Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Dim. |
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Canllawiau Fforwm Agored Cyhoeddus y
Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn cael eu ffrydio'n fyw a bydd dolen i'r llif byw ar gael ar dudalen cyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy/ Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw gynigion sy'n cael eu trafod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, gallwch gyflwyno eich sylwadau drwy'r ffurflen hon
Rhannwch eich barn drwy uwchlwytho ffeil fideo neu sain (uchafswm o 4 munud) neu; Cyflwynwch sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair)
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif Fy Sir Fynwy er mwyn cyflwyno’ch sylwadau neu ddefnyddio’ch manylion mewngofnodi, os ydych wedi cofrestru o’r blaen.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm, dri diwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
Os bydd y sylwadau a dderbynnir yn fwy na 30 munud, bydd detholiad o'r rhain yn seiliedig ar thema yn cael eu rhannu yng nghyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i Gynghorwyr cyn y cyfarfod. Mae faint o amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, ond er mwyn ein galluogi i ddarparu ar gyfer nifer o siaradwyr, gofynnwn i gyfraniadau beidio â bod yn hwy na 3 munud. Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad o dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd, bydd angen i chi roi tri diwrnod gwaith o rybudd drwy e-bostio wendybarnard3@monmouthshire.gov.uk Os hoffech awgrymu pynciau yn y dyfodol i’w craffu gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, e-bostiwch wendybarnard3@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Dim.
|
|
Nodi'r Rhestr o Gamau Gweithredu o'r cyfarfod blaenorol. PDF 123 KB Cofnodion: Nodwyd y rhestr weithredu o’r cyfarfod blaenorol.
https://www.youtube.com/live/3GFB7JGWhrw?si=1RQQPHbpeTnHyUxi&t=68
1. Capasiti Tîm Cyllid: AR AGOR 2. Strategaeth Pobl a Strategaeth Rheoli Asedau: AR AGOR 3. Adroddiad Cwynion Awdurdod Cyfan: AR AGOR 4. Cofrestr Risg Strategol: WEDI CAU 5. Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, Diogelu Data a Mynediad Gwrthrych i Ddata: a) Trefniadau llywodraethu polisi ar gyfer Rhyddid Gwybodaeth, Diogelu Data a Mynediad Gwrthrych i Ddata: AR AGOR b) Polisïau rheoli risg corfforaethol: AR AGOR 6. CynllunGweithredol Drafft: WEDI CAU 7. Polisi Gwrth Dwyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo: AR AGOR 8. Rhaglen Waith Archwilio Cymru: Cynnydd y Cyngor (diffyg yn ystod y flwyddyn a datblygu cyllideb): WEDI CAU
|
|
23/24 Adroddiad y Trysorlys Ch2 PDF 369 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd yr Adroddiad Trysorlys ar gyfer Chwarter 2 ei gyflwyno gan y Pennaeth Cyllid. Gwahoddwyd Aelodau Pwyllgor i roi sylwadau a gofyn cwestiynau.
https://www.youtube.com/live/3GFB7JGWhrw?si=E_lb1UygbK4OJef6&t=1561
Yn unol â’r argymhelliad, adolygodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio y gweithgareddau rheoli trysorlys a’r perfformiad a sicrhawyd yn ail chwarter 2023/24 fel rhan o’u cyfrifoldeb diprwyedig i ddarparu craffu ar bolisi, strategaeth a gweithgaredd trysorlys ar ran y Cyngor. Roedd y Pwyllgor yn fodlon gyda’r wybodaeth a roddwyd.
(Cynghorydd Sir Ann Webb o 14.54)
|
|
Effeithiolrwydd y Fframwaith Rheoli Risg Strategol. PDF 756 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Rheolwr Perfformiad a Dirnadaeth Data adroddiad ar Effeithlonrwydd y Fframwaith Rheolii Risg Strategol. Yn dilyn cyflwyniad yr adroddiad gwahoddwyd Aelodau Pwyllgor i ofyn cwestiynau. https://www.youtube.com/live/3GFB7JGWhrw?si=joP9VITv3e-Xwz57&t=3725
Yn unol ar argymhellion yr adroddiad, fe wnaeth Aelodau:
· ddefnyddio’r asesiad i geisio sicrwydd am effeithlonrwydd trefniadau rheoli risg yr awdurdod; a · nodi’r polisïau rheoli risg corfforaethol pellach posibl a ddynodwyd yn 3.8 y gallai’r Pwyllgor eu hadolygu ac y caiff diweddariad pellach ei roi i’r pwyllgor fel rhan o’r adolygiad o’r polisi rheoli risg strategol ym mis Ebrill 2024.
|
|
Llythyr Blynyddol yr Ombwdsmon - 2022/23. PDF 448 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Swyddog, Pobl, Perfformiad a Phartneriaethau Lythyr Blynyddol 2022/23 yr Ombwdsmon. Yn dilyn cyflwyno’r Llythyr, gwahoddwyd Aelodau Pwyllgor i roi sylwadau a gofyn cwestiynau
https://www.youtube.com/live/3GFB7JGWhrw?si=pYdALkauoayCMhXb&t=4821
Fel y manylion yn argymhellion yr adroddiad:
· Nododd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio gynnwys llythyr blynyddol Ombwdsmon Sector Cyhoeddus Cymru (Atodiad 1) a chadarnhau nad oedd unrhyw faterion yr oedd yn ofynnol hysbysu’r Ombwdsmon amdanynt. · Mae’r awdurdod yn dal i ymwneud â gwaith safonau cwynion yr Awdurdod, defnyddio hyfforddiant ar gyfer staff a rhoi data cwynion i’r Ombwdsmon. Nodwyd bod yr awdurdod hefyd wedi gweithredu polisi cwynion enghreifftiol yr Ombwdsmon yn llawn.
|
|
Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA). PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfreithiwr adroddiad ar Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA). Yn dilyn hyn gwahoddwyd aelodau i ofyn cwestiynau. https://www.youtube.com/live/3GFB7JGWhrw?si=DxPE8rSJO4_HKWEv&t=5318
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad a nodi ei gynnwys.
CAM GWEITHREDU: Cyfreithiwr i ddarparu gwybodaeth i’r Pwyllgor:
· ar y ddeddfwriaeth ynghylch gwerthu ocsid nitraidd, y cosbau posibl i fanwerthwyr a gwybodaeth ar wahardd eitemau o’r fath rhag cael eu gwerthu ar ôl cyfarfod heddiw. · ar y ddeddfwriaeth ynghylch defnydd fêps a chynnyrch fêp a chosbau posibl. · defnydd cyfrifon cyfryngau cymdeithasol i ganfod twyll e.e. budd-daliadau.
|
|
Cynllun Gwaith i'r Dyfodol y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit. PDF 350 KB Cofnodion: |
|
Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 19eg Hydref 2023. PDF 153 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod gywir.
https://www.youtube.com/live/3GFB7JGWhrw?si=S9y1qllir1nRg0QK&t=5924 |
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 11eg Ionawr 2024. |