Skip to Main Content

Agenda and minutes

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Dim.

 

3.

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 181 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2022.

 

4.

Rhestr Camau Gweithredu 20 Mehefin 2022 pdf icon PDF 180 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Rhestr Weithredu o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2022:

 

1)    Llythyr Diolch: Llythyr i Gadeirydd y Llywodraethiant a’r Pwyllgor Archwilio, Philip White, ar adael y swydd, i’w lofnodi gan Gadeirydd Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. Cafodd y cam gweithredu ei gau.

2)    Datganiad Llywodraethiant Blynyddol: Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol y cafodd y sylwadau a wnaed yn y cyfarfod diwethaf eu hystyried ac y cafodd y ddogfen ei diwygio’n unol â hynny i’w chynnwys yn y datganiad cyfrifon. Cafodd y cam gweithredu ei gario ymlaen i’r cyfarfod nesaf pan fydd y Pwyllgor yn gweld y fersiwn terfynol gyda’r datganiad cyfrifon.

3)    Cynllun Archwilio Blynyddol: Roedd Swyddog Archwilio Cymru wedi anfon e-bost (24 Mehefin) at Aelodau’r Pwyllgor yn rhoi gwybodaeth ar ddangosyddion perfformiad allweddol. Cafodd y cam gweithredu ei gau.

4)    Cynnydd ar Farn Anffafriol ar Archwilio: Caiff yr wybodaeth bellach y gofynnwyd amdani ar adroddiadau Barn Gyfyngedig ei gynnwys gyda phapurau’r agenda. Cafodd y cam gweithredu ei gau.

5)    Cynllun Archwilio Mewnol. Fe wnaeth y Prif Archwilydd Mewnol:

               i.         Diweddaru fod gwaith yn mynd rhagddo i baratoi rhestr o gynlluniau cydweithio allweddol a threfniadau llywodraethiant cysylltiedig. Caiff yr wybodaeth hon ei rhoi i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio maes o law. Cafodd y cam gweithredu ei gario ymlaen.

              ii.        Esbonio fod yn ofynnol iddo gydymffurfio gyda Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) sy’n golygu adolygiad ac asesiad allanol bob pum mlynedd, gyda’r nesaf i ddod yn 2023. Caiff y pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio adroddiad blynyddol ar gydymffurfiaeth maes o law. Cafodd y cam gweithredu ei gau.

 

6)    Blaenraglen Gwaith: Rhoddodd y Dirprwy Brif Weithredwr ddiweddariad ar y cylch gorchwyl a chanllawiau cefnogi (Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021) perthnasol i Bwyllgorau Llywodraethiant ac Archwilio gan ddweud y caiff ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf i baratoi i gynnwys traws-gyfeirio at eitemau blaenraglenni gwaith yn y dyfodol. Cafodd y cam gweithredu ei gario ymlaen.

 

5.

Datganiad Cyfrifon Drafft 2021/2022 Cyngor Sir Fynwy

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid ddiweddariad llafar na fu’n bosibl cyflwyno’r drafft gyfrifon i’r cyfarfod hwn yn ôl yr arfer. Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod yn ddarn sylweddol o waith i gasglu’r gwahanol elfennau. Bu oedi ac ansicrwydd eleni oherwydd e.e. cod CIPFA a phrisiadau asedau fel y’u codwyd gan Archwilio Cymru. Yn ychwanegol, bu angen blaenoriaethu adnoddau Cyllid i gyflwyno adroddiadau all-dro. Cytunodd yr Awdurdod ac Archwilio Cymru y cyflwynir drafft gyfrifon ddiwedd mis Gorffennaf. Y bwriad yw cyflwyno’r drafft gyfrifon i gyfarfod mis Medi y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. Mae awdurdodau eraill yn profi pwysau tebyg. Gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau yn gofyn y diweddariad:

 

1.    Gofynnodd y Cadeirydd am y dull o brisio asedau a chafodd eu hysbysu am beth ansicrwydd. Esboniodd Pennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid fod Archwilio Cymru wedi cwestiynu pa mor gadarn yw prisiadau oherwydd y pandemig. Awgrymwyd dull mynegi i ddechrau a dilyn pryderon mae trafodaethau’n parhau rhwng CIPFA ac Archwilio Cymru. Y bwriad yw casglu’r drafft gyfrifon heb brisio holl asedau’r cyngor. Cadarnhaodd y Pennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid fod rhaglen dreigl bum mlynedd o 20% o’r aedau’n cael eu prisio’n flynyddol, gyda’r 80% arall ar eu hen werth. Cadarnhawyd y caiff cyfrifon drafft eu cyhoeddi yn ôl gofynion cyfreithiol. Unwaith y daethpwyd i gytundeb, caiff gweddill y prisiadau eu hychwanegu yn ystod y broses archwilio yn yr hydref..

 

2.    Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd Swyddog Archwilio Cymru na fydd pryder sylweddol yn deillio o lithriad dwy wythnos wrth gyflwyno’r drafft gyfrifon.

 

3.    Wrth ymateb i gwestiwn, ystyriwyd ei bod yn rhy gynnar i ddyfalu ar effaith y pandemig ar newidiadau mewn prisiadau. Dywedodd Swyddog Archwilio Cymru fod prisiadau mewn ardal sector cyhoeddus arail wedi codi gan 7%.

 

6.

Adroddiad Meincnodi 2022/23 y Trysorlys pdf icon PDF 404 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid Adroddiad All-dro Trysorlys 2021/22 yn nodi mai rôl y Pwyllgor yw ystyried os yw’r penderfyniadau Trysorlys a gweithgareddau a wnaed yn ystod y flwyddyn yn ymddangos yn rhesymol ac yn gydnaws gyda’r strategaeth trysorlys a dangosyddion darbodus. Gwahoddwyd cwestiynau a sylwadau yn dilyn cyflwyno’r adroddiad.

 

1.    Gofynnodd Aelod am wybodaeth bellach am fuddsoddiadau hirdymor a chronfa gronnus. Esboniodd y Pennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid y cafodd buddsoddiadau cronfa gronnus eu dal am 3-4 mlynedd dan reoliadau Cyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol, mae angen i ni gadw o leiaf balans buddsoddiadau o £10m i gymhwyso am statws buddsoddwr proffesiynol. Mae hyn yn rhoi mynediad i fwy o offerynnau buddsoddi.   Gallai hirdymor o ran cronfeydd cronnus gyfeirio at 5-6 mlynedd gyda gwerthoedd cyfalaf yn aros yn eu hunfan ac am enillion yn cael eu sicrhau. Mae’r adenillion ar gronfeydd cronnus yn foddhaol ac maent yn cynnig cydbwysedd gyda gweddill y portffolio buddsoddi. Bwriedir cadw’r cronfeydd cronnus yn y tymor canol.

 

2.    Holodd Aelod am effaith y pandemig ar weithgareddau’r trysorlys, yr ad-daliad am gyfran o’r effaith gan Lywodraeth Cymru ac os caiff problemau pellach eu rhagweld o gofio am y cynnydd yn nifer yr achosion Covid yng Nghymru. Atebwyd y bu cymorth grant sylweddol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi cynyddu ein buddsoddiadau nes cafodd yr arian ei ddefnyddio, rhoi cyllid i fuddsoddi ar ran Llywodraeth Cymru ynghyd â chyllid i ad-dalu costau ychwanegol a cholli incwm yn deillio o’r pandemig. Ychydig o effaith fu ar weithgaredd trysorlys yn gyffredinol.

 

3.    Gofynnodd yr Aelod os y byddai cynnydd yn y cronfeydd wrth gefn wedi’i neilltuo ac, os yn wir, sut yr effeithid arnynt yn y dyfodol. Atebwyd nad yw sefyllfa’r trysorlys wedi ei ddiffinio ar unrhyw un deilliant. Wrth gynllunio llif arian y flwyddyn, buddsoddiad a benthyca, rhoddir ystyriaeth i wariant ac incwm disgwyliedig a byddai buddsoddiad pellach mewn cronfeydd wrth gefn yn cael eu hystyried bryd hynny. Mae hefyd yn bosibl i fenthyca cyllid os yw’r cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi yn mynd yn isel.

 

4.    Holodd Aelod am y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer buddsoddiadau heb fod yn rhai trysorlys a dywedwyd fod y rhain yn fuddsoddiadau gwariant cyfalaf hyd at £50m fel y’u cymeradwywyd gan y Cyngor Sir. Mae Pwyllgor Buddsoddi yn goruchwylio buddsoddiadau o’r fath. Yn y dyfodol, byddai newidiadau i ddeddfwriaeth Bwrdd Benthyca Gweithiau Cyhoeddus yn golygu y gall buddsoddiadau ar gyfer budd ariannol neu nad ydynt ar gyfer cynlluniau economaidd neu adfywio lleol atal mynediad i fenthyciadau gan y Bwrdd. Felly, yn y dyfodol bydd angen i fuddsoddiadau heb fod yn rhai trysorlys gael dull gweithredu economaidd neu adfywio lleol, a benderfynwyd gan y Pwyllgor Buddsoddi. Rhoddir adroddiad rheolaidd i’r Pwyllgor Buddsoddi ar berfformiad yr asedau hyn. Mae incwm yn y gyllideb refeniw a chaiff perfformiad ei fonitro fel rhan o’r broses honno.

 

5.    Gofynnodd Aelod am ddadansoddiad o’r newidiadau i werthoedd asedau tri buddsoddiad a holodd os oes polisi buddsoddi yn bodoli ac os felly a gaiff ei reoli yn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Datganiad o Gyfrifon Drafft 2021/22 Cronfa Eglwysi Cymru/Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy pdf icon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Cynorthwyol Dros Dro Cyllid y drafft gyfrifon ar gyfer Cronfa Eglwysi Cymru (a archwilir yn allanol), Ymddiriedolaeth Gwaddol Fferm Sir Fynwy (a archwilir yn allanol) a Chronfa Ymddiriedolaeth Canolfan Llesiant Rhiw Llanelli. Gwahoddwyd sylwadau a chwestiynau yn dilyn yr adroddiad:

 

1.    Holwyd pam mai Archwilio Cymru sy’n archwilio Cronfa Eglwysi Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy ac atebwyd fod Archwilio Cymru wedi cyflawni’r gwasanaeth hwn ers nifer o flynyddoedd. Roedd Pwyllgor Cronfa Eglwysi Cymru wedi gofyn yn flaenorol i’r trefniant gael ei adolygu ar gyfer gwerth am arian, a ffioedd Archwilio Cymru oedd y mwyaf cystadleuol bryd hynny. Mae’r ffi am arolygu cyfrifon Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy yn gymharol fach.

 

Datganodd Martin Veale fuddiant nad yw’n rhagfarnu fel Llywodraethwr Coleg Gwent.

 

2.    Holodd Aelod os oes elfennau moesegol yn y polisi buddsoddi ar gyfer Cronfa Eglwysi Cymru gan argymell y dylid eu cynnwys yn y polisi cyfrifon os felly. Os na, holwyd os gellid datblygu polisi buddsoddiad moesegol. Atebwyd fod y rhan fwyaf o’r cronfeydd mewn cronfa gronnus hirdymor gyda darparwyr cronfa allanol, a’r gweddill o fewn buddsoddiadau mewnol Sir Fynwy. Cymeradwywyd y strategaeth gan y Cyngor ym mis Mawrth 2021. Yn nhermau  ystyriaethau moesegol ehangach, caiff y strategaeth ei llunio gyda chyngor gan Bwyllgor Cronfa Eglwysi Cymru a swyddogion. Mae tir gan yr Ymddiriedolaeth hefyd. Nod y gronfa yw cynyddu adenillion fel y gellir uchafu dosbarthiadau grant. Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd y byddai’r Aelod yn gwneud cynnig i’r Cyngor ar gynnwys elfennau moesegol.

 

Cafodd y drafft gyfrifon eu nodi ac fel yr argymhellir yn yr adroddiad, adolygodd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ddrafft Ddatganiad Cyfrifon 2021/22 ar gyfer y cyrff uchod a rhoddodd ychydig o sylwadau a gaiff eu hystyried wrth ochr y broses archwilio allanol a chyn eu cyhoeddi’n derfynol.

 

8.

Cynllun Archwilio 2022 - Cronfa’r Degwm Cyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 772 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd swyddog Archwilio Cymru Gynllun Archwilio 2022 ar gyfer Cronfa Deddf Eglwysi Cymru. Gwahoddwyd sylwadau a chwestiynau yn dilyn cyflwyno’r adroddiad.

 

1.    Dywedodd y Cadeirydd fod y cynllun gwaith yn cyfeirio at Gronfa Deddf Eglwysi Cymru a holodd am drefniadau ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy. Esboniwyd bod Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy yn cynnwys archwiliad llai o’r cyfrifon ac nad yw angen cynllun gwaith.

 

9.

Adroddiad Canlyniad Archwiliad Mewnol 2021/22 pdf icon PDF 575 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol Adroddiad All-dro Archwiliad Mewnol 2021/22. Gwahoddwyd sylwadau a chwestiynau yn dilyn y cyflwyniad.

 

1.    Cyfeiriodd Aelod at y ddwy farn gyfyngedig yng nghyswllt Teithio Consesiwn a Fflyd (Iechyd a Diogelwch/Rheoli Gyrwyr) ac awgrymodd wahodd y swyddogion cyfrifol i fynychu’r Pwyllgor er mwyn deall y pwysau a’r amgylchiadau yn well. Cytunwyd ar hyn a gofynnwyd hefyd i Swyddog A151 roi ei farn yn y cyfarfod ar ba mor gadarn yw’r amgylchedd rheoli yn y maes hwn a’r lefel o risg gweddilliol sy’n gysylltiedig gyda pheidio derbyn argymhellion archwiliad.

 

2.    Holodd Aelod am farn ‘Resymol” gyffredinol gan awgrymu fod y niferoedd yn awgrymu ‘Sylweddol’ gan fod y sefydliad yn well na’r trydydd allan o’r pedair barn bosibl a gefnogwyd gan y broses hunanasesu. Byddai’n rhaid i’r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol ddangos bylchau sylweddol yn yr amgylchedd rheoli i gyfiawnhau’r statws yma. Esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol fod y farn yn gyfartalog o’r farn a gyhoeddwyd ar y gwaith a wnaed. Mae tystiolaeth, cryfderau a gwendidau yn dynodi ac yn disgwyl mesurau rheoli. Cynhelir archwiliadau ar sail gylchol ac ni fedrant ystyried yr holl risgiau oherwydd diffyg adnoddau. Mae’r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol a’r ddogfen Hunanasesu yn ehangach a byddant yn adlewyrchu’r barnau yn ystod y flwyddyn. Caiff y rhain eu hadrodd i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

3.    Holwyd os oes cyfle i farn rheolwyr gael ei hystyried pan y rhoddir barn o sicrwydd cyfyngedig yn arbennig mewn meysydd cynhennus. Esboniwyd pan fo barn gyfyngedig, bod rheolwyr gwasanaeth yn gyfrifol am ysgrifennu ymateb rheoli. Caiff pryderon rheolwyr eu cynnwys mewn cyfarfodydd cau lan ac mae Archwilio Mewnol yn ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol a roddwyd. Drwyddi draw, os oes tystiolaeth i gefnogi nad oes mesurau rheoli yn eu lle, bydd barn Archwiliad Mewnol yn sefyll a chymerir camau gweithredu.

