4b Cytuno i ganiatáu mynediad i Gyngor Dinas Casnewydd rhan Partner Ychwanegol i’r SRS PDF 288 KB
Rhanbarthau/Wardiau a Effeithir: Dim
Diben: Uchelgais y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir (SRS) erioed oedd ehangu darpariaeth gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus. Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cwblhau a chymeradwyo achos busnes trwy ei brosesau awdurdodi a phwyllgorau ei hun, ac mae wedi gwneud cais ffurfiol i ddod yn bartner yn y SRS Mae hwn yn garreg milltir arall yn nhaith SRS, ac yn un i ddathlu ehangiad y model gwasanaeth ar y cyd.
Mae’r adroddiad hwn yn ceisio cymeradwyaeth o’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu (PCC) a Chabinetau partneriaid SRS i wahodd Cyngor Dinas Casnewydd i ymuno â SRS.
Awdur: Sian Hayward
Manylion Cyswllt: sianhayward@monmouthshire.gov.uk
Penderfyniad:
· Bod pob partner yn cytuno bod Cyngor Dinas Casnewydd yn ymuno â SRS fel partner, gan arwain at fuddion i SRS a phob sefydliad sy'n bartner.