Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Sir D. Batrouni fuddiant personol a manteisiol parthed cofnod 14 - mater a godwyd gan aelod o’r cyhoedd ynghylch Ysgol Cas-gwent o ganlyniad i’w adnabyddiaeth o un o’r aelodau staff yn yr ysgol. Gadawodd y cyfarfod heb gymryd rhan yn y drafodaeth na phleidleisio. |
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw faterion wedi’u codi gan y cyhoedd.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 149 KB Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion Cyfarfod Pwyllgor Archwilio dyddiedig 3ydd Mawrth 2016 ac fe’u llofnodwyd gan y Cadeirydd.
|
|
Rhestr camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol. PDF 69 KB Cofnodion: Derbyniasom y Rhestr Camau Gweithredu o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 3ydd Mawrth 2016. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Cyflwynwyd adroddiad ar dargedau mandad y gyllideb i’r Cabinet a’r pwyllgorau craffu perthnasol.
· Ail-dendro Cynghorwyr y Trysorlys - Roedd yr Aelod Cabinet oedd yn gyfrifol am hyn wedi cymryd Penderfyniad Aelod Sengl ar 21ain Mawrth 2016. Roedd manylion ar gael ar wefan y Cyngor Sir.
|
|
Datganiad Llywodraethiant Blynyddol, 2015/16 – Drafft. PDF 699 KB Cofnodion: Derbyniasom ddrafft cynnar o Ddatganiad Llywodraethiant Blynyddol y Cyngor (DLlB) cyn ei gynnwys i mewn i’r Datganiad o Gyfrifon 2015/16. Bydd fersiwn wedi’i diweddaru ar gael ar gyfer y Pwyllgor Archwilio nesaf ym Mai 2016.
Wedi derbyn yr adroddiad drafft, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch contractau ‘Prynu er mwyn Cymru’ a’r Uned Caffael ar y Cyd, nodwyd mai’r broses hon oedd y system safonol a weithredwyd drwy gyfrwng y sector cyhoeddus. Fe’i cynlluniwyd i fod yn gyson ac yn haws i awdurdodau i fynd drwy’r broses caffael. Mae rheolau yn eu lle sy’n darparu amddiffyniad i swyddogion, aelodau ac arian cyhoeddus.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch Asesiad Risg Strategol y Cyngor sy’n cynnwys 11 o risgiau penodol. Yn arbennig, cyfeiriwyd at y risg lle mae’r Awdurdod yn analluog i gyflawni’i flaenoriaethau gwleidyddol yn y dyfodol am nad oes ganddo hyd yn hyn eglurder ar ei fodel busnes yn y dyfodol neu gynllun ariannol tymor hwy. Gofynnwyd y cwestiwn ai methiant yn y flwyddyn flaenorol oedd yn gyfrifol bod y risg yn dal. Dywedodd y Prif Swyddog Archwilio Mewnol y byddai’n ymchwilio i’r mater ac yn adrodd nôl i’r cyfarfod nesaf.
· Roedd angen diweddaru’r ffigyrau’n cyfeirio at ddarparu gwasanaethau o safon uchel.
· Nid oedd paragraff 64 o’r adroddiad yn cyfeirio at y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai’n cyfeirio’r mater hwn yn ôl.
· Cyfeiriodd paragraff 72 o’r adroddiad at nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (RhG). Yn 2015/16, nid ymatebwyd i 23 o geisiadau RhG o fewn 20 niwrnod. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol y byddai’n ymchwilio i’r mater hwn ac yn adrodd yn ôl.
Penderfynasom gymeradwyo’r adroddiad.
|
|
Adran Archwilio Mewnol, Cynllun Gweithredol 2016/17 – Drafft. PDF 429 KB Cofnodion: Derbyniasom y Cynllun Archwiliad Gweithredol Mewnol ar gyfer 2016/17. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Yr archwiliad gwastraff gardd – Mae’n sicrhau bod proses archwilio briodol yn ei lle a’i bod yn cael ei rhedeg yn briodol.
· Ysgol Cas-gwent – Mae path gwaith wedi’i gyflawni yn 2015/16 ac ynddo dynodwyd barn archwilio anfoddhaol. Mae’n ddyletswydd ar yr Adran Archwilio Mewnol i ddilyn y mater hwn i fyny o fewn cyfnod o 12 mis, ac mae hyn yn cael ei wneud.
