Skip to Main Content

Agenda and minutes

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

2.

Adroddiad Aneddiadau Cynaliadwy y Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Craffu ar adroddiad polisi cefndirol pdf icon PDF 551 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddogion Craig O’Connor a Jill Edge yr adroddiad, rhoddasant wybod i’r pwyllgor am yr Arfarniad Anheddau Cynaliadwy, sydd wedi cael ei baratoi er mwyn bod yn sail i’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

Her:

A ddylai’r system sgorio a ddefnyddir ar gyfer y diagram ar dudalen 2 gynnwys pwyntiau negyddol er mwyn lleihau sgoriau os oes problemau negyddol yn bodoli? Ee yn Nhrefnynwy mae gennym diffyg o ran capasiti carthion, a llai o fannau parcio ceir na’r rhan fwyaf o drefi mawr eraill.

Daeth yr eitemau yn y diagram gan Lywodraeth Cymru fel llawlyfr ar gyfer yr hyn y dylid ei ystyried. Mae’r ymarfer hwn yn edrych ar y mesurau meintiol ee y cyfleusterau sydd yn bodoli. Wrth symud ymlaen, bydd yr elfennau eraill ar y diagram yn cael eu hystyried, ond nid yw’r rhain yn ffurfio rhan o’r arfarniad yma. Bydd yr asesiad meintiol yma’n cael ei gynnal, a bydd trafodaethau’n digwydd gyda’r Bwrdd Iechyd, Awdurdod Addysg, D?r Cymru, ac ati. Mae gennym gyfarfod mewn ychydig wythnosau i drafod capasiti Trefynwy o ran carthion. Byddwn, felly, yn edrych ar y pethau yma, a byddwn yn ceisio cael mwy o arian gan ddatblygwyr, pe byddai safleoedd yn dod yn eu blaen, ar gyfer gwella ein seilwaith. Dim ond ar yr anheddau rheiny yn Sir Fynwy y teimlir sy’n gynaliadwy y mae’r ymarfer hwn yn edrych, a hynny’n seiliedig ar y wybodaeth feintiol sydd gennym ar hyn o bryd.

Gall treiddiad band Llydan amrywio ar draws ardaloedd bach iawn. Oherwydd natur fryniog y sir. A yw hyn yn cael ei ystyried?

Ni edrychom ar dreiddiad band llydan. Rhoddwyd ystyriaeth i gyflymder, yn seiliedig ar y wybodaeth yr oedd modd i ni gael gafael ynddi wrth gynnal yr arolwg. Bydd hyn yn cael ei ddiweddaru. Nid yw’n amlwg sut y mae modd asesu treiddiad, sut y mae modd ei fesur. Os oes gan yr aelodau syniadau yngl?n â hyn yna gallwn eu hystyried wrth wneud y gwaith yma eto yn y dyfodol.

Beth mae’r dadansoddiadau yma’n ein galluogi i wneud? Beth y mae modd i ni fynnu bod datblygwyr yn ei wneud i ni, o ganlyniad?

Mae’r arfarniad yn sail i’n Cynllun Datblygu Lleol newydd o ran ble y dylem edrych ar dwf posib, a chyfleoedd o ran tai a chyflogaeth. Ein cyfrifoldeb ni fel cyngor yw ystyried pa leoliadau yw’r rhai mwyaf cynaliadwy o ran datblygu twf. Gall y datblygiadau yma o ran twf wella ardaloedd, gan wella, o bosib, y pwyntiau negyddol yr ydym wedi eu trafod. Yn y Cynllun Datblygu Lleol diwethaf, roedd meddygfa ar fin cau, ond diolch i’r twf o ran tai yn yr ardal, fe’i cadwyd ar agor ar gyfer y gymuned. Mae datblygiadau tai newydd, felly’n sicrhau bod rhai gwasanaethau’n cael eu cadw; rydym eisiau cadw busnesau lleol ar agor a sicrhau bod ein hardaloedd lleol yn ffynnu.

Da yw gwybod pa gymunedau sy’n gynaliadwy, a gwybod am yr hyn yr hoffem ei adeiladu, ond os nad oes gennym yr ewyllys gwleidyddol  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Rheoli Llifogydd – gwersi a ddysgwyd – adborth i’r Pwyllgor Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Ross Price a Ruth Donovan adroddiad ar lafar.

Mae Llywodraeth Cymru’n cynnal ei sesiwn craffu ei hun ar yr 8fed o Hydref gyda’r gweinidog dros yr Amgylchedd er mwyn adolygu eu hymateb i’r llifogydd y llynedd. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru’n arwain ar lunio ymateb ar y cyd gan yr holl awdurdodau lleol, gyda’u Swyddog Llifogydd eu hunain, Jean-Francois Dulong. Bydd yn casglu’r ymatebion gan bob llywodraeth leol ac yn ei gyflwyno i’r sesiwn craffu ar yr 8fed o Hydref. Derbyniom e-bost gan Lywodraeth Cymru gyda chwestiynau, roedd hyn yn ddefnyddiol o ran rhoi gwybod i ni ar beth y dylai ein hymateb ganolbwyntio; rydym yn llunio’r ymateb dan sylw ar hyn o bryd. Rydym mewn cysylltiad rheolaidd gyda Thîm Llifogydd Llywodraeth Cymru, ac mae gennym berthynas dda.

Y cwestiwn cyntaf gan Lywodraeth Cymru yw a yw’r cyllid a dderbynnir ganddynt ar gyfer llifogydd a rheoli erydiad arfordirol, ac ar gyfer awdurdodau i ddarparu ymateb brys i lifogydd, yn ddigonol. Mae gennym ddyletswyddau statudol o dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r i reoli’r perygl o lifogydd, sydd, yn ein hachos ni, yn deillio o gyrsiau d?r cyffredin a, a llifogydd tir a d?r wyneb. Yr awdurdod rheoli risg ar gyfer llifogydd sy’n deillio o brif afonydd, sef yr hyn a effeithiodd Sir Fynwy fwyaf y gaeaf diwethaf (o Afon Gwy, Mynwy a Wysg), yw Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydym, felly, wedi ein cyfyngu i raddau o ran yr hyn y gallwn ei wneud, a pha gynlluniau y gallwn eu rhoi ar waith o ran llifogydd sy’n deillio o brif afonydd. Rydym yn cael cyllid refeniw o £105 mil y flwyddyn er mwyn diwallu ein dyletswyddau statudol, ac mae hyn yn cynnwys darparu’r holl weithgareddau sydd wedi eu gosod yn ein cynllun a’n strategaeth Rheoli’r Risg o Lifogydd. Mae gennym hefyd ddyletswyddau statudol o ran cynnal a chadw, archwilio, cofnodi a mapio asedau yn ogystal â chynnal ymchwiliadau, dal i fyny gyda hyfforddiant a meddalwedd. Yn fwyaf nodedig, o fis Ionawr 2019, daethom yn gorff cymeradwyo ar faterion yn ymwneud â dreiniau ar ddatblygiadau tai newydd. Nid ydym wedi derbyn cyllid ychwanegol i dalu am y gwaith ychwanegol yma, er bod y gost wedi bod yn sylweddol. Mae’r ymatebion i’r llifogydd y gaeaf diwethaf wedi arwain at ôl-groniad o ffrydiau gwaith eraill, megis ceisiadau o ran y broses SAB, ond hefyd o ran darparu ein dyletswyddau dydd i ddydd. Byddai cyllid ychwanegol yn ein helpu i ddelio â hyn.

Mae elfen gyfalaf y cyllid ychydig yn well na’r elfen refeniw. Mae’n talu am yr holl gynlluniau llifogydd yr ydym yn eu hyrwyddo. Fel arfer, mae digwyddiad sy’n achosi llifogydd, rydym yn ymchwilio er mwyn canfod y ffynhonnell a’r mecanweithiau, adnabod pwy sy’n cael eu heffeithio, gwneud cais i Lywodraeth Cymru er mwyn rhedeg cynllun llifogydd, megis adeiladu waliau neu fariau sy’n amddiffyn rhag llifogydd, ac ati. Yn ystod blynyddoedd diweddar, rydym wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran sicrhau’r cyllid yma. Mae’r llifogydd y llynedd  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Blaen Gynllun Gwaith yr Economi a Datblygu pdf icon PDF 491 KB

Cofnodion:

Roedd Seminar ar gyfer Aelodau ar gynlluniau adfer cyllideb wedi ei chynllunio ar gyfer mis Hydref, ond bydd yn rhaid ei ail threfnu. Tua diwedd mis Hydref, bydd cyfarfod ar y cyd gyda Cymunedau Cadarn er mwyn trafod parcio ceir. Mae Caffael a Bargen Ddinesig Prifddinas Caerdydd yn parhau ar ein agenda – bydd adolygiad porth o’r olaf yn digwydd yn ystod y Gwanwyn nesaf. Mae’r cadeirydd yn croesawu barn aelodau ar p’unai y gallai’r pwyllgor yma gynnal seminar ehangach y cyngor ar y fformiwla ariannu llywodraeth leol.

 

 

 

5.

Blaen Gynllun y Cyngor a’r Cabinet pdf icon PDF 799 KB

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 139 KB

·         30ain o Ionawr 2020

·         21ain o Orffennaf 2020 (Cyd-bwyllgor Dethol)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         30ain o Ionawr 2020

·         21ain o Orffennaf 2020 (Pwyllgor Dethol ar y cyd)

Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’u harwyddwyd fel cofnod cywir, gyda’r newidiadau canlynol ar gyfer y 30ain o Ioawr; Gofynnodd un aelod yngl?n ag effaith coronafeirws, pe byddai’r broblem yn gwaethygu, yn enwedig o ran cyflenwadau gan wneuthurwyr Tsieineaidd. Ymatebodd Swyddog gan ddweud pe byddai’r WHO yn uwchraddio’r broblem, byddai Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru’n gwneud asesiad, a byddai’r risg yn cael ei hasesu ar lefel awdurdod leol. Ni. Nid oedd goblygiadau uwchraddio’n wybyddus ar y pryd.

 

 

7.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf sef y 19eg o Hydref 2020 (Cyfarfod Arbennig)

8.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni waned unrhyw ddatganiadau o fuddiant.