Agenda and minutes

Special Meeting, Pwyllgor Trwyddedu a Rheleiddio - Dydd Gwener, 4ydd Hydref, 2024 10.00 am

Lleoliad: The Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA with remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant wedi eu derbyn.

 

2.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd. pdf icon PDF 115 KB

Cofnodion:

Gwnaethom wahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusne ganlynol yn unol ag Adran 100A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail ei bod yn ymwneud â datgelu gwybodaeth esempt yn ôl pob tebyg fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

3.

Ystyried a yw'r gyrrwr yn "Addas a Phriodol" i ddal Trwydded Gyrwyr Cerbyd Hacni/Cerbyd Hurio Preifat.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i'r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau'r Pwyllgor a'r Swyddogion a oedd yn bresennol ac esboniodd y protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei enw a’i gyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi derbyn yr adroddiad gan gydnabod ei fod am fwrw ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

 

Darllenwyd y materion allweddol a'r manylion i'r Pwyllgor.

 

Yna rhoddwyd cyfle i'r ymgeisydd annerch y Pwyllgor, i gyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, cyflwynodd Aelodau'r Pwyllgor gwestiynau i'r ymgeisydd a chafwyd trafodaeth. Yna rhoddwyd cyfle i'r ymgeisydd grynhoi.

 

Yn dilyn cwestiynau, gadawodd y swyddogion a'r ymgeisydd y cyfarfod er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor ystyried a thrafod y canfyddiadau.

 

Ar ôl ailddechrau, dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hurio Preifat.