4a Cyllid Adran 106 – Cae 3G ac Uwchraddio Ardal Chwarae Castell Cil-y-Coed PDF 89 KB
Ward/Rhanbarth a Effeithir: Cil-y-Coed
Diben: Ceisio cymeradwyaeth aelodau i ddefnyddio gweddill cyllid Adran 106 a gedwir gan y Cyngor o ddatblygiad safle Taylor Wimpey yn Heol yr Eglwys, Cil-y-Coed.
Adolygu’r cymeradwyaeth a gytunwyd iddi eisoes mewn perthynas ag ardaloedd chwarae Castell Cil-y-Coed a Chas Troggy.
Awduron: Mike Moran, Cydlynydd Isadeiledd Cymunedol
Manylion Cyswllt mikemoran@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Argymell bod y Cyngor yn cynyddu cyllideb cyfalaf 3G (Cod Cyllideb Cyfalaf 90761) gan £26,335 i gynnwys y gwariant ychwanegol a aethpwyd iddo ar y prosiect hwn.
· Y dylid defnyddio £26,335 o weddill Adran 106 Heol yr Eglwys i wneud yn iawn am y gorwariant a aethpwyd iddo wrth gynnal gwaith ychwanegol ar gae 3G Glan Hafren yng Nghil-y-Coed;
· Bod £63,500 o weddill Adran 106 Heol yr Eglwys yn cael ei defnyddio i uwchraddio'r ardal chwarae i blant yng Nghastell Cil-y-Coed yn gyfan gwbl;
· Y dylid oedi uwchraddio'r ardal chwarae i blant yng Nghas Troggy, Cil-y-Coed er mwyn rhoi ystyried pellach i ardaloedd chwarae yn gyffredinol ledled y Sir.