Mater - cyfarfodydd

Test 4

Cyfarfod: 16/12/2016 - Cabinet (eitem 4d)

4d Cynigion cyllideb drafft 2017/18 am ymgynghoriad pdf icon PDF 318 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Pob un

 

Diben: Darparu cynigion drafft manwl ar yr arbedion gofynnol yn y gyllideb er mwyn llenwi’r bwlch rhwng yr adnoddau sydd ar gael a’r angen i wario i 2017/18, at ddibenion ymgynghori.

 

Ystyried cyllideb 2017/18 o fewn cyd-destun y Cynllun Ariannol Tymor Canolig 4 blynedd (MTFP) a’r blaenoriaethau sydd wedi dod i’r amlwg er mwyn tywys gweithgareddau trwy Sir Fynwy y Dyfodol.

 

Awdur: Joy Robson – Pennaeth Cyllid

 

Manylion Cyswllt: joyrobson@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·         Bod y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi'r cynigion drafft ar arbedion yn y gyllideb ar gyfer 2017/18 at ddibenion ymgynghori.

·         Bod y Cabinet yn cymeradwyo bod y cyfnod ymgynghori a'r cyfle i gyflwyno cynigion amgen sydd wedi cael eu hasesu o ran Effaith ar Gydraddoldeb yn dod i ben ar 31 Ionawr 2017.

·         Bod y Cabinet yn cytuno i barhau i weithio ar y meysydd sydd eu hangen i fantoli cyllideb 2017/18 a'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (MTFP), trwy'r cyfleoedd hynny a nodwyd yn rhaglen Sir Fynwy y Dyfodol sydd ar y gweill.