Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiad o fuddiant.

 

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd.

Canllawiau ~ Fforwm Agored Cyhoeddus y Pwyllgor Dethol


Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Dethol yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r ffrwd fyw ar gael ar dudalen gyfarfod
gwefan Cyngor Sir Fynwy

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan Bwyllgorau Dethol, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy ddefnyddio'r ffurflen hon

  • Rhannwch eich barn drwy lanlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud); neu
  • Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno'r ymateb neu ddefnyddio eich manylion mewngofnodi os ydych wedi cofrestru o'r blaen.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain, yn seiliedig ar thema, yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Dethol.  Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i gynghorwyr cyn y cyfarfod.

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod o hysbysiad i ni drwy gysylltu â Scrutiny@monmouthshire.gov.uk. Y cadeirydd sy’n penderfynu faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad, ond i’n galluogi i roi cyfle i nifer o siaradwyr, gofynnwn nad yw cyfraniadau yn hirach na 3 munud.

Os hoffech awgrymu pynciau i un o'n Pwyllgorau Dethol graffu arnynt yn y dyfodol, gwnewch hynny drwy e-bostio Scrutiny@monmouthshire.gov.uk

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau gan y cyhoedd.

 

 

3.

Cynllun Busnes y GCA

Craffu ar Gynllun Busnes y GCA.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Ed Pryce yr adroddiad ac atebodd gwestiynau’r aelodau.

 

Her:

Yn ystod y Gwanwyn, disgwylir i’r Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol gytuno ar y meysydd llafur y cychwynnir arnynt ym mis Medi 2022. Trefnwyd ein cyfarfod CYSAG ar gyfer 9 Mawrth – a ddylem gynnal cyfarfod arall ym mis Chwefror? Beth ddigwyddodd i’r broses o gyhoeddi’r canllawiau – disgwyliwyd hyn fis Ionawr?

Rydym yn hwyluso CYSAG, ar ran ei aelodau. Byddaf yn anfon eich pryderon am y cyfarfod ar 9 Mawrth at fy nghydweithiwr, James Kent, ac yn gofyn iddo eich ateb chi ac aelodau eraill yn uniongyrchol.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch am y cyflwyniad a’r adroddiad cynhwysfawr hwn. Bu’n ddefnyddiol iawn cael clywed am y cynlluniau strategol a’r partneriaethau rhanbarthol, a’r drafodaeth fwy manwl. Mae’n dda clywed bod y system yn un sy’n hunanwella, ac y gall awdurdodau eraill gyfrannu at y broses. Bydd ysgolion yn gwerthfawrogi’n arbennig gefnogaeth gan bartner gwella ysgol o ganlyniad i’r amgylchiadau anodd iawn a ddeilliodd o’r pandemig. Bydd camau gweithredu ‘hyblyg, amserol ac ymatebol’ yn helpu ysgolion. Mae’r pwyllgor yn hapus â’r adroddiad a chynllun y GCA.

 

 

4.

Fformiwla Ariannu Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer ysgolion pdf icon PDF 129 KB

Ymgynghori â'r Pwyllgor Dethol ar y newidiadau i'r fformiwla ariannu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Wellington yr adroddiad ac atebodd gwestiynau’r aelodau.

 

Yr her:

A oes esboniad pellach ar gyfer y gwahaniaeth rhwng y ddau fodel? Pa un fyddai’r opsiwn gorau?

Mae’r ddau fodel yn debyg iawn o ran yr hyn y maent yn ei gynnig. Pe baem yn dewis cyllid sy’n rhoi swm uwch ar sail nifer y disgyblion, yna byddai ysgolion sydd â mwy o ddisgyblion yn elwa’n fwy, ond pe baem yn dewis y cyllid o 70% yna byddant yn cael ychydig yn llai. Nid oedd y gweithgor yn ffafrio’r naill fodel na’r llall ond roedd yn teimlo y dylid cyflwyno’r ddau opsiwn i ysgolion i’w hystyried, ac mae’n ymrwymedig i’r egwyddorion sy’n ymwneud â nifer y disgyblion ac anghenion dysgu ychwanegol, yn hytrach nag unrhyw beth arall sy’n sbarduno’r fformiwla.

