Mater - cyfarfodydd

Test 2

Cyfarfod: 16/12/2016 - Cabinet (eitem 4b)

4b Cytuno i ganiatáu mynediad i Gyngor Dinas Casnewydd rhan Partner Ychwanegol i’r SRS pdf icon PDF 288 KB

Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Dim

 

Diben: Uchelgais y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir (SRS) erioed oedd ehangu darpariaeth gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cwblhau a chymeradwyo achos busnes trwy ei brosesau awdurdodi a phwyllgorau ei hun, ac mae wedi gwneud cais ffurfiol i ddod yn bartner yn y SRS  Mae hwn yn garreg milltir arall yn nhaith SRS, ac yn un i ddathlu ehangiad y model gwasanaeth ar y cyd.

 

Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth o’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (PCC) a Chabinetau partneriaid SRS i wahodd Cyngor Dinas Casnewydd i ymuno â SRS.

 

Awdur: Sian Hayward

 

Manylion Cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk

 

Penderfyniad:

·         Bod pob partner yn cytuno bod Cyngor Dinas Casnewydd yn ymuno â SRS fel partner, gan arwain at fuddion i SRS a phob sefydliad sy'n bartner.