Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Select Committee Public Open Forum ~ Guidance

 

Our Select Committee meetings are live streamed and a link to the live stream will be available on the meeting page of the Monmouthshire County Council website

 

If you would like to share your thoughts on any proposals being discussed by Select Committees, you can submit your representation via this form

 

·      Please share your views by uploading a video or audio file (maximum of 4 minutes) or;

·      Please submit a written representation (via Microsoft Word, maximum of 500 words)

 

You will need to register for a My Monmouthshire account in order to submit the representation or use your log in, if you have registered previously.

 

The deadline for submitting representations to the Council is 5pm three clear working days in advance of the meeting.

 

If representations received exceed 30 minutes, a selection of these based on theme will be shared at the Select Committee meeting.  All representations received will be made available to councillors prior to the meeting.


If you would like to suggest future topics for scrutiny by one of our Select Committees, please do so by emailing
Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gynigion gan y cyhoedd.

 

3.

Craffu’r Gyllideb: Craffu’r cynigion ar gyfer cyllideb 2022/23. pdf icon PDF 1 MB

Defnyddiwch y ddolen hon er mwyn darllen y papurau ar gyfer yr eitem hon – mae ar gael fel rhan o agenda’r Cabinet  ar gyfer 19eg Ionawr 2022. 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4674

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Phil Murphy y cyflwyniad ac ateb cwestiynau’r aelodau gyda Ian Saunders, Jonathan Davies, Frances O’Brien, Mark Hand a Cath Fallon.

 

Her:

A allwn gael trosolwg o statws ein cronfeydd wrth gefn a sut y gallem o bosibl eu cynyddu yn y dyfodol?

 

Fe wnaethom lwyddo i gynyddu ein cronfeydd wrth gefn dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Maent tua £7m. Mae’r weinyddiaeth hon wedi llwyddo i aros o fewn ei chyllideb bob amser a gobeithiwn gael gwarged erbyn 31 Mawrth - os felly, byddwn yn medru parhau i gefnogi ein cronfeydd wrth gefn. Fe wnaeth yr enilliad TAW mawr ychydig flynyddoedd yn ôl hynny ac roedd gwarged sylweddol ar y gyllideb y llynedd, gan roi £4.6m. Felly mae’r cronfeydd wrth gefn yn cadw lan yn dda, ond nid yw’n cymryd llawer i roi tolc mawr ynddynt.

 

A yw MonLife yn rhoi adenilliad priodol ar fuddsoddiad? A yw’n benderfyniad ariannol cadarn?

 

Y broblem gyda MonLife ar hyn o bryd yw na allant gael y nifer arferol o defnyddwyr oherwydd cyfyngiadau Covid. Gyda’r gwelliannau a wnawn i’n canolfannau hamdden rydym yn canfod fod aelodaeth yn codi’n sylweddol. Roedd Trefynwy eisoes yn gwneud yn dda iawn. Mae’r Fenni yn cael adolygiadau da a bydd Cil-y-coed yn gweld cynnydd sylweddol os yw cynnig codi’r gwastad yn llwyddiannus yn yr ail gylch. Os llwyddwn i gadw y cynnydd mewn defnyddwyr, byddant yn talu amdanynt eu hunain a ddylai roi sicrwydd yn nhermau’r darlun hirdymor.

 

Mae diben MonLife yn ehangach na chanolfannau hamdden ac uchelgais iechyd, llesiant, lles meddwl ac yn y blaen. Cafodd dyfodol y gwasanaethau hyn ei benderfynu lai na dwy flynedd yn ôl, canlyniad hynny oedd bod y Cyngor eisiau model mewnol – roedd edrych ar y wahanol fodelau yn broses 4-blynedd. Mae’r enilliad ar fuddsoddiad o MonLife yn amlwg, oherwydd y buddion enfawr y mae’n eu rhoi. Mae cynghorau eraill sydd wedi allanoli wedi colli rheolaeth ar opsiynau prisio, lle gallwn ni gan bennaf gadw ein prisiau yn fforddiadwy ar gyfer teuluoedd Sir Fynwy.

 

Pa ffioedd sy’n cael eu cynyddu a gan faint?

 

Mae’n rhestr enfawr. Cafodd ffioedd eu cynyddu gan cyn lleied ag sydd modd, lle’n bosibl; 2.5% yw’r cyfartalog. Ond caiff rhai eu gosod yn allanol, felly nid oes gennym unrhyw ddewis amdanynt. Mae’r rhestr lawn ym mhapurau’r Cabinet y mae dolenni iddynt ar yr agenda. Yr unig feysydd lle’r ydym yn edrych ar gynyddu ffioedd yw Menter a Gofal Cymdeithasol.

 

Cafodd yr ymrwymiad i faterion argyfwng hinsawdd ac amgylcheddol ei nodi – a fedrwn gael manylion beth mae hynny yn ei gynnwys?

Mae ystod mawr o bethau, tebyg i geir trydan, treialon gyda hydrogen, y posibilrwydd o ail fferm solar, yr elw o siopau ailddefnydd yn mynd i blannu coed ac yn y blaen. Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf anelwn drawsnewid ein fflyd – mae hynny’n un o’r pethau allweddol - ond hefyd bethau fel buddsoddiadau mewn tiroedd a bioamrywiaeth. Mae hyrwyddo ac annog cerdded a seiclo fel rhan o Deithio Llesol hefyd yn bwysig iawn.  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol

4.1

Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu dyddiedig 9fed Rhagfyr 2021. pdf icon PDF 351 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion.

 

4.2

Cyfarfod Arbennig - Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu dyddiedig 14eg Rhagfyr 2021 (i ddilyn).

Cofnodion:

Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion.

 

5.

Rhaglen Waith y Pwyllgor Dethol Economi a Datblygu. pdf icon PDF 504 KB

6.

Blaenraglen Waith y Cyngor a’r Cabinet. pdf icon PDF 202 KB

7.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022 am 10.00am.