Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit - Dydd Iau, 30ain Hydref, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA. View directions

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

2.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

3.

Nodi'r Rhestr Weithredu o'r cyfarfod diwethaf. pdf icon PDF 170 KB

Cofnodion:

Nodwyd y rhestr weithredu o’r cyfarfod blaenorol.

https://www.youtube.com/live/aVwKn1biO4s?si=mSyA8PNc-ZXVH605&t=50

 

1.     Cyfradd cwblhau hyfforddiant gorfodol ar gyfer yr holl staff ar Wrth-Dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd: Ar yr agenda ar gyfer cyfarfod heddiw [WEDI CAU]

 

2.     Fy Ffrindiau – Gofyn i’r Prif Swyddog a Phenaethiaid Gwasanaeth i fynychu cyfarfod: Ar yr agenda ar gyfer cyfarfod heddiw [WEDI CAU]

 

3.     Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang: Anfonodd y Dirprwy Brif Weithredwr ymateb e-bost boddhaol at Colin Prosser. Cytunwyd y dylai’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio gadw diddordeb yn y strwythurau i gefnogi busnesau bach a chanolig yn Sir Fynwy yn y broses caffael, wrth iddynt ddod ar gael. [AR GAU]

 

4.

Galw i mewn y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch mewn ymateb i Adroddiad Archwilio Mewnol Fy Ffrindiau pdf icon PDF 274 KB

Cofnodion:

Nododd y Cadeirydd y cafodd y Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion a Rheolwr Anabledd a Iechyd Meddwl Pob Oedran eu galw mewn gan y Pwyllgor i drafod canfyddiadau adroddiad Archwiliad Mewnol Fy Ffrindiau a gafodd farn anffafriol. Dymunai’r Pwyllgor gwestiynu sut y cododd y sefyllfa a beth sy’n cael ei wneud i drin diffygion. Cyflwynodd y Swyddogion sleidiau mewn ymateb i Adroddiad Archwilio Mewnol Fy Ffrindiau. Gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau yn dilyn y cyflwyniad:

 

https://www.youtube.com/live/aVwKn1biO4s?si=nz7gQ7ost2YR6hoh&t=2029

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad derbyniodd Aelodau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio esboniadau a sicrwydd uwch reolwyr a gaiff eu cadarnhau gan yr adolygiad archwilio mewnol dilynol.

 

5.

Adroddiad Archwilio Cymru: Menter Twyll Genedlaethol 2024/25 - Diweddariad ar gyfer Cyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 147 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Archwilio Cymru bapur gwybodaeth Archwilio Cymru ar y Fenter Twyll Genedlaethol. Caniatawyd i Aelodau i ofyn cwestiynau yn dilyn cyflwyno yr adroddiad:

 

https://www.youtube.com/live/aVwKn1biO4s?si=wqzG337VNruBHsD-&t=3494

 

Nodwyd y papur gwybodaeth.

 

6.

Asesiad Risg Gwrth-Dwyll Cyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad ar Asesiad Risg Gwrth-Dwyll Cyngor Sir Fynwy. Gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau yn dilyn cyflwyno yr adroddiad:

https://www.youtube.com/live/aVwKn1biO4s?si=lE5hqhslPEAwD8BQ&t=4070

 

Fel y’i cynhwysir yn argymhellion yr adroddiad, rhoddodd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio sylwadau ar a chymeradwyo Asesiad Risg Gwrth-Dwyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo y Cyngor.

 

Bydd y Pwyllgor Llywodraethiant a Risg yn derbyn adroddiad wedi ei ddiweddaru ac asesiad yn ystod blwyddyn ariannol 2026/27 (Hydref 2026).

7.

Datganiad Cyfrifon Drafft 2024/25 Cyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 153 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd eitemau 7 ac 8 eu hystyried gyda’i gilydd. Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Ddatganiad Cyfrifon (Terfynol) 2024/25 Cyngor Sir Fynwy. Wrth wneud hynny, cydnabuwyd gwaith y Tîm Cyllid, hefyd y cydweithio rhwng y Tîm ac Archwilio Cymru. Gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau yn dilyn cyflwyno’r adroddiadau.

 

https://www.youtube.com/live/aVwKn1biO4s?si=MTH4YD3p1vE4xa2H&t=112

 

Fel y’i cynhwysir yn argymhellion yr adroddiad:

 

1.         Nododd y pwyllgor y cafodd y datganiad cyfrifon a ddarparwyd ei ddiwygio ers cyhoeddi’r fersiwn drafft i adlewyrchu canlyniadau y broses archwilio mewnol, fel y’i manylir yn Adroddiad Archwilio Cyfrifon Archwilio Cymru.

 

2.         Cymeradwyodd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio fersiwn derfynol archwiliedig Datganiad Cyfrifon 2024/5 Cyngor Sir Fynwy .

 

Awdurdododd y Pwyllgor y Cadeirydd i lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth i’w gyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

8.

Adroddiad Archwiliad Cyfrifon SAC

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddogion Archwilio Cymru adroddiad ar yr Archwiliad Cyfrifon. Cafodd yr eitem hon ei hystyried yr un pryd â’r eitem flaenorol.

 

https://www.youtube.com/live/aVwKn1biO4s?si=MTH4YD3p1vE4xa2H&t=112

 

9.

Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang - Gweithredu a Hunanasesiad pdf icon PDF 654 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol adroddiad ar Gynllun Gweithredu a Hunan-asesiad Cyngor Sir Fynwy yng nghyswllt y Safonau Archwilio Mewnol Byd-eang. Gofynnwyd i Aelodau Pwyllgor ofyn cwestiynau yn dilyn cyflwyno’r cwestiynau.

 

https://www.youtube.com/live/aVwKn1biO4s?si=XQjZ5S4YevM-BWgJ

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, nododd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yr hunanasesiad a’r cynllun gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth lawn. Bydd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn derbyn adroddiad diweddaru mewn 6 mis.

 

[GWEITHREDU] Y Prif Swyddog Archwilio i gael trafodaeth gyda’r Dirprwy Brif Weithredwr a swyddogion eraill fel sy’n briodol i sicrhau fod cyllideb ddigonol ar gael i gadarnhau fod yr holl staff yn sicrhau lefel ddigonol o gymhwysedd proffesiynol.

 

10.

Adroddiad Blynyddol Iechyd a Diogelwch pdf icon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Iechyd a Diogelwch Corfforaethol yr Adroddiad Blynyddol ar Iechyd a Diogelwch.  Gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau yn dilyn cyflwyno’r adroddiad:

 

https://www.youtube.com/live/aVwKn1biO4s?si=TZtINpOebYSL9w_5&t=5523

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, ystyriodd y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yr Adroddiad Blynyddol ar Iechyd a Diogelwch a rhoddodd adborth i lywio adroddiadau’r dyfodol.

 

Cydnabu’r Pwyllgor y gofrestr risg iechyd a diogelwch a chamau gweithredu lliniaru a gynhwysir fel Atodiad i’r Adroddiad Blynyddol ar Iechyd a Diogelwch.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor y blaenoriaethau iechyd a diogelwch a ddynodwyd ar gyfer 2025/26 fydd yn cryfhau fframwaith rheoli iechyd a diogelwch y Cyngor.

 

11.

Adroddiad Cynnydd Chwarterol Archwilio Mewnol (Ch2) pdf icon PDF 321 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol Adroddiad Cynnydd Chwarterol Archwilio Mewnol (Ch2). Roedd Pennaeth Gwasanaethau Landlordiaid yn bresennol i ateb cwestiynau am Gydymffurfiaeth Adeiladu Iechyd a Diogelwch – Sicrwydd Cyfyngedig. Gofynnodd Aelodau gwestiynau yn dilyn cyflwyno’r adroddiad.

 

https://www.youtube.com/live/aVwKn1biO4s?si=nBFFl0v7tTqi2Bis&t=7009

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, nododd y Pwyllgor y farn archwilio a gyhoeddwyd a nododd y cynnydd a wnaed gan yr Adran tuag at gyflawni Cynllun Archwilio Gweithredol a dangosyddion perfformiad yr Adran ar gam 6 mis y flwyddyn ariannol sy’n cyflawni’r targed proffil ar hyn o bryd.

 

12.

Blaengynllun y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 209 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaengynllun Gwaith.

 

13.

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 148 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

14.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 27 Tachwedd 2025