Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit - Dydd Iau, 19eg Hydref, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Canllawiau ar gyfer Fforwm Agored i’r Cyhoedd
 y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit

 

Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn cael eu ffrydio’n fyw a bydd dolen i’r ffrwd fyw ar gael ar dudalen cyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy

 

Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw faterion sy'n cael eu trafod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, gallwch fynychu'r cyfarfod yn bersonol (neu ymuno o bell drwy Microsoft Teams), neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair).

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm, a hynny dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i Aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod.

 

Mae’r amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad yn ddibynnol ar Gadeirydd y Pwyllgor. Gofynnwn i gyfraniadau beidio â bod yn hwy na 4 munud.

 

Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad o dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd yn y cyfarfod, bydd angen i chi roi tri diwrnod gwaith o rybudd drwy e-bostio GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov.uk

 

Os hoffech awgrymu pynciau yn y dyfodol i'w hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, e-bostiwch GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov.uk

 

 

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd wedi gwneud cais i gymryd rhan yn y cyfarfod.

3.

Nodi'r rhestr o gamau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 123 KB

Cofnodion:

Nodwyd y rhestr o gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol:

 

https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=ViAY1YXYDR0aJlXW&t=44

 

1.     Capasiti'r Tîm Cyllid: AR AGOR

2.     Strategaeth Pobl a Strategaeth Rheoli Asedau: AR AGOR

3.     Adroddiad Cwynion Awdurdod Cyfan: AR AGOR

4.     Cofrestr Risg Strategol: AR AGOR

5.     Rhyddid Gwybodaeth, Diogelu Data a Cheisiadau Mynediad Gwrthrych Data:

a) Hyfforddiant gorfodol: AR GAU

b) Trefniadau Llywodraethu Polisi AR AGOR

c) Polisïau rheoli risg corfforaethol: AR AGOR

6.     6. Cynllun Gweithredol Drafft: AR AGOR

7.     Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: AR GAU

8.     Datganiad Cyfrifon Blynyddol, gwybodaeth am rwymedigaethau pensiwn: AR GAU

9.     Adroddiad Hunan-asesiad Drafft: AR GAU

 

 

4.

Polisi Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo pdf icon PDF 618 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Polisi Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo gan y Prif Archwilydd Mewnol.

 

https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=GCpz2l-t4L9rnUF5&t=364

 

CAMAU GWEITHREDU:

 

1.      Dirprwy Brif Weithredwr i godi gyda'r Pennaeth Adnoddau Dynol, ac adrodd yn ôl fel sydd yn briodol:

 

i)                 Sut mae pryderon yn cael eu codi o dan y Polisi Chwythu’r Chwiban ac a fydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i dderbyn pryderon ar lefel bwrdd annibynnol neu lefel briodol arall, hefyd:

ii)                Gan gymryd i ystyriaeth gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, sut orau i adrodd ar achosion o chwythu'r chwiban.

 

2.     Y Dirprwy Brif Weithredwr i ddosbarthu adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, ‘Codi Ein Gêm’ – Mynd i’r Afael â Thwyll yng Nghymru i’r Pwyllgor.

 

3.     Y Prif Archwilydd Mewnol i ychwanegu diweddariadau cyfnodol i'r Flaenraglen Waith

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, cynigiodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit sylwadau cyn argymell y Polisi Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo diwygiedig i'r Cabinet ei gymeradwyo.

 

Roedd y Cynghorydd Sir P. Murphy wedi gadael y cyfarfod am 14.26

 

5.

Rhaglen Waith Archwilio Cymru a diweddariad chwarter 1 yr amserlen pdf icon PDF 198 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddogion Archwilio Cymru raglen waith Archwilio Cymru a diweddariad ar amserlen Ch1. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

.https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=XhIduzvQ-gfx_uwz&t=1515

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

 

 

6.

