Lleoliad: County Hall, Usk - Remote Attendance. View directions
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Cofnodion: Ni wnaed unrhyw ddatganiadau o fuddiant. |
|
Fforwm Agored i'r Cyhoedd Cofnodion: Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.
|
|
Nodi’r rhestr weithredu o’r cyfarfod blaenorol PDF 5 KB Cofnodion: Nid oedd unrhyw gamau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol.
|
|
Datganiad Cyfrifon Archwiliedig PDF 233 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd y Datganiad Cyfrifon Archwiliedig ac Ymateb ISA260 i’r Cyfrifon (Eitemau 4 a 5) wedi eu hystyried gyda’i gilydd.
Roedd Swyddog Archwilio Cymru wedi cyflwyno’r adroddiad Datganiad Cyfrifon Archwiliedig ar gyfer 2020/21. Cadarnhawyd fod y gwaith wedi ei gwblhau a’r bwriad yw dyfarnu barn ddiamod. Rhoddwyd diolch i holl staff CSF ac Archwilio Cymru a fu’n rhan o hyn. Os yw’r Cyngor Sir yn cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon Archwiliedig, bydd yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi ei dystysgrif.
Tynnwyd sylw'r Aelodau at ddiwygiadau a wnaed i’r cyfrifon; mae’r cywiriadau a wnaed wedi eu rhestru yn Atodiad 3. Mae dau ddatganiad anghywir sydd yn yr adroddiad heb eu cywiro, a hynny o ran gorddatganiad o gredydwyr a gorddatgan incwm. Mae’r ddau yma uwchlaw'r trothwy dibwys ond yn is na’r trothwy perthnasedd ac nid ydynt yn effeithio ar y farn gyffredinol.
Mae argymhelliad wedi ei ysgrifennu yn yr adroddiad sydd yn cydnabod gwariant cyfalaf y Gyfarwyddiaeth Plant a Phobl Ifanc. Mae hyn wedi ei dderbyn gan reolwyr a byddwn yn ymchwilio hyn ymhellach y flwyddyn nesaf.
Roedd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro (Dirprwy Swyddog Adran 151) wedi ymateb ar ran yr awdurdod. Croesawyd y canlyniad positif. Roedd yna amserlen statudol lle yr oedd angen rhannu’r cyfrifon erbyn 31ain Gorffennaf a rhaid eu bod wedi eu harchwilio hefyd. Ni chadwyd at yr amserlen yn sgil pwysau staffio a’r prosesau ychwanegol yn sgil Covid 19. Gwerthfawrogwyd agwedd hyblyg Archwilio Cymru. Y nod fydd dychwelyd i sefyllfa ariannol fwy cynaliadwy a chadarn yn y flwyddyn ariannol hon.
Gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau.
Roedd y Prif Swyddog Adnoddau wedi rhoi diolch i’r Pennaeth Cyllid Cynorthwyol a’r Tîm Cyllid am eu gwaith yn ystod y cyfnod anodd hwn. Roedd y Cadeirydd a’r Aelodau wedi ychwanegu eu diolch hwythau hefyd.
Yn unol â’r argymhellion, roedd Datganiad Cyfrifon Archwiliedig terfynol Cyngor Sir Fynwy ar gyfer 2020/21 (Atodiad 1), wedi ei adolygu yn unol gydag adroddiad Datganiad Cyfrifon ISA260 Archwilio Cymru a chafodd ei gymeradwyo i’r Cyngor er mwyn ei gymeradwyo.
|
|
Adroddiad Trysorlys PDF 587 KB Cofnodion: Roedd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro (Dirprwy Swyddog
Adran 151) wedi cyflwyno Adroddiad y Trysorlys. Tynnwyd sylw'r
Aelodau at gamgymeriad ym mharagraff 3.8 o’r adroddiad a
ddylai ddarllen “These funds
generated an average total return 15.72%, comprising a 4.59% income
return which is used to support services in year, and 11.13% of
unrealised capital gain
Gofynnodd Aelod a roddwyd ystyriaeth i gynyddu’r swm sydd yn rhan o’r buddsoddiadau cyfun neu a fydd yn cael ei gadw yn £3m. Ymatebwyd bod cynnydd yn cael ei ystyried. Rhaid i’r awdurdod gadw £10m mewn buddsoddiadau yn yr hirdymor o ran rheoliadau MIFID 2, ac felly, mae modd ystyried cynyddu’r buddsoddiadau cyfun o’r lefel gyfredol o £3m. Mae’r datganiadau incwm ar y cyllid cyfun wedi bod yn 4% er y pandemig ac mae hyn yn ffafriol o’i gymharu gyda buddsoddiadau eraill sydd yn cynnig symiau sydd yn agos at sero. Bydd yr awdurdod yn ymgysylltu gyda chynghorwyr y Trysorlys er mwyn sicrhau ei fod yn buddsoddi yn y cyllid cyfun mwyaf priodol. Dywedodd Aelod efallai bod angen gadael y cyllid fel ei fod yn cael ei fuddsoddi am gyfnod penodol neu bydd angen talu cosb os tynnir yr arian oddi yno yn rhy gynnar.
Yn dilyn argymhelliad yr adroddiad, nododd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ganlyniadau y gweithgareddau rheoli gan y Trysorlys a’r perfformiad a gyflawnwyd yn 2020/21 fel rhan o’u cyfrifoldeb dirprwyedig ar gyfer craffu polisi, strategaeth a gweithgareddau ar ran y Cyngor.
|
|
Adroddiad Trysorlys Canol Blwyddyn PDF 659 KB Cofnodion: Roedd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol Dros Dro wedi cyflwyno’r Adroddiad Trysorlys Canol Blwyddyn. Gwahoddwyd Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.
Gan nad oedd yna gwestiynau, cytunwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi adolygu gweithgareddau rheoli’r Trysorlys yn hanner cyntaf 2021/22 gan ddefnyddio’r adroddiad a thrafodwyd gyda swyddogion unrhyw newidiadau i’r broses sydd angen eu gwneud i Ddatganiad Strategaeth Rheoli Trysorlys 2022/23 a fydd yn cael ei ystyried yng nghyfarfod mis Ionawr o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
|
|
Cynnydd Archwilio Mewnol 2021/22 o gymharu â’r Cynllun – Chwarter 2 PDF 305 KB Cofnodion: Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi cyflwyno Adroddiad Archwilio Mewnol Chwarter 2 sydd yn nodi’r Cynnydd a wneir yn erbyn y Cynllun. Wedi cyflwyno’r adroddiad, gwahoddwyd Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.
Gofynnodd un Aelod am fwy o wybodaeth am y Rhaglen Twyll Cenedlaethol gan holi a oedd yna gysylltiad i Covid 19. Cadarnhawyd nad yw’r rhaglen yn ymwneud gyda Covid 19 a bod hyn yn rhywbeth sydd yn digwydd bob dwy flynedd, o dan reolaeth y Swyddfa Cabinet ac yn cynnwys tua 1200 o fudiadau. Mae data sydd yn cael ei gyflwyno gan yr awdurdod wedyn yn cael ei gysoni gan yr hyn sydd yn cael ei gyflwyno gan gyfranwyr eraill ac mae adroddiadau yn cael eu creu os oes yna unrhyw anghysonderau posib. Mae’r awdurdod wedyn yn ymchwilio ar sail risgiau uchel, canolig ac isel er mwyn canfod unrhyw dwyll posib. Nodwyd y bathodyn glas fel enghraifft, lle y mae’r deiliad swydd wedi marw efallai yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd.
Yn unol ag argymhellon yr adroddiad, nododd y Pwyllgor y farn archwilio a gyhoeddwyd. Yn ail, roedd y Pwyllgor wedi nodi’r cynnydd a wnaed gan yr Adran er mwyn cwrdd â gofynion y Cynllun Archwilio Gweithredol 2021/22 a dangosyddion perfformiad yr Adran ar ôl cyrraedd 6 mis o’r flwyddyn ariannol.
|
|
Adolygiad Caffael Gwastraff Archwilio Cymru ac Ymateb Rheolwyr PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Roedd Swyddog Archwilio Cymru wedi cyflwyno’r adroddiad o ran yr adolygiad caffael gwastraff. Roedd y Swyddog Perfformiad wedi darparu ymateb ac wedi rhoi diolch ar ran y Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaethau i Archwilio Cymru am eu persbectif yn ystod y broses. Gwahoddwyd Aelodau i wneud sylwadau a gofyn cwestiynau.
Gofynnodd Aelod, a chadarnhawyd, fod Archwilio Cymru yn bwriadu monitro’r argymhellion a wnaed yn ystod y broses.
Roedd y Cadeirydd wedi diolch i Archwilio Cymru am yr adroddiad.
|
|
Blaengynllunydd Gwaith PDF 357 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaengynllunydd Gwaith. Tynnwyd adroddiad cynnydd Archwilio Mewnol Chwarter 2 o’r cynllun ar gyfer 25ain Tachwedd 2021 gan ei fod wedi ei gyflwyno yn y cyfarfod hwn. Bydd yr adroddiad yn cael ei ddisodli gydag adroddiad ar y cynnydd a wneir ar weithredu’r argymhellion archwilio mewnol.
Symudwyd yr adroddiadau cyfrifon cronfa ymddiriedolaeth archwiliedig ac ISA 260 i’r cyfarfod ar 13eg Ionawr 2022.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 135 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod perthnasol fel cofnod cywrain.
|
|
Nodwyd dyddiad y cyfarfod nesaf ar ddydd Iau, 25ain Tachwedd 2021 am 2.00pm |
|
ISA260 Ymateb i’r Cyfrifon PDF 381 KB Cofnodion: Cafodd yr eitem yma ei hystyried fel rhan o’r eitem flaenorol.
|