Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni waned unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant.
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau ar gyfer Fforwm Agored i’r Cyhoedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit
Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn cael eu ffrydio’n fyw a bydd dolen i’r ffrwd fyw ar gael ar dudalen cyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw faterion sy'n cael eu trafod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, gallwch fynychu'r cyfarfod yn bersonol (neu ymuno o bell drwy Microsoft Teams), neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair).
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm, a hynny dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i Aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod.
Mae’r amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad yn ddibynnol ar Gadeirydd y Pwyllgor. Gofynnwn i gyfraniadau beidio â bod yn hwy na 4 munud.
Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad o dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd yn y cyfarfod, bydd angen i chi roi tri diwrnod gwaith o rybudd drwy e-bostio GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov.uk
Os hoffech awgrymu pynciau yn y dyfodol i'w hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, e-bostiwch GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o'r cyhoedd yn bresennol. |
|
Nodi'r Rhestr Weithredu o'r cyfarfod diwethaf. Cofnodion: Nid oedd unrhyw gamau gweithredu yn weddill. |
|
Adroddiad Grantiau Archwilio Cymru Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru Adroddiad Grantiau Archwilio Cymru. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau. https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=SXD3W3EtvJGaYKBf&t=67
Nodwyd yr adroddiad.
|
|
Cynaliadwyedd Ariannol Archwilio Cymru Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru yr Adroddiad Cynaliadwyedd Ariannol. Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 Ymateb y Cyngor i’r papur.
https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=0y4fQhOfxDGZR-XA&t=618
Nodwyd yr adroddiad.
|
|
Cynllun Archwilio Blynyddol 22.23 Cronfa'r Degwm Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru Gynllun Archwilio Blynyddol 2023/24.
https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=lyNg_rc8s1ySMitP&t=1360
Nodwyd yr adroddiad.
|
|
Rhaglen Waith Archwilio Cymru: Diweddariad Cynnydd y Cyngor Cofnodion: Cyflwynodd y Dadansoddwr Perfformiad Adroddiad Diweddaru ar Gynnydd Cyngor Rhaglen Waith Archwilio Cymru. Gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau:
https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=Jq_U3t7HynHJf_I_&t=1431
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, roedd Aelodau'r Pwyllgor wedi:
1. craffu ar ymateb y Cyngor i raglen waith Archwilio Cymru, a cheisio sicrwydd bod cynnydd digonol yn cael ei wneud. 2. ystyried cyfeirio unrhyw faterion sydd wedi'u cynnwys yn astudiaethau cenedlaethol Archwilio Cymru i bwyllgorau eraill eu hystyried, lle nodwyd bod canfyddiadau sy'n arbennig o berthnasol i'r Cyngor y mae angen craffu arnynt ymhellach. Wrth wneud hynny, penderfynwyd gofyn i’r Pwyllgor Craffu perthnasol adolygu llwyddiant cynlluniau Teithio Llesol a disgwyliadau a dyheadau trigolion lleol.
Nodwyd yr adroddiad.
|
|
Cyflwyniad ar y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang a'r Cod Ymarfer newydd ar gyfer Llywodraethu Archwilio Mewnol yn Llywodraeth Leol y DU Cofnodion: Roedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit wedi derbyn cyflwyniad gan y Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro ar y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang newydd a'r Cod Ymarfer ar gyfer Llywodraethu Archwilio Mewnol yn Llywodraeth Leol y DU. Cafodd Aelodau’r Pwyllgor Llywodraeth y cyfle i ofyn cwestiynau: https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=Vbh6H-XA9_K0Nocx&t=3170
Diolchwyd i'r Prif Archwilydd Mewnol Dros Dro am y cyflwyniad.
|
|
Blaengynllun y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cofnodion: Nodwyd Cynllun Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit.
https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=w1KySnxTv6cEe3_n&t=4509
|
|
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5ed Medi 2024 fel cofnod cywir. https://www.youtube.com/live/lHNIJuQL_v8?si=C4HWSdl4MNR3J0WP&t=4523
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 28ain Tachwedd 2024 am 2.00pm |