Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA and remote attendance

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Sir A. Easson yn Gadeirydd.

 

2.

Penodi Is-gadeirydd.

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Sir A. Webb yn Is-gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Sir C. Edwards fuddiant personol a rhagfarnol yng nghyswllt eitem agenda 7 oherwydd ei fod yn adnabod perthynas agos i’r ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth na phleidleisio ar hynny.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir A. Webb fuddiant personol a rhagfarnol yng nghyswllt eitem agenda 7 oherwydd ei bod yn adnabod yr ymgeisydd. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar hynny.

 

Datganodd y Cynghorydd Sir D. Rooke fuddiant personol heb fod yn rhagfarnol yng nghyswlt eitem 8 oherwydd ei fod yn adnabod yr ymgeisydd. Mae’r ymgeisydd yn gweithredu busnes yn agos at ei gartref ac mae wedi defnyddio’r busnes yn achlysurol. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio ar hynny.

 

4.

Cadarnhau’r cofnodion dilynol:

4a

Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol – 8 Mawrth 2022 pdf icon PDF 149 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio dyddiedig 8 Mawrth 2022 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

4b

Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol – 8 Mawrth 2022 pdf icon PDF 267 KB

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio dyddiedig 8 Mawrth 2022 eu cadarnhau a’u llofnodi gan y Cadeirydd.

 

 

5.

Ystyried pa un ai i eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod pan ystyrir yr eitemau dilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail eu bod yn golygu datgeliad tebygol o wybodaeth a gafodd ei heithrio fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf. pdf icon PDF 29 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y wasg a’r cyhoedd eu heithrio o’r cyfarfod pan ystyriwyd yr eitemau dilynol o fusnes yn unol ag Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd, ar y sail eu bod yn cynnwys datgeliad tebygol o wybodaeth a eithirwyd fel y’i diffinnnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

6.

Cais i adnewyddu caniatâd masnachu stryd.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion oedd yn bresennol ac esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei enw a chyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd yr ymgeisydd iddo dderbyn yr adroddiad a gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan yr Adran Drwyddedu yng nghylch y mater a chydnabu y byddai’n symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

 

Cafodd y materion a’r manylion dilynol eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr ymgeisydd wedyn gyfle i annerch y Pwyllgor er mwyn cyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, holodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd a dilynodd trafodaeth. Cafodd yr ymgeisydd wedyn gyfle i grynhoi.

 

Yn dilyn y cwestiynau, gadawodd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol a’r cynrychiolydd cyfreithol y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.

 

Pan ailddechreuodd y cyfarfod, hysbysodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu caniatau adnewyddu a chyhoeddi Caniatâd Masnachu Stryd am 12 mis wedi ei ôl-ddyddio i ddechrau o 14 Mawrth 2022 tan 14 Mawrth 2023.

 

7.

Ysytired os yw’r gyrrwr yn “Addas a Chywir” i barhau i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Llog Preifat. Ystyried os y dylai’r Gweithredydd Hur Preifat barhau i ddal trwydded o’r fath. Ystyried os caiff y Drwydded Cerbyd Hur Preifat ei chadw.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd i’r cyfarfod a chyflwynodd Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion oedd yn bresennol ac esboniodd y protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

Cadarnhaodd yr ymgeisydd ei enw a chyfeiriad i’r Pwyllgor. Cadarnhaodd yr ymgeisydd iddo dderbyn yr adroddiad a gwybodaeth ychwanegol a gafwyd gan yr Adran Drwyddedu yng nghylch y mater a chydnabu y byddai’n symud ymlaen heb gynrychiolaeth gyfreithiol.

 

Cafodd y materion a’r manylion dilynol eu darllen yn uchel i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr ymgeisydd wedyn gyfle i annerch y Pwyllgor er mwyn cyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, holodd Aelodau’r Pwyllgor gwestiynau i’r ymgeisydd a dilynodd trafodaeth. Cafodd yr ymgeisydd wedyn gyfle i grynhoi.

 

Yn dilyn y cwestiynau, gadawodd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddiol a’r cynrychiolydd cyfreithol y cyfarfod i ystyried a thrafod y canfyddiadau.

 

Pan ailddechreuodd y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried y materion ac wedi penderfynu:

 

(i)            nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a chywir i barhau i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hacni/Hur preifat.

 

(ii)          bod trwydded y Gweithredydd Hur Preifat yn cael ei diddymu.

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.

Cofnodion:

Dydd Mawrth 28 Mehefin 2022 am 10.00am.