Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Davies fuddiant personol fel preswylydd Heol yr Eglwys, Cil-y-coed. Datganodd y Cynghorydd Woodhouse fuddiant personol fel aelod o gymdeithas amatur sy’n llogi Theatr y Borough.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Select Committee Public Open Forum ~ Guidance

 

Our Select Committee meetings are live streamed and a link to the live stream will be available on the meeting page of the Monmouthshire County Council website

 

If you would like to share your thoughts on any proposals being discussed by Select Committees, you can submit your representation via this form

 

·      Please share your views by uploading a video or audio file (maximum of 4 minutes) or;

·      Please submit a written representation (via Microsoft Word, maximum of 500 words)

 

You will need to register for a My Monmouthshire account in order to submit the representation or use your log in, if you have registered previously.

 

The deadline for submitting representations to the Council is 5pm three clear working days in advance of the meeting.

 

If representations received exceed 30 minutes, a selection of these based on theme will be shared at the Select Committee meeting.  All representations received will be made available to councillors prior to the meeting.


If you would like to suggest future topics for scrutiny by one of our Select Committees, please do so by emailing
Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau gan y cyhoedd.

 

 

3.

Craffu’r Cynnig i Ail-wampio Theatr y Borough (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Dave Baxter, Rheolwr Theatr y Borough, yr adroddiad ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Cath Fallon a Mark Hand.

 

Her:

Gan faint y cododd y costau? A yw’r cynnydd oherwydd deunyddiau?

 

Roedd gwerth ychwanegol ar rai elfennau h.y. gan fod angen gwneud rhywbeth, sylweddolem y byddai’n fuddiol gwneud pethau eraill yr un pryd. Fe wnaeth Maintfesurydd gostio popeth i lle y credem y dylai fod, ac wedyn aethom allan i’r farchnad ar gyfer y prif gontractwr. Y contractwr a ddewiswyd oedd y cynnig gorau ac isaf. Felly, roedd yn broses gystadleuol ac yn dilyn yr un llwybr â phrosiectau eraill e.e. canolfan gelfyddydau yng Ngorllewin Cymru a wnaeth brosiect cyfalaf, lle dyblodd costau. Dylid ei ystyried fel buddsoddiad, oherwydd yn ogystal â bod yn adnodd i’r gymuned leol, mae’n sbardun ar gyfer diwylliant a chyfleoedd ar gyfer addysg, cydlyniaeth gymdeithasol ac yn y blaen.

 

A fu’n achos o wneud elw gormodol?

 

Gan edrych ar y darlun ehangach, ac o drafodaethau gyda’r penseiri allanol, nid yw’n ymddangos fod hynny’n wir. Nid yw’r sefyllfa hon yn anarferol ac mae’r contractwr wedi cytuno cadw’r pris hyd fis Medi, tu hwnt i pryd yr oedd yn rhaid iddynt.

 

Mae angen mewnbwn ariannol sylweddol gan y cyngor. Ydych chi’n hyderus na fydd hyn angen mwy a mwy o gyllid yn y blynyddoedd i ddod?

 

Ydym, rydyn ni’n hyderus ac yn ei weld fel adnodd i Sir Fynwy i gyd. Mae’n achos o fod yn ofalus gydag adnoddau diwylliannol. Wrth edrych ar y map cod post o’r rhai a fu’n bresennol mewn sioe a gynhaliwyd yn y castell yn ddiweddar, roedd y gynulleidfa wedi mynychu o dde’r sir hyd at Flaenau’r Cymoedd. Dylid gweld rheolaeth a chyfeiriad y theatr fel ased strategol. Mae’n bwysig iawn i’r Fenni ond mae angen iddo fod yn fuddiol ar gyfer y sir gyfan. Mae tair elfen i ganolfan gelfyddydau lwyddiannus: y cyfleusterau eu hunain (offer a safle), y staff a’u datblygiad sgiliau (yn achos y Borough, staff a gwirfoddolwyr medrus) a’r berthynas gyda’r gymuned a’r cyswllt gyda’r gymuned. Mae’n her ac mae’n gwestiwn o sut y gallwn roi budd i’r holl ardal: i ni, mae’n achos o fod â’r adnoddau hynny.

 

Mae’n anffodus fod costau wedi codi ond mae’n hanfodol fod yr ailwampio hwn yn mynd yn ei flaen. Defnyddiwyd y theatr am 100 mlynedd ac mae’n dod â llawer o fusnes i’r dref.

 

Mae pwysigrwydd y theatr i hunaniaeth y Fenni yn gysylltiedig gyda thrafodaethau am y siarter creu lleoedd – mae ystyried hunaniaeth unigryw a diwylliant y dref yn rhan allweddol o’r dull creu lleoedd. Mae’r mater hefyd yn cysylltu gydag ystyriaeth o ddyfodol ein trefi a’n stryd fawr: fel y soniodd yr aelod, gallai min nos yn y theatr gyda phryd o fwyd cyn hynny a/neu ddiod wedyn fod yn rhan sylweddol o economi ac apêl ddiwylliannol y Fenni.

 

Ni chafodd £279k ei benderfynu eto. A yw’r cyfarfod sydd ar y gweill gyda Cyngor Tref y Fenni i drafod y diffyg hwnnw?

 

Ydi, mae’r sgwrs ar 15  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Craffu’r Prosiectau Adfywio arfaethedig a’r Ceisiadau am Grantiau Creu Lleoedd (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 915 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Mark Hand yr adroddiad a’r atodiadau ac atebodd gwestiynau’r aelodau gyda Dave Loder:

 

Her:

Y cynnig i Lywodraeth Cymru am £554k – a oes ganddi unrhyw lais am y cyflwyniad dangosol a’r ffordd y caiff ei ddyrannu?

 

Mae’r cyllid yn gadarn. Mae’n ddegfed rhan gyfartal o’r swm a ddyrannwyd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Caiff ei weinyddu gan Rhondda Cynon Taf, sy’n broses a ddefnyddiwyd o’r blaen. Mae cwpl o gamau: yn gyntaf, cael cymeradwyaeth aelodau i’r hyn rydym yn ei awgrymu. Mae hefyd gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru eu bod yn hapus y bydd y prosiectau yn cyflawni’r deilliannau gofynnol ac yn diwallu telerau ac amodau’r grantiau. Yna mae’r trosolwg gan gydweithwyr ar sail ranbarthol – gan mai Rhondda Cynon Taf sy’n gweinyddu, nhw sy’n gyfrifol am y telerau ac amodau. Ar gyfer cyllid yn y dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl iddo ffitio gyda strategaethau ehangach e.e. rhan arall o’r cyllid grant y gwnaethom gynnig iddo yw arian i ddatblygu, mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref Cas-gwent, strategaeth gynhwysfawr ar gyfer y dref, gan  gysylltu gyda’u Cynllun Lle. Rydym hefyd wedi cyflwyno Trefynwy ar gyfer yr un peth rhag ofn fod arian dros ben. Os yw’r cyllid ar gael y flwyddyn nesaf, byddwn yn cyflwyno cynnig ar gyfer y Fenni. Mae gennym strategaethau cynhwysfawr ar waith eisoes ar gyfer Cil-y-coed a Brynbuga. Ond rydym angen i’r dogfennau hynny fod yn eu lle i sicrhau y caiff y cynigion eu llywio yn y dyfodol a’u bod yn gydnaws gyda strategaethau ehangach a gytunwyd. Ond oes, mae cam lle mae Llywodraeth Cymru yn gwirio fod yr arian cywir yn cael ei wario ar y pethau cywir. Mae gennym ddialog barhaus a pherthynas gadarnhaol gyda’r swyddogion dan sylw.

 

Sut y bydd cymryd £250k o’r cyllid sydd ar gael ar gyfer Theatr y Borough yn effeithio ar y prosiectau a amlinellir yn y cynigion dangosol?

 

Caiff Theatr y Borough ei restru yn Atodiad 2. Mae’r dyraniad o £250k a awgrymir yno eisoes. Nid yw’n effeithio ar ddim o’r cynigion eraill. Awgrymwn fod Heol yr Eglwys, Cil-y-coed yn mynd yng nghyflwyniad drafft 2022-23. Rydym ar fin sicrhau cyllid Teithio Llesol ar gyfer y llwybr hwnnw, a fyddai’r flwyddyn ariannol hon felly byddem yn defnyddio cyllid Teithio Llesol y flwyddyn ariannol hon a’r arian cyfatebol sydd ei angen gan Gyngor Sir Fynwy, a byddai arian Trawsnewid Trefi ar gyfer y flwyddyn newydd yn mynd â’r prosiect yn ei flaen. Yn gryno, gallai prosiectau Heol yr Eglwys a Theatr y Borough ill dau ddigwydd, ynghyd â’r prosiectau eraill a restrir yn y tabl.

 

Mae gennym gyfran 10% o’r grant creu lleoedd. A yw’r cynnig £75k ar gyfer Cas-gwent allan o’r grant hwnnw?

 

Na, mae tri pot gwahanol Trawsnewid Trefi. Y cyntaf yw’r grant creu lleoedd (£791k) a restrir yn atodiad 2. Mae hefyd gronfa refeniw, lle gwnaethom roi’r £75k ar gyfer strategaeth gynhwysfawr Cas-gwent. Y trydydd pot yw’r gronfa fusnes, lle’r ydym hefyd wedi rhoi rhai cynigion. Caiff eitemau eraill ar gyfer Cas-gwent (heblaw’r £75k ar gyfer y  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Cyflogaeth a Sgiliau – Craffu’r cynnydd sydd wedi ei wneud gan y rhaglenni cyflogaeth, sgiliau a phrentisiaethau (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon i gyfarfod arbennig ar 16 Medi.

 

6.

Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 590 KB

7.

Blaengynllun Gwaith y Cyngor a’r Cabinet. pdf icon PDF 371 KB

8.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion a’u llofnodi fel cofnod gywir, cynigiwyd gan y Cynghorydd Strong ac eiliwyd gan y Cynghorydd Davies.

 

9.

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu 15 Gorffennaf 2021. pdf icon PDF 699 KB

10.

Cyfarfod Arbennig - Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu 26 Gorffennaf 2021 (adroddiad i ddilyn). pdf icon PDF 313 KB

11.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf.