Lleoliad: Neuadd Y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw Ddatganiadau o Fuddiant. |
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd
Canllawiau ar gyfer
Fforwm Agored i’r Cyhoedd
Mae ein cyfarfodydd Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn cael eu ffrydio’n fyw a bydd dolen i’r ffrwd fyw ar gael ar dudalen cyfarfod gwefan Cyngor Sir Fynwy
Os hoffech rannu eich barn ar unrhyw faterion sy'n cael eu trafod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, gallwch fynychu'r cyfarfod yn bersonol (neu ymuno o bell drwy Microsoft Teams), neu gyflwyno sylwadau ysgrifenedig (drwy Microsoft Word, uchafswm o 500 gair).
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau i'r Cyngor yw 5pm, a hynny dri diwrnod gwaith clir cyn y cyfarfod. Bydd yr holl sylwadau a dderbynnir ar gael i Aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod.
Mae’r amser a roddir i bob aelod o’r cyhoedd i siarad yn ddibynnol ar Gadeirydd y Pwyllgor. Gofynnwn i gyfraniadau beidio â bod yn hwy na 4 munud.
Os hoffech fynychu un o’n cyfarfodydd i siarad o dan y Fforwm Agored i’r Cyhoedd yn y cyfarfod, bydd angen i chi roi tri diwrnod gwaith o rybudd drwy e-bostio GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov.uk
Os hoffech awgrymu pynciau yn y dyfodol i'w hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, e-bostiwch GACRegistertoSpeak@monmouthshire.gov.uk
Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelod o’r cyhoedd wedi gwneud cais i gymryd rhan yn y cyfarfod. |
|
Nodi'r rhestr o gamau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol PDF 123 KB Cofnodion: Nodwyd y rhestr o gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol:
https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=ViAY1YXYDR0aJlXW&t=44
1. Capasiti'r Tîm Cyllid: AR AGOR 2. Strategaeth Pobl a Strategaeth Rheoli Asedau: AR AGOR 3. Adroddiad Cwynion Awdurdod Cyfan: AR AGOR 4. Cofrestr Risg Strategol: AR AGOR 5. Rhyddid Gwybodaeth, Diogelu Data a Cheisiadau Mynediad Gwrthrych Data: a) Hyfforddiant gorfodol: AR GAU b) Trefniadau Llywodraethu Polisi AR AGOR c) Polisïau rheoli risg corfforaethol: AR AGOR 6. 6. Cynllun Gweithredol Drafft: AR AGOR 7. Hunanasesiad y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio: AR GAU 8. Datganiad Cyfrifon Blynyddol, gwybodaeth am rwymedigaethau pensiwn: AR GAU 9. Adroddiad Hunan-asesiad Drafft: AR GAU
|
|
Polisi Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo PDF 618 KB Cofnodion: Cyflwynwyd y Polisi Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo gan y Prif Archwilydd Mewnol.
https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=GCpz2l-t4L9rnUF5&t=364
CAMAU GWEITHREDU:
1. Dirprwy Brif Weithredwr i godi gyda'r Pennaeth Adnoddau Dynol, ac adrodd yn ôl fel sydd yn briodol:
i) Sut mae pryderon yn cael eu codi o dan y Polisi Chwythu’r Chwiban ac a fydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i dderbyn pryderon ar lefel bwrdd annibynnol neu lefel briodol arall, hefyd: ii) Gan gymryd i ystyriaeth gylch gorchwyl y Pwyllgor hwn, sut orau i adrodd ar achosion o chwythu'r chwiban.
2. Y Dirprwy Brif Weithredwr i ddosbarthu adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, ‘Codi Ein Gêm’ – Mynd i’r Afael â Thwyll yng Nghymru i’r Pwyllgor.
3. Y Prif Archwilydd Mewnol i ychwanegu diweddariadau cyfnodol i'r Flaenraglen Waith
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, cynigiodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit sylwadau cyn argymell y Polisi Atal Twyll, Llygredd a Llwgrwobrwyo diwygiedig i'r Cabinet ei gymeradwyo.
Roedd y Cynghorydd Sir P. Murphy wedi gadael y cyfarfod am 14.26
|
|
Rhaglen Waith Archwilio Cymru a diweddariad chwarter 1 yr amserlen PDF 198 KB Cofnodion: Cyflwynodd Swyddogion Archwilio Cymru raglen waith Archwilio Cymru a diweddariad ar amserlen Ch1. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.
.https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=XhIduzvQ-gfx_uwz&t=1515
Nodwyd yr adroddiad.
|
|
Rhaglen Waith Archwilio Cymru: Diweddariad ar Gynnydd y Cyngor PDF 532 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Dadansoddwr Data y Cynnydd a wnaed y Cyngor yn erbyn Rhaglen Waith Archwilio Cymru. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.
https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=G0V6ZfOtO6jQmBcE&t=2132
CAMAU GWEITHREDU:
1. Y Dirprwy Brif Weithredwr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y diffyg yn ystod y flwyddyn, a datblygu'r gyllideb o ran cadernid y broses.
Yn unol ag argymhellion yr adroddiad: 1. Craffodd yr Aelodau ar ymateb y Cyngor i raglen waith Archwilio Cymru, a gofynnwyd am sicrwydd bod cynnydd digonol yn cael ei wneud; a.
2. Nodwyd y cyfleuster i gyfeirio unrhyw faterion sydd wedi'u cynnwys yn astudiaeth genedlaethol Archwilio Cymru i Bwyllgorau eraill i'w hystyried lle maent yn nodi bod canfyddiadau sy'n arbennig o berthnasol i'r Cyngor sydd angen craffu pellach.
Roedd Charlotte Owen wedi gadael y cyfarfod am 14.45 Roedd y Cynghorydd Sir A. Webb wedi gadael y cyfarfod am 14.50
|
|
Adroddiad Grantiau Archwilio PDF 672 KB Cofnodion: Roedd Swyddog Archwilio Cymru wedi cyflwyno Adroddiad Grantiau Archwilio Cymru. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.
https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=XZ0WjuAjhtoMHnIt&t=2737
Nodwyd yr adroddiad.
|
|
Cynllun Archwilio Blynyddol 22-23 Cronfeydd Yr Eglwys yng Nghymru PDF 560 KB Cofnodion: Roedd Swyddog Archwilio Cymru wedi cyflwyno Cynllun Archwilio Blynyddol 2022-23 Cronfeydd Degwm. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.
https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=n1a8xG8M_8WYbXT_&t=3006
Nodwyd yr adroddiad.
|
|
Eithriadau CPR hyd at 30ain Medi 2023 PDF 440 KB Cofnodion: Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi cyflwyno’r Adroddiad Eithriadau CPR hyd at 30ain Medi 2023. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.
https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=HB9kuDYiRWs-AexZ&t=3182
Nodwyd yr adroddiad. Nid oedd y Pwyllgor yn gallu cytuno ar yr argymhellion yn 2.1 ac mae'n edrych ymlaen at welliannau yn y broses maes o law. ? |
|
Adroddiad cynnydd chwarterol Archwilio Mewnol PDF 364 KB Cofnodion: Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi cyflwyno Adroddiad Cynnydd Chwarterol yr Archwiliad Mewnol. Gwahoddwyd yr Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.
https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=ijWD-yVoyctlcJbb&t=3887
Fel sydd i’w gweld yn argymhellion yr adroddiad: 1. Ystyriodd a nododd y Pwyllgor y safbwyntiau archwilio a gyhoeddwyd; a 2. Nodwyd y cynnydd a wnaed gan yr Adran tuag at gwrdd â Chynllun Archwilio Gweithredol 2023/24 a dangosyddion perfformiad yr Adran yn y cyfnod 6 mis o’r flwyddyn ariannol, sydd ar hyn o bryd ar y blaen i’r targed a ragwelwyd.
Roedd y Cynghorydd Sir P. Murphy wedi gadael y cyfarfod am 15.10
|
|
Blaengynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit PDF 350 KB Cofnodion: Nodwyd y Cynllun Gwaith i'r Dyfodol gyda'r ychwanegiadau a grybwyllwyd yn y cyfarfod.
https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=O-_BYyUJubXAd36J&t=4837
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 176 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.
https://www.youtube.com/live/F1tl-spRWnc?si=NmfzcNH8ig9pQuQW&t=4861
|
|
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 23ain Tachwedd 2023 Cofnodion: Symudwyd y cyfarfod nesaf i ddydd Llun 4ydd Rhagfyr 2023 am 2pm. ?
|