Mater - cyfarfodydd

Test 5

Cyfarfod: 16/12/2016 - Cabinet (eitem 4e)

4e Cynigion cyllideb cyfalaf 2017/18 i 2020/21 pdf icon PDF 124 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pob un

 

Diben: Amlinellu’r gyllideb cyfalaf arfaethedig ar gyfer 2017/18 a’r cyllidebau cyfalaf dangosol ar gyfer y cyfnod rhwng 2018/19 a 2020/21.

 

Awdur: Joy Robson – Pennaeth Cyllid

 

Manylion Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·         Bod y Cabinet yn cyhoeddi ei gynigion drafft ar gyllideb cyfalaf ar gyfer 2017/18 i 2018/21 at ddibenion ymgynghori fel yr amlinellwyd a chyfeiriwyd at yn Atodiad 2.

·         Bod y Cabinet yn cadarnhau strategaeth gyfalaf sy'n ceisio blaenoriaethu rhaglen Ysgolion y Dyfodol y Cyngor ac ymrwymiadau eraill tra hefyd yn parhau i ariannu rhaglen cyfalaf craidd isafswm, a gan gydnabod y risgiau sydd ynghlwm â'r ymagwedd hon.

·         Bod y Cabinet yn adolygu blaenoriaethau'r rhaglen gyfalaf yn sgil y materion a godwyd yn 3.7 a gofynion eraill am adnoddau cyfalaf.

·         Bod y Cabinet yn ailddatgan yr egwyddor bod cynlluniau newydd yn gallu cael eu hychwanegu at y rhaglen, dim ond os yw'r achos busnes yn dangos eu bod yn hunan-ariannu neu os bennir bod y cynllun yn flaenoriaeth uwch na chynlluniau cyfredol yn y rhaglen ac felly yn eu disodli.

·         Bod y Cabinet yn cytuno i uchafu'r defnydd o dderbynebau cyfalaf pan y'u derbynnir i ariannu'r rhaglen cyfalaf (gan leihau'r angen i fenthyg trwy hynny), a/neu eu rhoi i'r neilltu i ad-dalu dyledion fel yr amlinellwyd ym mharagraff 3.10.

·         Bod y Cabinet yn cytuno i werthu asedau yn unol â'r Cynllun Rheoli asedau ac a nodwyd yn y papur cefndir ar eithriadau er mwyn cefnogi'r rhaglen gyfalaf, ac unwaith y cytunir arnynt, bod dim opsiynau eraill yn cael eu hystyried ar gyfer yr asedau hyn.