· Meysydd llithriant o Gynllun Gweithredol 2015/16 – Mae’r modd yr ymdrinnir â llithriant yn dibynnu ar y gwaith ei hun. Mae’r Adran Archwilio Mewnol yn ymgymryd ag asesiad ar ddechrau’r flwyddyn i ddynodi a yw’r gwaith yn dal yn angenrheidiol yn y flwyddyn ddilynol.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch y Tîm Archwilio Mewnol, nodwyd y rhagwelwyd tîm llawn am y flwyddyn. Fodd bynnag, cyfrifir peth salwch a gwyliau blynyddol a symudir y rhain o’r ffigyrau.
Penderfynasom nodi y byddai Cynllun Gweithredol manylach ar gyfer 2016/17 yn cael ei dderbyn erbyn diwedd y chwarter cyntaf.
|
|
Adroddiad Cynnydd Adran Archwilio Mewnol ar Farnau Archwilio Anfoddhaol/Bregus. PDF 209 KB Cofnodion: Derbyniasom adroddiad ar y cynnydd wnaed ynghylch barnau archwilio anfoddhaol/ansicr a gyflwynwyd ers 2012/13 gan y Tîm Archwilio Mewnol.
Wedi derbyn yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Paragraff 4.10 g. Marchnadoedd - Roedd ymchwiliadau’n mynd yn eu blaenau ynghylch trefniadau cynllunio gweithlu. Trefnwyd ymchwiliad yn unol â pholisïau staff ac ataliwyd taliadau goramser. Penodwyd Goruchwyliwr Marchnadoedd newydd a rhagwelir yr eir i’r afael â’r materion hyn. Cyflwynir diweddariad ar gynnwys i’r Pwyllgor maes o law.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, dywedodd y Prif Swyddog Archwilio Mewnol petai archwiliadau ansicr yn cael eu dynodi, byddai’r materion hyn yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio yn dilyn ymchwiliad.
Penderfynasom nodi’r gwelliannau a wnaed gan feysydd gwasanaeth yn dilyn y barnau archwilio anfoddhaol/ansicr a gyflwynwyd. |
|
Cynllun Archwilio 2016. PDF 461 KB Cofnodion: Derbyniasom Gynllun Archwilio 2016 ar gyfer Cyngor Sir Fynwy oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Byddai adroddiad cynnydd ar y cyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio pan gyflwynid cyfrifon parthed y materion canlynol:
- Cronfa Bensiwn Torfaen parthed atebolrwydd Capita Gwent Pension. - Cywiro bywyd ased T? Menter. - Ailgyfrifo gwerthoedd asedau penodol (y rheiny a seilir ar gostau disodli dibrisiedig). - Trosglwyddo teitl cyfreithiol i Ysgol Osbaston.
· Ni ragwelwyd y byddai Ffioedd City Deal yn codi.
· Nodwyd bod Arweinydd y Cyngor wedi llofnodi’r City Deal ynghyd ag Arweinyddion Awdurdodau eraill o fewn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd.
Penderfynasom dderbyn yr adroddiad gan nodi’i gynnwys.
|
|
Swyddi Gadael yn Gynnar a Swyddi Gwag. PDF 412 KB Cofnodion: Derbyniasom wybodaeth ategol ar ymadawiadau cynnar a swyddi gwag mewn ymateb i ymholiadau blaenorol a godwyd gan y Pwyllgor:
Wedi derbyn yr adroddiad, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod, nodwyd bod data swyddi gwag ar gyfer y gweithlu cyfan wedi’u cyflwyno i’r Pwyllgor yn flaenorol. Mae’r wybodaeth a gyflwynir heddiw yn ychwanegol at honno a dderbyniwyd yn gynt.
· Bu cyfnod o rewi swyddi gwag o ganlyniad i bwysau ar yr Awdurdod i reoli gorwariant. Bydd trafodaethau cyllidol yn y dyfodol i benderfynu a ddylid symud y swyddi hyn.
· Cyflenwyd gwybodaeth ynghylch ailstrwythuro’r Uwch Dîm Arwain (UDA) yn 2014/15. Mae blwyddyn ers hynny bellach a chyflwynir i’r Pwyllgor Archwilio adroddiad blynyddol parthed y swyddi gwag maes o law.
· Mae’r rhewiadau ar swyddi gwag yr UDA wedi caniatáu i’r Prif Weithredwr ddwyn cynigion ailstrwythuro i’r Cabinet ym Mai 2016.
· Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod ynghylch arbedion posib yn cael eu gwneud o ganlyniad i ad-drefniadau adrannol, nodwyd y bydd data swyddi gwag yn newid o ganlyniad i drosiant staff. Nid yw rhewiadau swyddi gwag yn gyffredinol ar draws yr Awdurdod. Cânt eu penderfynu gan y rheolwyr a’r uwch dîm arwain.
· Seilir y ffigyrau yn yr adroddiad ar gyfrif pen. Rydym yn gweld gostyngiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn.
· Cyflwynir Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau’r Bobl i’r Cabinet a fydd yn cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag ymadawiadau cynnar. Dylai’r Pwyllgor Archwilio dderbyn yr adroddiad hwn at ddibenion craffu.
Penderfynasom:
(i) dderbyn yr adroddiad a nodi’i gynnwys;
(ii) y byddai Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau’r Bobl yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
|
|
Cofnodion: Derbyniasom adroddiad gan Reolwr yr Uned Cludiant Teithwyr lle derbyniodd Aelodau wybodaeth ar y camau gafodd eu cymryd i fynd i’r afael â barn Archwiliad Anfoddhaol yr Uned Cludiant Teithwyr yn dilyn ymateb ar lafar yng Nghyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 14eg Ionawr 2016.
Nodwyd bod yr adroddiad wedi dangos yr ymgynghorwyd â’r Pennaeth Cyllid a’r Prif Archwilydd Mewnol a nodwyd hyn yn yr adroddiad. Fodd bynnag, nid felly y bu.
Penderfynasom dderbyn yr adroddiad gan nodi’i gynnwys.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2015/16 y Pwyllgor Archwilio, Adroddiad Blynyddol 2014/15. PDF 257 KB Cofnodion: Derbyniasom adroddiad blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2015/16 a 2014/15. Wrth wneud hynny, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Cyflwynir yr adroddiad i’r Cyngor Llawn a mynegodd y Cadeirydd y byddai’n barod i gyflwyno’r adroddiad.
Penderfynasom y dylai’r argymhelliad i’r Cyngor Llawn fod fel a ganlyn:
Ar ran y Pwyllgor Archwilio mae’r Cadeirydd yn cyflwyno adroddiad cyfunol 2015/16 a 2014/15 i’w ystyried gan y Cyngor Llawn. Mae’n credu ei fod yn dangos dros y cyfnod hwn fod y Pwyllgor wedi cyflawni’i swyddogaeth fel y diffinnir yn y cylch gorchwyl. Dengys yr adroddiad fod gwaith y Pwyllgor wedi bod yn werthfawr ac yn gynhyrchiol ac mae’n rhoi sicrwydd i’r Cyngor ynghylch gweithgareddau’r Pwyllgor mewn rheolaeth effeithiol o faterion ariannol a materion eraill gan yr awdurdod.
|
|
Cofnodion: Derbyniasom Raglen Waith y Pwyllgor Archwilio. Wrth wneud hynny, fe nodwyd y cynhelir cyfarfod y Pwyllgor Archwilio ar gyfer mis Hydref 2016 ar 13eg Hydref ac nid ar 6ed Hydref, fel y dangoswyd yn y Rhaglen Waith.
Penderfynasom dderbyn y rhaglen waith gan nodi’i chynnwys.
|
|
Cofnodion: Penderfynasom eithrio’r wasg a’r cyhoedd yn ystod trafod yr eitem ganlynol o fusnes yn unol â pharagraff 3 o Ran 1 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
|
|
Mater a godwyd gan aelod o'r cyhoedd parthed Ysgol Cas-gwent. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniasom adroddiad yn sefydlu cynigion i ategu ymateb gan aelod o’r cyhoedd yn ystod eitem gyhoeddus Fforwm Agored Pwyllgor Archwilio Cyngor Sir Fynwy a gynhaliwyd yng Ngorffennaf 2015.
Wedi ystyried cynnwys yr adroddiad, penderfynasom fod y Cadeirydd, mewn ymgynghoriad â swyddogion, yn paratoi ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan aelod o’r cyhoedd. Fe fydd y llythyr yn cael ei e-bostio i holl Aelodau’r Pwyllgor Archwilio gan ganiatáu iddynt gyflwyno sylwadau. Byddai’r llythyr wedyn yn cael ei anfon at yr aelod o’r cyhoedd.
|