Rhaglen Waith Archwilio Cymru: Diweddariad ar Gynnydd y Cyngor pdf icon PDF 532 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dadansoddwr Data y Cynnydd a wnaed y Cyngor yn erbyn Rhaglen Waith Archwilio Cymru. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=G0V6ZfOtO6jQmBcE&t=2132

 

CAMAU GWEITHREDU:

 

1.     Y Dirprwy Brif Weithredwr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y diffyg yn ystod y flwyddyn, a datblygu'r gyllideb o ran cadernid y broses.

 

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad:

1.     Craffodd yr Aelodau ar ymateb y Cyngor i raglen waith Archwilio Cymru, a gofynnwyd am sicrwydd bod cynnydd digonol yn cael ei wneud; a.

 

2.     Nodwyd y cyfleuster i gyfeirio unrhyw faterion sydd wedi'u cynnwys yn astudiaeth genedlaethol Archwilio Cymru i Bwyllgorau eraill i'w hystyried lle maent yn nodi bod canfyddiadau sy'n arbennig o berthnasol i'r Cyngor sydd angen craffu pellach.

 

Roedd Charlotte Owen wedi gadael y cyfarfod am 14.45

Roedd y Cynghorydd Sir A. Webb wedi gadael y cyfarfod am 14.50

 

7.

Adroddiad Grantiau Archwilio pdf icon PDF 672 KB

Cofnodion:

Roedd Swyddog Archwilio Cymru wedi cyflwyno Adroddiad Grantiau Archwilio Cymru. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=XZ0WjuAjhtoMHnIt&t=2737

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

8.

Cynllun Archwilio Blynyddol 22-23 Cronfeydd Yr Eglwys yng Nghymru pdf icon PDF 560 KB

Cofnodion:

Roedd Swyddog Archwilio Cymru wedi cyflwyno  Cynllun Archwilio Blynyddol 2022-23 Cronfeydd Degwm. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=n1a8xG8M_8WYbXT_&t=3006

 

Nodwyd yr adroddiad.

 

9.

Eithriadau CPR hyd at 30ain Medi 2023 pdf icon PDF 440 KB

Cofnodion:

Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi cyflwyno’r Adroddiad Eithriadau CPR hyd at 30ain Medi 2023. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=HB9kuDYiRWs-AexZ&t=3182

 

Nodwyd yr adroddiad. Nid oedd y Pwyllgor yn gallu cytuno ar yr argymhellion yn 2.1 ac mae'n edrych ymlaen at welliannau yn y broses maes o law.

?

10.

Adroddiad cynnydd chwarterol Archwilio Mewnol pdf icon PDF 364 KB

Cofnodion:

Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi cyflwyno Adroddiad Cynnydd Chwarterol yr Archwiliad Mewnol. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.

 

https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=ijWD-yVoyctlcJbb&t=3887

 

Fel sydd i’w gweld yn argymhellion yr adroddiad:

1.     Ystyriodd a nododd y Pwyllgor y safbwyntiau archwilio a gyhoeddwyd; a

2.     Nodwyd y cynnydd a wnaed gan yr Adran tuag at gwrdd â Chynllun Archwilio Gweithredol 2023/24 a dangosyddion perfformiad yr Adran yn y cyfnod 6 mis o’r flwyddyn ariannol, sydd ar hyn o bryd ar y blaen i’r targed a ragwelwyd.

 

Roedd y Cynghorydd Sir P. Murphy wedi gadael y cyfarfod am 15.10

 

 

11.

Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit pdf icon PDF 350 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Cynllun Gwaith i'r Dyfodol gyda'r ychwanegiadau a grybwyllwyd yn y cyfarfod.

 

https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=O-_BYyUJubXAd36J&t=4837

 

 

12.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 176 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir. 

 

https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=NmfzcNH8ig9pQuQW&t=4861

 

 

13.

Dyddiad y cyfarfod nesaf: 23ain Tachwedd 2023

Cofnodion:

Symudwyd y cyfarfod nesaf i ddydd Llun 4ydd Rhagfyr 2023 am 2pm.

?