Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit - Dydd Iau, 13eg Ionawr, 2022 2.00 pm

Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

County Councillor P. Clarke

Cofnodion:

Cynhaliodd y Pwyllgor funud o dawelwch er cof am y Cynghorydd Sir, Peter Clarke, Aelod o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a fu farw yn ddiweddar.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Eitemau 5 a 6: Datganodd y Cynghorwyr Sir, P. Murphy ac A Easson fuddiant personol a di-ragfarn fel ymddiriedolwyr Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy.

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

4.

Nodi'r Rhestr Weithredu o'r cyfarfod diwethaf pdf icon PDF 5 KB

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw gamau gweithredu ers y cyfarfod diwethaf.

 

I ateb cwestiwn gan un o’r aelodau, cadarnhawyd fod caffael bwyd yn rhan o’r cydweithrediad â Chyngor Dinas Caerdydd.

 

5.

Cyfrifon Archwiliedig Cronfa’r Ymddiriedolaethau (Cronfa’r Degwm/Ffermydd Sir Fynwy) pdf icon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Gyfrifydd Cyllid a Swyddog Archwilio Cymru gyfrifon archwiliedig Cronfa’r Ymddiriedolaeth (Cronfa’r Degwm ac Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy) a’r eitem ganlynol, ISA 260 neu gyfwerth i Gronfeydd yr Ymddiriedolaeth. Ystyriwyd yr eitemau hyn gyda’i gilydd.  Atgoffwyd y Pwyllgor fod archwiliad llawn o Gronfa’r Degwm yn cael ei gynnal, ac archwiliad annibynnol llai manwl o Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. Cynigiwyd y dylid cyhoeddi barn ddiamod ar gyfer y ddwy gronfa.  

 

Diolchodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol dros dro i’r Uwch Gyfrifydd, y Adran Gyllid, a’r Rheolwr Cyllid a Gwasanaethau Cymorth Plant a Phobl Ifanc am weithio ar y cronfeydd yn ystod blwyddyn anodd. Diolchodd hefyd i Swyddogion Archwilio Cymru.

 

Datganodd y Cynghorwyr Sir, Easson a Murphy fuddiant personol a diragfarn fel ymddiriedolwyr Cronfa Ymddiriedolaeth Waddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. 

 

Ar ôl cyflwyno’r adroddiadau, roedd cyfle i Aelodau o’r Pwyllgor i wneud sylwadau ac i ofyn cwestiynau.

 

Ategwyd y diolch hwnnw gan un o’r aelodau ond dywedodd hefyd fod  newid mawr i fantolen Cronfa’r Degwm, gan nodi fod yr asedau cyfredol net wedi gostwng o £85,000 i £8,900.  Derbyniodd yr esboniad a nodwyd yn yr adroddiad am hyn, ond roedd yn awyddus i amlygu’r pwynt hwn i Aelodau o’r Pwyllgor.

 

Esboniodd y Swyddog fod llawer o’r grantiau a dderbyniwyd dros y blynyddoedd diwethaf wedi’u talu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a arweiniodd at wario mwy na’r swm arferol o wariant arian parod, a lleihau balans yr arian parod a’r asedau cyfredol net.

 

Mabwysiadwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan fod y Pwyllgor wedi:

 

1)    adolygu’r cyfrifon archwiliedig ar gyfer Deddf Cronfa’r Degwm 2020/21 (Atodiad 1) mewn cydweithrediad ag adroddiad Archwilio Cyfrifon ISA260 Archwilio Cymru ar gyfer Deddf Cronfa’r Degwm.

2)    adolygu cyfriflenni ariannol archwiliedig ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ar gyfer 2020/21 (Atodiad 2)  mewn cydweithrediad â’r Adroddiad Archwiliad Annibynnol ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy.

 

 

6.

ISA 260 neu gyfwerth ar gyfer Cronfeydd Ymddiriedolaethau pdf icon PDF 1014 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr eitem hon ei hystyried yr un pryd â’r eitem flaenorol.

 

7.

Asesiad risg gwrth-lwgrwobrwyo

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon.

 

8.

Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon.

 

9.

Blaengynllun pdf icon PDF 355 KB

Cofnodion:

Cytunwyd i aildrefnu’r eitemau a ohiriwyd uchod fel rhan o’r Blaengynllun.

 

10.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 157 KB

Cofnodion:

Cadarnhawyd fod cofnodion y cyfarfod blaenorol yn gofnod cywir, yn amodol ar fân ddiwygiadau.

 

11.

I nodi dyddiad y cyfarfod nesaf ar 17 Chwefror 2022 am 2.00pm