Mae’r ffaith bod yr atebion yn y tabl yn ddienw yn ddealladwy, ond a ellir dod i unrhyw gasgliad drwy edrych ar yr ymatebion gan ysgolion – a oes cyswllt rhwng maint yr ysgolion a’u hymatebion, neu a oes cysylltiad rhwng yr ymatebion gan ysgolion uwchradd a chynradd?

Gan edrych ar nifer y disgyblion, gall rhai penaethiaid ddyfalu pa ysgol yw eu hysgol hwy. Mae gan ein hysgolion cyfun fwy o ddisgyblion, felly o ran y  ddau fodel, bydd ysgolion uwchradd yn derbyn mwy o gyllid, a bydd ysgolion cynradd llai yn derbyn llai o gyllid. Pan fo gan ysgolion nifer fawr o ddatganiadau, a bod cynllun gweithredu ysgol ynghyd â datganiadau ar waith, byddai newid o gyllid uwch ar gyfer ADY a’i seilio ar nifer y disgyblion ac anghenion dysgu ychwanegol, yn golygu bod yr ysgolion ar eu colled. Dyna pam iddynt nodi’n glir iawn eu bod am i’r cyllid pontio hwnnw fod ar waith, er mwyn i ysgolion allu symud o’r hen fodel i’r un newydd (bydd hwn ar waith am hyd at 3 blynedd), ac er mwyn lleihau’r tarfu o ran cyllid, staffio ac – yn bwysicach – y cymorth i’r disgyblion hynny.

A yw ysgolion sydd â mwy o ddisgyblion ag anghenion arbennig nag ysgolion eraill yn parhau i dderbyn mwy o gyllid, ac os bydd plentyn yn symud i ysgol arall, a yw’r cyllid hwnnw yn mynd gyda’r plentyn?

O ran y model newydd, cynigir y bydd y cyllid yn aros yn ei le am y flwyddyn ariannol gyfan, gan roi hyblygrwydd i ysgolion allu cynllunio cyllid a staff ar gyfer y flwyddyn ariannol honno. Os bydd disgybl yn gadael i fynd i ysgol arall, ni fydd y cyllid yn symud gydag ef. Byddai’r cyllid wedi symud gyda’r disgybl o dan yr hen system, a byddai’r aelod o staff sy’n cynorthwyo’r plentyn hwnnw yn colli ei swydd yn y rhan fwyaf o achosion. Fodd bynnag, os bydd teulu sydd â phlentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn symud i’r sir, gall y cyngor ddarparu cyllid untro, i ddarparu cymorth ar gyfer y flwyddyn ariannol gyntaf, ond ar ôl hynny, byddai’r plentyn wedi’i gofrestru yn yr ysgol ac yn derbyn cyllid o dan y system newydd  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc pdf icon PDF 504 KB

Cofnodion:

Noder, bydd y cyfarfod Arbennig ar 31 Ionawr yn dechrau am 2pm. Bydd  dyddiad y cyfarfod ar 3 Mawrth yn aros fel y mae.

 

 

6.

Cynllunydd Gwaith y Cyngor a'r Cabinet pdf icon PDF 258 KB

7.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 365 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cofnodion a’u llofnodi fel cofnod cywir gan y Cynghorydd Groucott a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Powell.

 

 

8.

Cadarnhau dyddiad ac amser y cyfarfod nesaf

·         Cyfarfod Arbennig – 31ain Ionawr 2022 am 2.00pm

·         Cyfarfod Nesaf - 3ydd Mawrth 2022 am 10.00am

 

Cofnodion:

·         Cyfarfod Arbennig – 31 Ionawr 2022 am 2.00pm

·         Cyfarfod Nesaf – 3 Mawrth 2022 am 10.00am