Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Apwyntio Cadeirydd. Cofnodion: Aelod Lleyg: Penodwyd Andrew Blackmore yn Gadeirydd.
|
|
Apwyntio Is-Gadeirydd Cofnodion: Penodwyd y Cynghorydd Sir P. Strong yn Is-gadeirydd.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant.
|
|
Apwyntio aelodau ar gyfer y panel dethol ar gyfer dewis y lleygwr olaf Cofnodion:
Rhoddodd y Prif Archwilydd Mewnol ddiweddariad ar y broses o recriwtio a dethol Aelodau Lleyg yn unol â’r newidiadau sydd eu hangen gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Yn Sir Fynwy mae’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio yn cynnwys 12 Aelod, a rhaid i draean fod yn Aelodau Lleyg.
Yn dilyn penodi tri aelod Lleyg yn llwyddiannus i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio, mae un lle yn dal heb ei lenwi. Caiff y lle gwag ei hysbysebu.
Cytunwyd ffurfio panel dethol yn cynnwys y 4 aelod dilynol.
Cadeirydd Cynghorydd Sir P. Murphy Cynghorydd Sir P. Strong Mr C. Prosser
Anfonir manylion y broses at y pwyllgor dethol maes o law..
|
|
Anwytho Aelodau – diweddariad cryno Cofnodion: Cyhoeddodd y Dirprwy Brif Seithredwr fod sesiwn anwytho i aelodau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ac unrhyw aelodau eraill sydd â diddordeb gydag amrywiaeth o gyfraniadau.
Bydd y sesiwn yn cynnwys rôl y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio, y newidiadau yn deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2022 a chyswllt gyda phwyllgorau craffu. Bydd awduron adroddiadau rheolaidd hefyd yn cyfrannu at y sesiwn – e.e. y Prif Archwilydd Mewnol a’r Rheolwr Perfformiad. Cafodd swyddogion Archwilio Cymru eu gwahodd i gyfrannu at y sesiwn. .
|
|
Cofnodion: Cyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith. Mae hyn yn rhestru’r adroddiadau a ddisgwylir gerbron y Pwyllgor yn y cyfarfod hyd at fis Mawrth 2023, pryd y disgwylir iddynt ymddangos a’r swyddogion cyfrifol.
|
|
Dyddiad y Cyfarfod Nesaf: 20 Mehefin 2022 |