Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

 

2.

Craffu ar y Gyllideb: Craffu ar gynigion y gyllideb ar gyfer 2022/23 pdf icon PDF 351 KB

Defnyddiwch y ddolen hon i gael mynediad i'r papurau ar gyfer yr eitem hon - ar gael fel rhan o Agenda'r Cabinet y 19eg Ionawr 2022 . 

 

https://democracy.monmouthshire.gov.uk/ieListDocuments.aspx?CId=144&MId=4674

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Phil Murphy gyflwyniad gyda Nicola Wellington. Atebodd y Cynghorydd Murphy, Will McLean, Tyrone Stokes a Jane Rodgers gwestiynau’r aelodau.

Her:

Mae ysgolion yn parhau i dderbyn cyllid grant ar ddiwedd y flwyddyn – a all y pwyllgor hwn gael adroddiad ar yr hyn y gwariodd ysgolion y cyllid hwn arno a bydd yw effaith y gwariant hwnnw?

Bu swm sylweddol o gyllid grant i ysgolion mewn blynyddoedd diweddar a drwy gydol y pandemig bu ffrydiau cyllid sylweddol tebyg i gynllun ‘Recriwtio, Adfer, Codi Safonau’ er mwyn cefnogi dysgwyr a’u helpu i ddal lan a chau’r bwlch a allai fod wedi cynyddu yn ystod y pandemig. Gweithiwn yn agos gyda’n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Cyflawni Addysg i ddeall effaith y gwariant hwnnw – byddai’n adroddiad da iawn i ddod ag ef i’r pwyllgor hwn, byddai.

Gyda balansau ysgolion yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol, sut fydd Cyngor Sir Fynwy yn cadw’r fantol rhwng gwariant ysgolion a gwariant arall yr awdurdod lleol wrth symud ymlaen?

Wrth i ni fynd drwy’r flwyddyn mae’r awdurdod wedi wynebu pwysau sylweddol yn ein cyllideb Anghenion Dysgu Ychwanegol a fu’n anodd i ni ei reoli; yn neilltuol, gostau plant yn parhau yn y sir. Mae’n addas i ni weithio gyda’r ysgolion mewn ffordd aeddfed i ddeall beth yw’r anghenion – mae’r gwaith y bu Nicola Wellington yn arwain arno yn diwygio methodoleg dirprwyo ar gyfer cyllid anghenion ychwanegol yn enghraifft wych o hynny. Gobeithiwn weld mwy o waith fel hyn yn y dyfodol. Mae’n debyg y bydd ysgolion yn gweld cynnydd eto mewn balansau ar ddiwedd eleni, sy’n debyg o gael ei chwyddo gan grantiau ar ddiwedd y flwyddyn. Bydd gan rai ohonynt feini prawf gwariant penodol (ac felly yn cyfrif yn yr adroddiad y gwneir cais amdano yn y cwestiwn cyntaf), tra bydd eraill yn mynd yn uniongyrchol i’r llinell waelod.

Mae’n hanfodol ein bod yn glir iawn gyda’r ysgolion pan fo balansau sylweddol wedi cronni fod ganddynt gynlluniau cadarn sy’n cynrychioli gwariant effeithlon ar eu hysgolion. Rydym yn siarad gyda’r ysgolion am sut y gallwn eu helpu i wneud hynny, gan sicrhau eu bod yn deall hyblygrwydd llawn a photensial caffael, meddwl am yr economi cylchol, ac os oes gwariant cyfalaf, eu bod yn gwneud hynny mewn ffordd wybodus sy’n diwallu ymrwymiadau am gynllunio, rheoli adeiladu ac yn y blaen. Wrth i ni symud ymlaen, mae’n debyg y bydd angen ail-fantoli’r arian y mae ysgolion yn ei ddal eu hunain a’r arian y gallwn ei fforddio’n ganolog i’w cefnogi.

Mae’r gyllideb yn sôn am raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yng nghyswllt y Fenni a Chas-gwent. A allwch roi sylw ar y cynnydd?

Rydym yn cyrraedd amser tyngedfennol yng nghyswllt yr ysgol newydd yn y Fenni gyda chyflwyno achos busnes llawn yn y dyfodol agos, yn ogystal â’r cais cynllunio. Ar 19 Ionawr cytunwyd cymryd y cam terfynol yn yr ymgynghoriad yn ymwneud â chau’r ddwy ysgol ac agor ysgol newydd. Daeth y cyfnod galw mewn i ben ddydd Gwener felly caiff  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid pdf icon PDF 318 KB

To provide a report on the aims and objectives of the service and to discuss the outcomes for children and young people and the impact of the service.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Chesney Chick y cyflwyniad ac ateb cwestiynau aelodau.

Her:

Pa mor fuan ydych chi’n dod i wybod am ddarpar droseddwyr?

Gwasanaeth ataliol ydyn ni. Bu symud cyn i mi ymuno â’r tîm o ddelio gyda phobl yn y ddalfa i ddelio gyda phobl yn y gymuned, mewn ffordd ataliol. Gweithiwn yn agos iawn gyda’n cydweithwyr mewn gwasanaethau plant, addysg ac asiantaethau partner arall i ddynodi’r rhai a all fod wedi cael pwyntiau sbardun – p’un ai a gawsant brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod neu fel arall – sy’n awgrymu y gallent ddod i’n sylw. Wedyn edrychwn ar wasanaethau mewn cysylltiad gyda phartneriaid tebyg i’r Gwasanaeth Ieuenctid i ddatblygu adnoddau o fewn maes neilltuol, os oes rhai problemau yn dechrau dod i’r amlwg. Os yw ar sail unigol, byddai angen i ni edrych os oes gwasanaeth mewnol a allai ddiwallu’r angen hwnnw.

Fel enghraifft, yn ystod y cyfnod clo gwelwyd cynnydd mewn trais domestig (plentyn ar brif ofalwr). Nid oedd yr wybodaeth a’r data oedd ar gael gan wasanaethau plant Sir Fynwy a Torfaen yn awgrymu fod hynny’n broblem i ni, ond fe wnaethom sylweddoli efallai nad oeddent efallai y gwir ffigurau gan nad oeddent yn cynnwys ysgolion. Fe wnaethom greu dwy swydd o fewn gwasanaethau plant a fyddai’n helpu gyda’r broses, gan helpu i adnabod achosion posibl a cheisio eu dal yn ataliol.

A fu cynnydd mewn bwlio ar-lein a dylanwadu yn ystod y cyfnodau clo, ac a fu modd i chi wneud unrhyw beth amdano?

Nid oedd unrhyw ddata i awgrymu y bu cynnydd ond clywsom fod potensial ar gyfer cynnydd. Ond ni ddaeth dim byd yn uniongyrchol i sylw’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid. Fodd bynnag, yn ystod y pandemig fe wnaethom ddefnyddio llwyfannau digidol fel Teams i gysylltu gyda’r plant yr oedden yn ymwneud â nhw, yn arbennig yn ystod yr haf: fe wnaethom roi cwisiau iddynt, er enghraifft, anfon tasgau atynt drwy’r post ac yna gysylltu â nhw i’w marcio, yna roi gwobrau ac ati. Y syniad oedd dal ati i ennyn eu diddordeb. Cawsom ein synnu ar yr ochr orau gyda’r ymateb i’r sesiynau hynny – roedd rhai yn ei chael yn haws cysylltu ar-lein nag a fyddent wedi gwneud fel arall.

Gan fod yn wasanaeth ar y cyd gyda Thorfaen, a oes dadansoddiad o’r niferoedd ar gyfer pob ardal awdurdod lleol? A yw’r rhain wedi newid dros gyfnod?

Oes, mae dadansoddiad y gallwn ei gyflwyno yn nes ymlaen os yw’r pwyllgor yn dymuno. Mae gwahaniaethau hirsefydlog rhwng y ddwy ardal ac nid yw hynny wedi newid yn ystod y pandemig. Mae’n anodd rhoi rhifau penodol ar hyn o bryd ond fel arfer, er enghraifft, os oes 10 o Dorfaen byddai’r nifer o Sir Fynwy yn 5-7 mae’n debyg. Mae awgrym fod y bwlch yn cau, fodd bynnag. Mae cymhlethdodau’r achosion yn aros yr un fath ac mae’r problemau gwraidd nodweddiadol yn aros yn gyson yn y ddwy ardal.

Mae adroddiadau i’r Pwyllgor Dethol Oedolion yn awgrymu fod pobl ifanc sydd angen cartref yn cyflwyno gydag  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf: 3 Mawrth 2022