Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Nid oedd datganiadau o fuddiant.
|
|
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn bresennol.
|
|
|
Nodi'r Rhestr Weithredu o'r cyfarfod diwethaf. Cofnodion: Nodwyd y rhestr weithredu o’r cyfarfod blaenorol:
1. Twyll, Llygredd a Gwrth-Llwgrwobrwyo – Hyfforddiant Gorfodol: Rhoddodd y Prif Archwilydd Mewnol ddiweddariad interim. [AGORED]
https://youtu.be/0ez2ZKT0uM0?si=QdpWuMSN-1Zxv653&t=77
|
|
|
Adroddiad Cynnydd Chwarterol Archwilio Mewnol (Ch1) Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol Adroddiad Cynnydd Chwarterol Archwilio Mewnol (Ch1). Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau.
https://youtu.be/0ez2ZKT0uM0?si=8xf_tO_uinjZ3sCI&t=143
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad: · Nododd y Pwyllgor y barnau archwilio a gyhoeddwyd ; a · Nododd y Pwyllgor gynnydd yr Adran tuag at gyflawni Cynllun Archwilio Gweithredol 2025/26 a dangosyddion perfformiad yr Adran ar gam 3 mis y flwyddyn ariannol sydd o flaen y targed proffil ar hyn o bryd.
CAM GWEITHREDU 1. Wrth nodi y cafodd gwasanaeth My Mates farn Sicrwydd Cyfyngedig, gofynnodd y Pwyllgor i uwch swyddog perthnasol fod yn bresennol yn y cyfarfod nesaf i drafod sut oedd y sefyllfa hon wedi codi a beth gaiff ei wneud i fynd i’r afael â’r diffygion gyda golwg ar roi’r lefel ofynnol o sicrwydd fod materion yn cael eu trin.
CAM GWEITHREDU 2. Wrth gyfeirio at y safonau archwilio mewnol cyffredinol, gofynnodd Aelod am ddiweddariad am sut y caiff busnesau lleol canolig eu maint eu hannog i gynnig am gontractau caffael. Bydd y Dirprwy Brif Weithredwr yn dilyn lan ar y cam gweithredu hwn ac yn trefnu ar gyfer ymateb.
|
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 2024/25 Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd ddrafft Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i roi sylwadau.
https://youtu.be/0ez2ZKT0uM0?si=QQjg9FvtvTw3f7pe&t=823
Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adroddiad a gaiff yn awr ei ystyried gan y Cyngor Sir.
|
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 Ddatganiad o Gyfrifon Drafft 2024/25 Cronfa Eglwysi Cymru/Ymddiriedolaeth Gwaddol Fferm Sir Fynwy. Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau:
https://youtu.be/0ez2ZKT0uM0?si=mWvg-g7Ifw5UE7Ul&t=892
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio adolygu Datganiad Cyfrifon drafft 2024/25 ar gyfer y cyrff uchod a rhoi sylwadau a chynnig gwelliannau i’w hystyried wrth ochr y broses archwilio allanol a chyn eu cyhoeddi’n derfynol.
Gofynnwyd i Swyddog Archwilio Cymru roi diweddariad ar yr archwiliad o gyfrifon blynyddol y Cyngor.
https://youtu.be/0ez2ZKT0uM0?si=_hyZVqo9wfVehSYm&t=2018
Wrth gyfeirio at yr ymgynghoriad ar ffioedd, barn y Pwyllgor oedd y dylai swyddogion ymateb os dewisant wneud hynny. Os felly, gofynnwyd i’w hymateb gael ei gylchredeg i’r Pwyllgor er gwybodaeth.
|
|
|
Blaengynllun y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cofnodion: Nodwyd Blaengynllun y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
https://youtu.be/0ez2ZKT0uM0?si=v6Qj3KxM5sDgMbyP&t=2518
|
|
|
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol. Cofnodion: Cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol eu cymeradwyo fel bod yn gywir.
https://youtu.be/0ez2ZKT0uM0?si=n-vBNqfuiMhQiQmE&t=2531
|
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 30 Hydref 2025 am 2.00pm. |