Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd. Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod. Os hoffech fynychu un o'n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i'r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk.Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud. Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gyflwyniadau gan y cyhoedd.
|
|
Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd PDF 948 KB Darparu adroddiad ar nodau ac amcanion y gwasanaeth a thrafod y canlyniadau i blant a phobl ifanc ac effaith y gwasanaeth.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Charlotte Drury y cyflwyniad ac ateb gwestiynau aelodau gyda sylwadau ychwanegol gan Tyrone Stokes.
Her: Pa ymwneud sydd yna gydag atgyfeirio dyledion fel bod teuluoedd yn rheoli eu cyllidebau?
Mae hyn yn un o’r pethau gwirioneddol werth chweil yn y llinell gymorth a sefydlwyd – cafodd y gweithiwr ei hyfforddi i roi cyngor sylfaenol ar hawl i fudd-daliadau. Gwnaeth Llywodraeth Cymru y gwaith hwn yn 2020/21 gan gynnig cyfleoedd hyfforddi i helpu cynyddu sgiliau pobl a fedrai fod mewn sefyllfa i gynnig cyngor. Mae gennym hefyd gysylltiadau da iawn rhwng y panel Cymorth Cynnar a’r panel Ymyriad Tai; mae gan y panel Ymyriad Tai lawer o gyfleoedd i bobl geisio cyngor yn ymwneud â hawl i fudd-daliadau, cyngor ar fudd-daliadau, cynyddu incwm, rheoli dyledion a chyngor ar ddyledion. Mae gennym weithiwr ar y ddau banel hynny i sicrhau ein bod yn cydlynu yn y ffordd gywir a fod pobl yn cael y cymorth cywir.
Mae pryderon am blant sydd heb gysylltu gyda gweithio ar-lein, sy’n dal i fod gartref nawr. A oes ffyrdd i’w hannog i ddod yn ôl i’r ysgol? Oherwydd fod addysg mor bwysig, mae’r holl wahanol wasanaethau yn codi lan ar gefnogi plant yn ôl i addysg a chefnogi eu mynediad i ddysgu. Mae thema sylfaenol o addysgeg gymdeithasol ar draws y tirlun. Mae bron yr holl blant y mae ACT yn gweithio gyda nhw yn gwella eu presenoldeb addysgol. Yn nhermau pethau penodol, mae darn mawr o waith yn mynd rhagddo rhwng y seicolegwyr addysgol a chwnsela risg ysgolion i edrych ar osgoi ysgol seiliedig ar emosiwn - mewn gwirionedd, mae gwreiddiau’r rhan fwyaf o osgoi ysgol mewn llesiant emosiynol h.y. plant heb fod yn hapus yn yr ysgol. Rwyf hefyd yn aelod o bwyllgor rheoli Gwasanaeth Atgyfeirio Disgyblion Sir Fynwy, sy’n fy helpu i wneud cysylltiadau defnyddiol. Mae’n rhaid i wella dysgu plant a’u deilliannau dysgu fod wrth galon popeth a wnawn, ond nid yw’n ateb cyflym. Yn Sir Fynwy mae’n rhwyddach gweld y gwahaniaeth rhwng plant o gymunedau mwy llewyrchus a llai llewyrchus nag mewn awdurdodau eraill, a gwyddom fod hyn yn effeithio ar eu lles emosiynol.
A fu’r atgyfeiriadau yn neilltuol oherwydd bod teuluoedd wedi eu cyfyngu i un t?? I’r graddau yr oedd hynny yn ffactor, rydym fwy neu lai drwy hynny yn awr gan fod plant yn ôl yn yr ysgol ac oedolion yn ôl yn y gwaith. Mae lle bob amser yn ystyriaeth: mae cael mynediad i’r awyr agored, mannau gwyrdd ac yn y blaen mor bwysig i les pobl fel mai’r ateb yw ydi a nac ydi.
