Agenda and minutes

Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit - Dydd Iau, 24ain Gorffennaf, 2025 2.00 pm

Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

2.

Datganiadau o Fuddiant

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.

 

Ar ran y Pwyllgor, fe wnaeth y Cadeirydd longyfarch Jan Furtek a benodwyd i swydd Prif Archwilydd Mewnol.

 

Fe wnaeth y Cadeirydd hefyd groesawu Siwan Davies, Aelod Lleyg newydd, i’r cyfarfod.

https://youtu.be/ED6iYvC6bgg?si=YVRPIueUjHc2Qf4i&t=17

 

3.

Fforwm Agored i'r Cyhoedd

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

4.

Nodi’r Rhestr Weithredu o’r cyfarfod blaenorol. pdf icon PDF 164 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Rhestr Weithredu o’r cyfarfod blaenorol:

https://youtu.be/ED6iYvC6bgg?si=0X2WYHjQdbiew7xt

 

·       Cyfradd cwblhau hyfforddiant gorfodol ar Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd ar gyfer yr holl staff: Atebodd y Prif Archwilydd Mewnol y caiff y prif ddiweddariad ei gynnwys o fewn yr Asesiad Risg Gwrth-dwyll a ddisgwylir ym mis Hydref. Rhoddir diweddariad gyda rhai ystadegau anffurfiol yn y cyfarfod nesaf.

 

5.

Diweddariad a chynnydd ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol Refeniw a Chyfalaf pdf icon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 adroddiad i roi’r adroddiad chwe-misol diweddaraf ar Gynllun Ariannol Tymor Canol y Cyngor, yn dangos tybiaethau wedi eu diweddaru, risgiau a chyd-destun strategol. Mae’r adroddiad yn amlinellu’r rhagamcan o fwlch cyllideb ar gyfer 2026/27 a’r tymor canol ac yn amlinellu’r cyd-destun ar gyfer datblygu cyllideb gytbwys. Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau:

 

https://youtu.be/ED6iYvC6bgg?si=eMCWGTpeKseoRmxJ&t=59

 

Fel y cynhwysir yn argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio:

 

·        Nodi’r diffyg o £13.6 miliwn ar gyfer 2026/27 yn y rhagamcan o’r gyllideb refeniw a’r diffyg cronnus o £38.0 miliwn dros y tymor canol.

·        Nodi’r amserlen gosod cyllideb amlinellol a amlinellir yn Atodiad 1.

·        Nodi’r cynnydd ar gynllun cyflenwi y Strategaeth Ariannol Tymor Canol, fel y’i amlinellir yn Adran 14 Atodiad 1.

 

 

6.

Diweddariad Perfformiad Rheoli Trysorlys Ch1 2025/26 pdf icon PDF 561 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Partner Busnes Cyllid a’r Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 151 Ddiweddariad Perfformiad Rheoi Trysorlys Chwarter 1 2025/26. Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau:

 

https://youtu.be/ED6iYvC6bgg?si=t926ulCpeEZEKXDy&t=2406

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, adolygodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ganlyniadau’r gweithgareddau rheoli trysorlys a’r perfformiad a sicrhawyd yn chwarter 1 fel rhan o’r cyfrifoldeb a ddirprwywyd i ddarparu craffu ar bolisi trysorlys, strategaeth a gweithgaredd ar ran y Cyngor.

 

7.

Datganiad Cyfrifon Drafft 2024/5 Cyngor Sir Fynwy pdf icon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid/Swyddog Adran 1 y Datganiad Cyfrifon Drafft i roi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio adolygu a rhoi sylwadau ar Ddatganiad Cyfrifon drafft 2024/25 Cyngor Sir Fynwy dan y cylch gorchwyl dilynol i’r Pwyllgor:

 

           Adolygu a chraffu ar faterion ariannol yr awdurdod;

           Goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod; ac

           Adolygu’r datganiadau ariannol ba baratowyd gan yr awdurdod.

 

Nododd Aelodau y gall y ffigurau a ddarparwyd newid yn ystod y broses archwilio allanol ac y caiff datganiad cyfrifon terfynol wedi ei archwilio ei gyflwyno i’r pwyllgor maes o law. Yn dilyn cyflwyno’r cyfrifon hyn, gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau:

https://youtu.be/ED6iYvC6bgg?si=dcJIvVcgexA6akp3&t=2860

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth y Pwyllgor Llywodraethuac Archwilio:

           Adolygu Datganiad Cyfrifon drafft 2024/25 a rhoi sylw i unrhyw ymholiadau a sylwadau.

           Nodi, yn dilyn cwblhau’r broses archwilio fewnol, y caiff y Datganiad Cyfrifon wedi ei archwilio ar gyfer 2024/25, ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn.

 

Diolchwyd i’r Tîm am y gwaith o gwblhau’r datganiad cyfrifon drafft.

 

8.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2024/25 pdf icon PDF 916 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol fersiwn ddrafft o Ddatganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor cyn ei gynnwys yn Natganiad Cyfrifon 2024/25. Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau’r Pwyllgor i ofyn cwestiynau

https://youtu.be/ED6iYvC6bgg?si=7iqT_3_NiXpB4BkQ&t=3613

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad:

 

·        Cyfrannodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio at briodoldeb a chynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft (2024/25);

·        Ystyried yr adolygiad o effeithlonrwydd a’r asesiad a wnaed ar bob un o’r egwyddorion llywodraethu; a

·        Chymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol i’w gynnwys o fewn Datganiad Cyfrifon Drafft 2024/25.

 

9.

Adroddiad Hunanasesiad Drafft 2024/25 pdf icon PDF 585 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Perfformiad a Dirnadaeth Data a’r Dadansoddydd Perfformiad yr Adroddiad Hunanasesiad Drafft 2024/25 i roi cyfle i’r pwyllgor i adolygu Adroddiad Hunanasesiad drafft Cyngor Sir Fynwy, yn unol â gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

 

https://youtu.be/ED6iYvC6bgg?si=_EZu5VNhcpIuj3BW&t=4309

 

Fel y’i cynhwysir yn argymhellion yr adroddiad, adolygodd y pwyllgor yr adroddiad hunanasesiad drafft 2024/25 ac ni ystyriai fod angen gwneud unrhyw argymhellion am newidiadau i’r casgliadau neu gamau gweithredu cyn i’r Cyngor ystyried yr adroddiad ym mis Medi.

 

Diolchwyd i’r Swyddogion am eu gwaith ar yr adroddiad.

 

10.

Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio pdf icon PDF 189 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaengynllun gwaith.

 

Holodd Aelod am graffu ar y grant cymorth gwasanaethau bws a gweithgaredd grant rhwydwaith bysus. Cyngor Sir Fynwy yw’r arweinydd rhanbarthol ar gyfer dyrannu cyllid ac mae’n asiant ar ran Llywodraeth Cymru. Cytunwyd i drafod craffu ar y mater y tu allan i’r Pwyllgor.

 

https://youtu.be/ED6iYvC6bgg?si=cRjtevJEIGr6NrWs&t=5543

 

11.

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf icon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

 

https://youtu.be/ED6iYvC6bgg?si=UKkn2N7fmaXTwXjX&t=5564

 

12.

Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 11 Medi 2025