 

4.    Holodd Aelod am y broses clirio gan awgrymu fod aelod o’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn llofnodi archwiliad. Esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol, er nad oes proses swyddogol ar gyfer llofnodi, y caiff y drafft adroddiad ei drafod gyda’r rheolwr gwasanaeth. Os oes rhywbeth cynhennus, caiff ei drafod gyda’r Pennaeth Gwasanaeth a gaiff yr adroddiad terfynol. Lle mae rheolwr yn ymwrthod cyfrifoldeb, caiff ei godi gyda’r Pennaeth Gwasanaeth a’r Dirprwy Brif Weithredwr i symud y sefyllfa ymlaen felly mae’r sefydliad yn cymryd cyfrifoldeb a chymerir camau gweithredu.

 

5.    Holodd Aelod am ymchwiliadau twyll a gofynnodd am ffigurau ac nid canrannau. Dywedodd y Prif Archwilydd Mewnol fod yr ymholiad yn cyfeirio at grantiau busnes cysylltiedig â Covid yn ystod y pandemig; roedd Archwilio Mewnol yn cymryd rhan mewn asesu ac adolygu twyll. Rhoddir ffigurau. Esboniwyd nad oes unrhyw feincnodi ar gael.

 

6.    Holodd Aelod os yw’r gwaith grant yn rheswm sylweddol dros nifer yr archwiliadau nas cyflawnwyd gan ofyn os cafodd gwersi eu dysgu. Esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol bod talu grantiau i gefnogi busnesau lleol cyn gynted yn neges allweddol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Fynwy. Rôl Archwilio Mewnol oedd asesu’r ceisiadau a gwnaed cyfeiriad at  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2021/22 pdf icon PDF 441 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio 2021/22, a ysgrifennwyd ar y cyd gan Philip White, cyn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio. Gwahoddwyd sylwadau a chwestiynau yn arbennig gan Aelodau oedd wedi bod yn aelodau ar y Pwyllgor blaenorol yn dilyn cyflwyno’r adroddiad.

 

(Gadawodd y Cynghorydd Sir Laura Wright y cyfarfod am 15:50pm).

 

 Dywedodd Aelod ei fod yn adroddiad cytbwys gan ychwanegu fod y Pwyllgor wedi ei gadeirio’n dda, a bod y Cadeirydd yn ymroddedig, yn trin cwestiynau Aelodau a bod materion wedi eu dilyn yn briodol. Roedd aelodau’r pwyllgor blaenorol yn gefnogi’r sylwadau hyn.

 

Fel yr argymhellwyd yn yr adroddiad, cymeradwyodd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yr adroddiad ac argymell ei gyflwyno i’r Cyngor, a bod y Cyngor yn derbyn ac yn cymeradwyo’r adroddiad.

11.

Adroddiad hunanasesu drafft 2021/22 pdf icon PDF 536 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Perfformiad a’r Swyddog Perfformiad y drafft adroddiad hunanasesu ar gyfer 2021/22. Gwahoddwyd sylwadau a chwestiynau yn dilyn cyflwyno’r adroddiad.

 

1.    Dywedodd Aelodau y bydd yn cymryd amser i ddatblygu hunanasesiad cadarn a chytbwys. Dywedwyd y bydd mwy o waith i hyrwyddo dull gweithredu cytbwys tebyg i gynnwys tystiolaeth gefnogi o ddeilliannau cadarnhaol ar gyfer cymunedau, dynodi meysydd ar gyfer eu datblygu a hyrwyddo diwylliant sy’n sicrhau bod meysydd gwasanaeth yn heriol a rhoi tystiolaeth yn y broses hunanasesu.

