Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Roedd buddiannau personol na sy’n rhagfarnu wedi eu datgan gan y Cynghorydd Thomas fel Llywodraethwr  ar Ysgol Gymraeg Y Fenni, y Cynghorydd Powell fel Llywodraethwr  ar Ysgol Brenin Harri’r VIII, y Cynghorydd Jones fel Llywodraethwr ar Ysgol Gymraeg Y Fenni, Tony Easson fel Llywodraethwr  ar Ysgol Y Ffin, a Maggie Harris fel Llywodraethwr gydag Ysgol Deri View.

 

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

 

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

Os hoffech i rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

 

·      Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu os yn well gennych;

·      Cyflwynwch gynrychiolaeth ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)


Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer
cyfrif Fy Sir Fynwy  er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen. 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod.

 

Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

 

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

 

Cofnodion:

Sylwadau Ysgrifendig gan Mary Ann Brocklesby, Llywodraethwr Ysgol Gynradd Deri View a Chynghorydd Tref Y Fenni. Yn fy nghapasiti personol.  

Annwyl Aelodau’r Pwyllgor,

Mae fy ymateb isod i’r ddogfen ymgynghori ar y cynnig i greu ysgol pob oed Y Fenni. Mae’r cynnig yn amlinellu ag eglurder pam fod angen disodli Ysgol Brenin Harri’r  VIII gydag awyrgylch dysgu sydd yn addas i’r diben ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n llai eglur am y buddion i Deri View (DV). Yn fy marn i, mae’n methu gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer yr ysgol newydd mewn nifer o ffyrdd allweddol.  

1.       Y sylfaen dystiolaeth

Mae’r sylfaen dystiolaeth yn wan. Maent yn gofyn i ni gefnogi un o’r buddsoddiadau mwyaf yn Y Fenni a'r hyn sydd i ddigwydd yn y dyfodol ac mae’n seiliedig ar set o dybiaethau heb gynnig y dystiolaeth y bydd yr ysgol newydd, ar y cyfan, yn arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer plant yn nalgylch DV,  o’i gymharu gyda’r hyn sydd eisoes yn cael ei gyflawni gan ysgol ffyniannus sydd yn gwella’n barhaus. Nid wyf am ailadrodd y dadleuon yma oni bai am ddweud bod CSF heb wneud diwydrwydd dyladwy a heb gynnal yr asesiadau sylweddol sydd angen o dan ddyletswydd economaidd-gymdeithasol o ofal, nodweddion  gwarchodedig, yn enwedig oedran a Deddf Diogelu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Heb os, mae hyn yn gamgymeriad gyda  46%, a chanran sy’n cynyddu, o blant sy’n derbyn Prydau Bwyd Ysgol am Ddim. 

2.       Darpariaeth y Feithrinfa

Mae eithrio darpariaeth y feithrinfa o gylch gorchwyl y cynigion, gan na fydd yn cael ei chynnal, yn anhygoel. Mae asesiadau effaith ar gyfer y ddarpariaeth arfaethedig ar gyfer y gr?p oedran critigol hwn mewn ardal o dan anfantais nid yn unig yn angenrheidiol  ond mae’n orfodol. Dylai’r asesiadau yma gael eu hatodi at y cynnig ond nid ydynt ar gael. Mae’r cynnig arfaethedig cyfredol yn israddio’r  ddarpariaeth bresennol, o ran amser a mynediad, gyda llai o oriau a dim sicrwydd o lefydd yn y feithrinfa breifat newydd. Mae’r posibilrwydd bod plant bregus ac o dan anfantais yn colli eu darpariaeth,  yn enwedig y rhai hynny sydd y tu hwnt i drothwy Dechrau’n Deg, ac mae hyn mewn peryg o arwain at blant yn wynebu mwy o anfantais a’n fwy bregus, dim llai.    

3.       Cynnwys a chydweithio gyda rhieni  

Ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod rhieni a’r gymuned ehangach o gwmpas DC wedi eu cysylltu ac yn rhan o’r cynlluniau ar gyfer yr ysgol ac addysg eu plant.  Yn y cyfarfod cyhoeddus yr oeddwn wedi ei fynychu yn DV, roedd yna ymdeimlad fod pobl wedi eu brifo a phryder bod yna gais iddynt rannu eu barn mor hwyr ar ôl datblygu’r cynnig, heb unrhyw gydnabyddiaeth o sut y byddai colli DV yn effeithio ar y gymuned. Nid oedd rhieni wedi eu hargyhoeddi y byddai eu plant yn ddiogel, a bod y cyfnod pontio o ran addysg uwchradd, y rôl y mae DV wedi chwarae o ran cydlynu’r gymuned a dwyn y gymuned ynghyd, wedi ei hystyried  ...  view the full Cofnodion text for item 2.

3.

New School in Abergavenny pdf icon PDF 1 MB

Trafod y themâu sy’n dod i’r amlwg yn dilyn cau’r ymgynghoriad ar 22 Mehefin 2021.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd Will McLean wedi rhoi cyflwyniad ac wedi ateb cwestiynau’r aelodau.

Her:

Yn sgil y lefel isel o adborth gan y gymuned, a’r niferoedd sydd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad o’u cymharu gyda’r hyn sydd yn digwydd mewn ymgynghoriadau ar brosiectau tebyg eraill, a fydd angen cynnal ymgynghoriad pellach?  

Yn yr adolygiad o’r ardal dalgylch, roedd y rhan fwyaf o bobl yn bositif ond nid oeddynt wedi mynegi eu barn, ac felly, roedd y sawl a oedd yn gwrthwynebu wedi dominyddu. Pan oeddwn wedi gohirio’r ymarfer ac wedi ei gynnal eto yn y blynyddoedd diwethaf, un o’r darnau allweddol o adborth oedd bob pobl yn credu fod hyn yn mynd i ddigwydd ‘ta beth, ac felly heb gymryd rhan. Mae rhai o’r dulliau sydd wedi ei hamlinellu wedi cyffroi pobl - roedd  y ddadl ynghylch sefydlu darpariaeth a gynhelir/nas cynhelir wedi arwain at nifer o bobl yn lleisio barn amlwg.  Mae’r niferoedd sydd wedi cynnig adborth felly yn weddol debyg. Mae’r digwyddiadau ymgynghori sydd wedi eu cynnal wedi rhoi sicrwydd i bobl. Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu fod angen ymgynghoriad pellach o ran llywodraethiant, er y bydd yna gryn dipyn o ymgynghori ar sut y bydd yr ysgol yn edrych, yn gweithredu ayyb. Mae  Tim Bird wedi ymuno gyda’r tîm o Ysgol Gyfun Trefynwy, lle’r oedd yn gyfrifol am ddarparu’r prosiect llwyddiannus a oedd gennym yno. Bydd yn medru cynnig profiad o’r cydweithredu a’r ymgysylltu a wnaed yno ac yn rhan o’r gwaith y byddwn yn ei wneud gydag ysgolion yn y dyfodol.  

Os mai’r penderfyniad yw mynd am feithrinfa nas cynhelir ym Mlwyddyn 3, ni fydd unman gan y plant Dechrau Deg i fynd iddo. Oni fydd Blwyddyn 3 yn dod yn elitaidd ac ar gyfer y bobl sydd yn medru fforddio talu am yr addysg honno?

Mae yna gynllun i adleoli ychydig o’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg a’i chynnwys yn y lleoliad ysgol newydd, a fydd yn fuddiol, a chadw’r Ganolfan    Acorn Centre ar safle Deri View ar gyfer y ddarpariaeth  Dechrau’n Deg. Felly, rydym am ehangu a datblygu’r cyfle ar gyfer ymgysylltu rhieni, a chefnogi’r plant hynny hefyd.  Rydym  yn anelu i greu’r ymdeimlad hyn o ran canolfannau teulu  a phlant; rydym yn gwybod pa mor bwysig yw 1000 diwrnod cyntaf plentyn a chyn bwysiced yw’r ffordd y maent yn symud i ddechrau bywyd ysgol. 

A ydym yn medru ystyried teithio ar gyfer plant sydd yn dymuno parhau i astudio yn y Gymraeg ar ôl TGAU, os nad oes opsiwn iddynt wneud hyn o fewn Sir Fynwy?

Roeddem yn credu bod y ffrwd cyfrwng Cymraeg yn ddatblygiad positif gan y byddai’n rhoi datrysiad o fewn y sir ar gyfer medru cynnig addysg cyfrwng Cymraeg ar ôl ysgol gynradd, ond wedi trafodaethau gyda chydweithwyr yn y fforwm, maent wedi bod yn eglur yngl?n â’r ffaith y byddai hyn yn effeithio ar brofiad y plant yma. Mae’r trafodaethau sydd i’w cynnal gyda chydweithwyr ym  Mlaenau Gwent, Merthyr a de Powys yn meddu ar y  ...  view the full Cofnodion text for item 3.

4.

Budget Monitoring

Cofnodion:

Roedd Tyrone Stokes a Nicola Wellington wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau gan aelodau.  

Her:

Nid oes digon o arian gan ddwy ysgol cyfrwng Cymraeg; a ydych yn medru ehangu ar hynny a sut ydym yn delio gyda hyn? 

Gyda rhai ysgolion bach fel Ysgol Y Ffin, rydym wedi dysgu nad yw’r cyllid sydd yn cael ei bennu gan y fformiwla bob tro yn ddigon i dalu am gostau sefydlog yr ysgol. O dan y rheoliadau, rhaid i ni roi 70% yn seiliedig ar nifer y disgyblion, ac felly, os yw’r nifer yn llai, yna mae unrhyw arian dros ben yn medru cael ei wario yn erbyn costau’r safle a’r adnoddau, fel sydd yn digwydd mewn ysgolion mwy. Rydym yn gorfod delio gyda hyn bob blwyddyn ac rydym yn cynnig cymorth o dan y fath amgylchiadau. 

Nid oes digon o arian gan Ysgol Y Fenni. Rydym yn gweithio yn agos iawn gyda’r ysgol, yn ystyried y strwythurau staffio yn benodol. Mae’n ysgol sydd yn tyfu, gyda mwy o ddisgyblion yn dod i mewn, ond rydym yn credu y bydd adolygiad o’r strwythur staffio yn helpu gyda hyn.  

Diolch i’ch swyddogion am bob dim y maent yn ceisio gwneud er mwyn ceisio mantoli’r gyllideb. Mae’n anffodus bod Gwasanaethau Plant yn gorfod gorwario ei gyllideb bob tro.   

Nid yw hwn yn fater sydd yn effeithio ar Sir Fynwy neu Gymru’n unig ond mae’n digwydd ar draws y DU. Mae yna gynghorau fel Wakefield na sydd yn medru cynnig darpariaeth ar gyfer lleoliadau cost-uchel. Unwaith y mae awdurdod lleol yn mynd i ddarparwyr cost-uchel, mae’r darparwyr hynn yn gwybod nad oes opsiwn arall ar ôl gan yr awdurdod lleol. Rydym yn ceisio lleihau a negodi’r costau yma ond mae ein p?er dipyn yn llai na’r darparwr.  Rydym yn edrych ar ein Strategaeth Gwasanaeth Aml-Asiantaeth fel bod modd i ni gynnig mwy o gymorth drwy gyfrwng ein hadnoddau mewnol ond mesur dros dro yw hyn gan ein bod yn ceisio symud y plant yn ôl i’r sir ond mae hyn yn cael ei wneud nid yn unig ar sail cyllid – rhaid mai hyn yw’r peth cywir i’w wneud ar gyfer y plentyn Mae’r her gyfreithiol o ran gofalwyr dan berthynas  wedi ein harwain i gysoni’r cyfraddau yr ydym yn talu iddynt fel eu bod yn cyfateb i’r hyn yr ydym yn talu gofalwyr maeth. Nid oedd modd rhagweld hyn ac roedd yn gyfrifol am chwarter o’r gorwariant.

Mae Ysgol Uwchradd Cas-gwent eto mewn diffyg ariannol ond nid ysgolion eraill. A ydych yn medru cynnig rhai sylwadau am hyn? 

Mae Cas-gwent wedi wynebu sawl her sydd yn ymwneud gyda strwythur staffio y maent wedi ceisio ei weithredu Yn anffodus, oedwyd yr ailstrwythuro yn sgil y pandemig, ond mae wedi ei weithredu ers y mis hwn. Bydd yn cymryd amser cyn bod yr arbedion yn cael eu sicrhau ac roeddynt wedi wynebu blwyddyn o gostau uwch oherwydd dechreuodd y pandemig pan oeddynt am wneud y newid i’r strwythur staffio. Mae eu cynllun adferiad  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Children and Young People Select Forward Work Plan

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn Ionawr 2022, hoffai’r pwyllgor dderbyn diweddariad ar Ysgol Cas-gwent.

 

 

6.

Council and Cabinet Forward Plan pdf icon PDF 371 KB

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Mai 2021 a 26 Gorffennaf 2021. pdf icon PDF 468 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion ac fe’u llofnodwyd fel cofnod cywrain, a chynigiwyd hyn gan y Cynghorydd Powell ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Brown. Roed y Cynghorydd Edwards am egluro nad oedd wedi mynychu’r cyfarfod blaenorol.  

 

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf: 14eg Hydref 2021