgwâr Sant Ioan ar yr un diwrnod:

 

  • Anfonodd y Cynghorydd Sirol Sheila Woodhouse e-bost at Brif Weithredwr y Cyngor ar 29ain Awst. Y prif bryder oedd sut y gellid caniatáu i fan byrgers mawr fasnachu yno, gan gymryd masnach oddi ar fusnesau lleol sy'n talu ardrethi busnes uchel.
  • Gofynnodd y Cynghorydd Sirol Maureen Powell gwestiwn yn ffurfiol i'r Cyngor Llawn ar 19eg Medi gan godi'r un pryderon, wedi'i gyfeirio at y Cynghorydd Sirol Sara Jones fel Aelod y Cabinet â Chyfrifoldeb dros Drwyddedu.
  • Cododd Pwyllgor Ardal Bryn y Cwm y mater hwn yn eu cyfarfod ar 25ain Medi. Byddai'n cael ei drafod yn y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio nesaf.

 

Eglurodd swyddogion fod gweithdrefnau wedi'u dilyn yn gywir, ac nad newid y polisi oedd y bwriad ond ceisio cymeradwyaeth bod swyddogion trwyddedu yn cysylltu â Chynghorau Tref i nodi'r ffordd orau ymlaen.  Nid yw Ystadau yn dymuno cymryd cyfrifoldeb am Ganiatadau Masnachu Bloc Stryd o Chwefror 2020.

 

Tynnodd y Pennaeth Diogelu'r Cyhoedd sylw at y ffaith bod yr adran Ystadau wedi mynegi nad oes angen gwasanaeth iddynt fod yn rhan o'r broses, ac y byddai'n well ganddo ddelio â'u hochr hwy o faterion o ran rhedeg y farchnad.

 

Yn dilyn trafodaeth, penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo'r argymhellion a ganlyn:

 

Rhoi gwybodaeth i Aelodau am drefniadau presennol ar sut y rheolir masnachu ar y stryd yn nhref y Fenni, pennu digonolrwydd ac ystyried unrhyw feysydd i'w gwella.

 

Bod Swyddogion Trwyddedu yn cael trafodaethau pellach gyda chydweithwyr ystadau ar oblygiadau cyfyngu ar gwmpas eu caniatâd Masnachu Bloc Stryd presennol.

 

Dylid hysbysu'r Aelodau am unrhyw oblygiadau cost ychwanegol i ddigwyddiadau mawr, megis G?yl Fwyd y Fenni, gan nodi eu diddordeb mewn denu ymwelwyr a chanol trefi bywiog.

 

Gofynnodd yr Aelodau iddynt barhau i gael eu diweddaru.

 

3.

Trafodaeth yn dilyn cais a dderbyniwyd am drwyddedu Tuk Tuk fel cerbyd Llogi Preifat. Mae hyn yn gofyn am ddiwygio'r polisi a'r amodau tacsi a hurio preifat i gynnwys trwyddedu Tuk Tuks and Ricsios pdf icon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Aelodau i drafod cynnig ar gyfer y polisi a'r amodau tacsi a hurio preifat i gael eu diwygio i gynnwys trwyddedu Ricsios a cherbydau.

 

Mae cais wedi ei wneud i'r tîm trwyddedu i drwyddedu Tuk Tuk. Dyma'r cais cyntaf i gael ei dderbyn gan yr Adran Drwyddedu. Roedd y polisi presennol yn cyfeirio'n fyr at Tuk Tuks yn Atodiad J y polisi, gan ddweud bod y cerbydau'n cael eu hystyried yn gerbydau hacnai ac felly'n ofynnol iddynt gael eu trwyddedu fel cerbydau hacnai ac yn unol â'r polisi hwn. Cydnabuwyd nad oedd y cerbydau hyn yn cydymffurfio â'r meini prawf safonol a osodwyd o fewn y Polisi hwn.

 

Gallai Tuk Tuks fod yn ddelfrydol ar gyfer hyrwyddo twristiaeth a gweld golygfeydd o fewn

Sir Fynwy, Nid oes unrhyw un yn gweithio yn ardal Gwent ar hyn o bryd, gyda'r agosaf yn cael ei drwyddedu yng Nghaerdydd.

 

Un o brif amcanion y Polisi Tacsis a Hurio Preifat yw sicrhau bod cerbydau trwyddedig yn ddiogel i'w defnyddio gan y cyhoedd, y gyrrwr ac nad ydynt yn peri unrhyw risg i ddefnyddwyr ffyrdd eraill.  Mae’r Adran Briffyrdd wedi datgan, os yw'r cerbyd yn addas i'r ffordd fawr, na fyddant yn  ymwneud â’r mater.

 

Mae swyddogion ar hyn o bryd yn aros am adroddiad pellach gan DVSA.

 

O ran monitro'r defnydd bob dydd, byddai angen sylfaen o weithredwyr, gyda chofnod o archebion.  Byddai holl elfennau eraill y polisi'n cael eu gwirio.  Yn yr achos hwn, mae'r ymgeisydd am sefydlu llwybrau teithio dynodedig, a byddai'n osgoi rhai ardaloedd.  Gofynnwyd i'r adroddiad terfynol nodi manylion y llwybrau gweithredu. 

 

Roedd gan yr Aelodau ddiddordeb mewn gweld enghreifftiau o’r rhain yn gweithio mewn ardaloedd eraill.

 

Penderfynodd yr Aelodau dderbyn yr argymhellion canlynol:

 

I Aelodau ystyried diwygio’r Polisi ac Amodau Tacsis a Hurio Preifat, i ddileu pwyntiau 32 a 33 yn Atodiad J y polisi cyfredol a diwygio Atodiad M o'r polisi cyfredol i gynnwys adran ychwanegol. Byddai'r adran ychwanegol yn cynnwys, pe bai'r polisi yn cael ei ddiwygio, trwyddedu Tuk Tuks, a Ricsios trydan a beicio (pedicabs). Amgaeir fersiwn drafft o'r adroddiad hwn fel Atodiad A.

 

Cyflwynir adroddiad pellach pan dderbynnir gwybodaeth sy’n weddill, er mwyn galluogi Aelodau i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid diwygio'r Polisi ac Amodau Tacsis a Hurio Preifat.

 

4.

Cadarnhau a llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 52 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion y Cyfarfod Arbennig a gynhaliwyd ar 16eg Gorffennaf 2019 gan y Cadeirydd.

 

 

5.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Nodwyd.