Mae’n wych gweld ein bod yn gwneud llawer o waith ar ymyriad. Ni allwn byth wneud digon. Mae cyfeiriad teithio, yn yr ystyr o ddilyn dull ataliol, yn hollol wahanol erbyn hyn i’r hyn oedd 7 neu 8 mlynedd yn ôl. Dylai awdurdodau lleol yn cymryd plant i ofal bob amser fod y cam olaf a dim ond cael ei wneud os yw popeth arall wedi methu. Os gallwn wneud ... view the full Cofnodion text for item 3. |
|
Craffu ar y sefyllfa gyllidebol (refeniw a chyfalaf) ar gyfer gwasanaethau sy'n dod o dan gylch gwaith y pwyllgor ym Mis 9.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Tyrone Stokes a Nicola Wellington yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau.
Her: A yw’r rhan fwyaf o’r grantiau yn seiliedig ar Covid neu ar gyfer agweddau neilltuol? Beth yw’r cyfyngiadau amser ar eu gwario? Mae grantiau ar gyfer eitemau penodol heb fod yn gysylltiedig â Covid, Er enghraifft y grant Anghenion Dysgu Ychwanegol o £184k, y mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ei le ar ei gyfer, a’r grant Cynnal a Chadw Refeniw, £1.1m, a fu gennym ers nifer o flynyddoedd. Caiff y grant hwnnw ei wario eleni; yn wir, cafodd ei wario i wrthbwyso gwariant presennol ysgolion. Rydym wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru y gellir ymestyn nifer o’r grantiau eraill i’r flwyddyn ariannol nesaf, fydd yn galluogi ysgolion i gynllunio a gwneud darpariaeth iawn ar eu cyfer.
Er bod yr adroddiad yn dangos sefyllfa ariannol ffafriol, mae grantiau unwaith yn unig wedi cuddio’r pwysau gwirioneddol wrth symud ymlaen. Felly mae’n dal i fod pwysau £1.3m ar gyfer elfen plant mewn gofal cymdeithasol. Y niferoedd newydd sy’n dod i mewn yw’r rhai sydd angen cymorth drud. Mae’r grantiau yn cael eu croesawu’n fawr, ond rydyn ni’n dal i fynd i’r flwyddyn nesaf gyda her.
Yn nhermau pwysau ar ofal cymdeithasol, a yw hynny oherwydd plant sydd mewn gofal – y niferoedd neu oherwydd Dim o reidrwydd. Y prif bwysau yw’r boblogaeth derbyn gofal sydd gennym. Ond rydym hefyd yn ceisio cael cyllid lle’r ydym wedi defnyddio’r holl gyfleoedd i ddefnyddio’r adnoddau prin sydd gennym – rydym yn ceisio hybu a chael cymorth ataliol ymhellach i lawr, fel y soniwyd yn yr eitem flynyddol, gan mai dim ond os yw popeth arall wedi methu y dylid dod â rhywun i ofal. mae’n achos o geisio ategu’r dull ataliol sydd gennym.
Pan fyddwch yn mynd am ddulliau arloesol, ydych chi’n edrych am y grantiau priodol i ategu’r gwaith hwnnw? Ydym, ac mae cwestiwn o waddol, gan pan ddaw grantiau i ben ni allwn ‘droi’r tap i ffwrdd’ – cawn ein gadael yn dal i geisio dal ati gyda’r gwaith hwnnw, fel arall caiff ei golli.
Crynodeb y Cadeirydd: Diolch i chi am yr adroddiad. Mae’n dda gweld fod balansau ysgolion yn gwella. Diolch i’r staff am eu gwaith caled mewn maes anodd iawn. |
|
Blaenraglen Gwaith Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc PDF 496 KB Cofnodion: O gofio’r ystyriaethau gwleidyddol yn ystod y cyfnod yr etholiad, dylai Anghenion Dysgu Ychwanegol gael ei ystyried gan y weinyddiaeth nesaf – felly dim ond prosiect Myst y bydd y cyfarfod nesaf yn rhoi sylw iddo. Yn dilyn y cyfarfod nesaf, bydd y pwyllgor newydd (ar ôl yr etholiad) yn penderfynu ar y rhaglen waith.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 467 KB · 20fed Ionawr 2022 · 31ain Ionawr 2022 (Arbennig)
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · 20Ionawr 2022 · 31 Ionawr 2022 (Arbennig) Cadarnhawyd a llofnodwyd y cofnodion. Cynigiwyd gan y Cynghorydd Powell ac eiliwyd gan y Cynghorydd Groucott.
|
|
Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf |