Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Council Chamber, County Hall, The Rhadyr, Usk, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Datganodd aelodau diddordebau di-ragfarn fel llywodraethwyr ysgol.

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Cofnodion:

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

3.

Craffu chwarterol o Ddatganiad Alldro Monitro Cyfalaf a Refeniw 2018/19. pdf icon PDF 373 KB

Cofnodion:

·         Ledled yr awdurdod llawn rhagwelir diffyg refeniw net o £2.4m a chyflawnwyd 88% o arbedion cyllid.   Mae gwasanaethau cymdeithasol plant yn rhagweld £2.3m o orwariant.

·         Mae lleoliadau allanol am blant sy’n derbyn gofal lawer yn fwy drud gan gynnwys costau cyfreithiol mwy. 

·         Roedd yna orwariant am ran ganolog y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc o £391,000 a gorwariant Anghenion Dysgu Ychwanegol o £618,000. £275,000 o hyn oedd diffyg incwm o Mounton House.

·         Roedd yna ddiffyg incwm o glybiau brecwast

Her Aelodau

·         Ceisiodd Aelodau manylder mwy yngl?n â'r rhesymau tu ôl costau cynyddol lleoliadau plant sy’n derbyn gofal.   Clywon nhw fod y tueddiadau’n adlewyrchu’r darlun cenedlaethol tra bod nifer o leoliadau’n cael eu penderfynu gan y llysoedd.

·         Holwyd Aelodau yngl?n â’r nifer o ysgolion sydd â diffyg.   Clywon nhw bod 14 ysgol â diffyg. Cafodd y wobr tâl yn ogystal â phensiynau eu cyllido'n llawn ar gyfer ysgolion ac nid oes wedi bod unrhyw adolygiadau i'r fformiwla cyllid teg dros nifer o flynyddoedd.  Mae staff wedi bod yn gweithio â Chydweithredwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Phrifathrawon ar anghenion y plant er mwyn sicrhau y ceir yr effaith fwyaf posib gan y cyllid.

·         Gofynnodd yr Aelodau am y safle yngl?n â’r cyllid diswyddo a beth allai'r effaith fod o gau Mounton House. Pan oedd cyngor wedi goruchwylio ysgolion yn cau yn y gorffennol roedd yna gyllid canolog yn ymwneud â chostau diswyddo oherwydd taw amgylchiad arbennig yw hwn.  Mae’r gyllideb yn cael ei hailgyflenwi pob blwyddyn.

Canlyniadau

·         Archwiliodd aelodau’r adroddiad cyllideb a gofynnon nhw gyfres o gwestiynau i geisio sicrhad bod gweithrediadau priodol yn cael eu cymryd

·         Cafwyd pryderon gan y pwyllgor yngl?n â’r gwariant cynyddol yng ngofal cymdeithasol plant ond cafodd ei adnabod gan y pwyllgor ei fod yn anodd cyllidebu ar ei gyfer gyda nifer o ffactorau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod

 

 

4.

Cyflwyniad ar ganlyniadau diweddaraf o ran perfformiad ysgolion ar gyfer 2019. pdf icon PDF 2 MB

Cofnodion:

·         Clywodd y pwyllgor o’r Prif Ymgynghorydd Her a Dirprwy Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA).   Clywon nhw nad yw data asesiad Athrawon bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer atebolrwydd ac nid ydynt yn cael eu cyfanredu i lefel awdurdod lleol.  Mae data dal ar gael er mwyn hysbysu addysg, dysgu a her ar lefel ysgol. 

·         Clywodd aelodau sut y bydd y GCA yn adrodd perfformiad o dan y trefniadau newydd hyn sy’n cymharu ysgolion Sir Fynwy gydag eraill yn yr ardal GCA.  Mae hyn wedi’i rhoi mewn cyd-destun gyda defnydd data prydau ysgolion am ddim.

·         Mae’r tablau yn yr adroddiad yn galluogi GCA i ofyn cwestiynau o ysgolion yn archwilio'r rheswm pam efallai bod rhifau eithriadol yn bodoli ac i edrych ar gynlluniau datblygu ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn ymddwyn yn briodol.

·         Mae’r awdurdod lleol yn gweithio gyda'r GCA er mwyn sicrhau bod y cwestiynau hyn yn cael eu gofyn a’u hateb yn briodol.  Mae lefel ychwanegol o archwiliad a sancsiwn yn digwydd trwy gynlluniau datblygu’r ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion.

Her Aelodau

·         Heriodd Aelodau dilysrwydd defnyddio data prydau ysgolion am ddim fel dangosydd effaith lefelau incwm ar gyrhaeddiad. Clywodd y pwyllgor, er nad yw’n berffaith, y mesur gorau sydd ar gael yw hi a’i fod yn fwy dibynadwy gyda charfannau mwy.

·         Ceisiodd Aelodau eglurdeb yngl?n â sut y mae GCA yn cefnogi ysgolion er mwyn sicrhau bod asesiadau athrawon yn fanwl gywir. Adroddodd yr ymgynghorydd her bod cyfoedion yn cymedroli ar lefel glwstwr a thrwy gydol y flwyddyn.

·         Codwyd pryderon gan Aelodau bod yr arddull newydd yn ei gwneud hi’n fwy anodd i rieni a phwyllgorau i archwilio er mwyn deall data cymharol. Clywodd Aelodau taw penderfyniad Llywodraeth Cymru yw hwn ac nid yw o fewn rhodd y prif swyddog.

Canlyniad

·         Clywodd aelodau am, a chymeron nhw’r amser i ddeall ac i egluro, y ffordd newydd y bydd data ysgol yn cael eu cyflwyno bydd yn hysbysu ac yn sicrhau archwiliad parhaol o gyrhaeddiad addysgol.

 

 

5.

Craffu er mwyn cynnig barn ar y cynigion ar gyfer Ysgol Mounton House (i ddilyn). pdf icon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·         Cafodd adroddiad yngl?n â'r cynnig ei gyflwyno cyn ei ystyried yn y Cabinet.

·         Crynhodd y prif swyddog nifer o weithiau i’r pwyllgor sut y bydd dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi yn y dyfodol.

·         Mae swyddogion yn argymell cyhoeddi hysbysiadau yngl?n â chau Ysgol Mounton House ar ddiwedd Awst 2020.

·         Mae gan yr ysgol le ar gyfer 58 disgybl ac mae 15 o ddisgyblion yn ei mynychu ar hyn o bryd. Mae 8 o’r rheini yn byw yn Sir Fynwy, o’r rheini mae dau yn perthyn i awdurdodau eraill. Ychydig iawn o angen sydd am y fath yma o ysgol yn y sir.

·         Y gost i redeg yr ysgol oedd £1.26M y flwyddyn hon a gall yr awdurdod adfer £471K. Mae yna gost net o £131K fesul disgybl sy’n cynyddu i £263K o fis Medi 2020 os yw’r ysgol yn aros ar agor. Mae hyn lawer yn uwch na’r tâl a wnaed i awdurdodau eraill ar gyfer lleoli.   Adroddodd y Prif Swyddog nad yw’r argymhelliad hwn yn cael ei gymryd heb ystyriaeth neu heb unrhyw gymhelliant heblaw am ddarganfod y ddarpariaeth orau ar gyfer y disgyblion. Nid yw’r adeilad bellach yn addas i’w ddefnyddio ac nid yw dynodiad bellach yn cwrdd ag anghenion disgyblion yn Sir Fynwy.

 

Her Aelodau

·         Ceisiwyd sicrwydd gan aelodau yngl?n â dyfodol staff ac yngl?n â sut y buasai darpariaeth ar gyfer disgyblion sydd yn yr ysgol ar hyn o bryd yn cael ei gwneud ar ôl cau.  Clywodd aelodau y bydd cau'r ysgol cyn diwedd 2019-20 yn galluogi dau dymor ychwanegol i gynllunio ac i adnabod cyfleoedd addysg sy’n addas ar gyfer anghenion pob disgybl.  Clywodd aelodau hefyd, yn dilyn penderfyniad a wnaed gan Gabinet, y buasai Polisi Amddiffyn Cyflogaeth y cyngor yn cael ei ddefnyddio er mwyn cefnogi a chwilio am gyfleoedd ar gyfer staff i gyd.

·         Cyfeiriodd aelod at gynigion amgen er mwyn cefnogi’r ysgol i ledu ei darpariaeth er mwyn cwrdd ag angen Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n cynyddu yn y wlad fel trydydd opsiwn a mynegodd nad oedd y cynigion wedi cymryd ystyriaeth ddigonol o ymatebion yr ymgynghoriad.   Clywodd aelodau bod yr adroddiad wedi ateb y themâu a godwyd o'r ymarfer ymgynghori mewn modd eglur.  Clywon nhw hefyd bod angen gwario cyfanswm sylweddol o arian ar yr ysgol ac ni fuasai arddull o gario ymlaen a thrwsio yn addas.  Cafodd yr ysgol ei hariannu yn y gorffennol ar y niferoedd o leoedd yn hytrach na'r nifer o ddisgyblion sydd ar y gofrestr sef y ffordd y mae ysgolion eraill yn cael eu cyllido.  Mynegodd y Prif Swyddog nad yr awyrgylch a fydd yn cwrdd ag anghenion disgyblion sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig oedd hwn ynghyd â disgyblion presennol ac ymrwymodd i ddatblygu darpariaeth yn y sir i blant 7 - 19 mlwydd oed sy'n gweld hi'n anodd mewn addysg oherwydd amryw o anghenion sylweddol a chymhleth eraill.  

·         Cwestiynodd aelodau os byddai’r arian yn cael ei wario ar adeiladu darpariaeth mewn ysgolion gwahanol.  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 86 KB

Cofnodion:

  Cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol eu hadnabod fel cofnod gwir a chywir.

 

 

7.

Blaenraglen Waith Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc. pdf icon PDF 291 KB

Cofnodion:

Derbyniodd Aelodau'r blaenrhaglen gwaith. 

 

Mynegodd y cadeirydd bod y Pennaeth yng Nghas-gwent wedi cynnig mynychu'r pwyllgor gyda'i ddirprwy er mwyn rhoi cyflwyniad yngl?n â pherfformiad prydau ysgol am ddim.   Gall y cyfarfod hwn hefyd ymchwilio nifer disgyblion Cas-gwent sy’n croesi’r ffin i Ysgol Wyedean.

 

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

Cofnodion:

Dydd Mawrth y 12fed o Dachwedd 2019 am 10:00yb.