 

2.    Gofynnodd Aelod sut y caiff meysydd ar gyfer gwella eu holrhain ac os y byddai cynllun gweithredu. Holodd yr Aelod hefyd am ystod ac addasrwydd dangosyddion perfformiad. Atebwyd y defnyddir allbwn o’r broses hunanasesu i fod yn sail i fanylion y cynllun corfforaethol a fydd o reidrwydd yn cynnwys set o gamau gweithredu a dangosyddion perfformiad cysylltiedig. Mae’r broses her wedi ysgogi llawer o dystiolaeth a gaiff ei bwydo’n ôl i Dimau Rheoli a Rheolwyr Gwasanaeth Cyfarwyddiaethau ar gyfer eu defnydd eu hunain wrth gynllunio eu meysydd gwasanaeth eu hunain. Mae dangosyddion perfformiad yn bwysig i roi rhan o’r dystiolaeth mewn ystod o ffynonellau tystiolaeth..

 

3.    Holodd Aelod am broses hunanasesu a gofynnodd i ba raddau yr ydym yn gofyn am farn y rhai sy’n defnyddio a rhai nad ydynt yn defnyddio meysydd gwasanaeth i gael barn preswylwyr am y gwasanaeth. Esboniwyd y gofynnwyd am adborth gan breswylwyr, sefydliadau allanol a phartneriaid ar gyfer blaengynllunio a gwerthuso gwasanaethau presennol, hefyd i ofyn i rai nad ydynt yn defnyddio gwasanaeth pam nad oeddent.

 

4.    Holodd Aelod sut yr oedd gwastraff wedi ei ailgylchu, ei ailddefnyddio neu gompostio wedi rhagori ar ei darged tra bod nifer tunelli metrig o wastraff wedi cynyddu gan dros 3000. Esboniwyd mai Llywodraeth Cymru sy’n gosod y targed ac y gellir gofyn am fwy o wybodaeth. Awgrymwyd fod y cynnydd yn rhannol oherwydd cyflwyno system archebu ar gyfer canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi (HWRC), oedd yn annog llai o wastraff i’r canolfannau HWRC ond roedd mwy o wastraff yn cael ei casglu o ddrws i ddrws a mwy o ailgylchu.

 

5.    Holwyd am y cynnydd yn y gyfradd absenoldeb o 10% - 14.4%. Atebwyd bod heriau recriwtio ac y defnyddir ystod o ddata a thystiolaeth i reoli’r cynllunio gweithlu a ddefnyddir i reoli’r cynllunio gweithlu a ddefnyddir i ddeall y cynnydd. Cadarnhawyd hefyd fod yr awdurdod yn cydweithio gyda gwasanaeth caffael Cyngor Sir Caerdydd, sydd wedi ennill gwobrau, i gryfhau caffael.

 

(Gadawodd y Cynghorydd Sir Tony Easson am 16.22pm).

 

Croesawodd Aelod yr iaith rwydd ei darllen yn y ddogfen.

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, adolygodd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ddrafft adroddiad hunanasesu 2021/22 ac roedd yn fras gysurus gyda’i ganfyddiadau a chasgliadau ac argymhellodd fod y Cyngor yn ei ystyried.

 

12.

Blaengynllun y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 33 KB

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i awgrymu eitemau i’w cynnwys yn y flaenraglen gwaith.

1)    Cytunwyd ychwanegu adolygiad o gylch gorchwyl y Pwyllgor wedi’i alinio gyda’r Cynllun; bydd y Cadeirydd yn cydlynu gyda’r Prif Archwilydd Allanol ar adroddiad.

2)    Gwahodd swyddogion yn ymwneud â barn gyfyngedig i’w ychwanegu at y cynllun ar gyfer mis Medi.

 

13.

Dyddiad y cyfarfod nesaf - 8 Medi 2022