Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit - Dydd Llun, 6ed Mehefin, 2022 2.00 pm

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Apwyntio Cadeirydd.

Cofnodion:

Aelod Lleyg: Penodwyd Andrew Blackmore yn Gadeirydd.

 

2.

Apwyntio Is-Gadeirydd

Cofnodion:

Penodwyd y Cynghorydd Sir P. Strong yn Is-gadeirydd.

 

3.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

4.

Apwyntio aelodau ar gyfer y panel dethol ar gyfer dewis y lleygwr olaf

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Prif Archwilydd Mewnol ddiweddariad ar y broses o recriwtio a dethol Aelodau Lleyg yn unol â’r newidiadau sydd eu hangen gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Yn Sir Fynwy mae’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn cynnwys 12 Aelod, a rhaid i draean fod yn Aelodau Lleyg.

 

Yn dilyn penodi tri aelod Lleyg yn llwyddiannus i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio, mae un lle yn dal heb ei lenwi. Caiff y lle gwag ei hysbysebu.

 

Cytunwyd ffurfio panel dethol yn cynnwys y 4 aelod dilynol.

 

Cadeirydd

Cynghorydd Sir P. Murphy

Cynghorydd Sir P. Strong

Mr C. Prosser

 

Anfonir manylion y broses at y pwyllgor dethol maes o law..

 

5.

Anwytho Aelodau – diweddariad cryno

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Seithredwr fod sesiwn anwytho i aelodau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ac unrhyw aelodau eraill sydd â diddordeb gydag amrywiaeth o gyfraniadau.

 

Bydd y sesiwn yn cynnwys rôl y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio, y newidiadau yn deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2022 a chyswllt gyda phwyllgorau craffu. Bydd awduron adroddiadau rheolaidd hefyd yn cyfrannu at y sesiwn – e.e. y Prif Archwilydd Mewnol a’r Rheolwr Perfformiad. Cafodd swyddogion Archwilio Cymru eu gwahodd i gyfrannu at y sesiwn.

.

 

6.

Blaenraglen Waith pdf icon PDF 163 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith. Mae hyn yn rhestru’r adroddiadau a ddisgwylir gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod hyd at fis Mawrth 2023, pryd y disgwylir iddynt ymddangos a’r swyddogion cyfrifol.

 

7.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 20 Mehefin 2022