4a RMonitro Cyfalaf a Refeniw 2016/17 - Cyfnod 1 Datganiad Rhagolygon Alldro PDF 703 KB
Ward: Pawb
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad hwn yw rhoi gwybodaeth i Aelodau ar y safle alldro o refeniw rhagolygon yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod 1 sydd yn cynrychioli gwybodaeth ariannol mis 2 ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17. Mae’r rhagolygon ar gyfer Refeniw a Chyfalaf yn cael eu dwyn ymlaen gan fis yn erbyn yr amserlen arferol, a hynny er mwyn rhoi’r wybodaeth gyllidol berthnasol i Aelodau cyn gwyliau’r haf.
Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cynorthwyol Cyllid
Manylion Cyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Mae'r Cabinet yn nodi ystent y rhagolwg o orwariant refeniw yng nghyfnod 1 o £1.37 miliwn.
Mae'r Cabinet yn gofyn bod Prif Swyddogion yn darparu gwybodaeth ar sut fydd y sefyllfa o orwario yn cael ei gymryd yn ôl o fewn y gyllideb, gan gynnwys cynlluniau amgen i gyflwyno'r arbedion o £301,000 a fandadwyd nad sy'n gyraeddadwy o fewn y cyfnod monitro nesaf.
Mae'r Cabinet yn gofyn bod y Gyfarwyddiaeth yn adolygu lefelau gorwariant a thanwariant ac yn ail-ddyrannu cyllidebau i leihau'r ystent o orfod adrodd am sefyllfaoedd cydadferol cyn yr adroddiad 6 mis.
Mae'r Cabinet yn gwerthfawrogi ystent y defnydd o'r cronfeydd wrth gefn arfaethedig ar gyfer ysgolion a'r disgwyliad y bydd 13 ysgol mewn sefyllfa ddiffygiol erbyn diwedd 2016-17.
Ystyriodd y Cabinet y monitro cyfalaf sy'n dangos amrywiaeth fechan yn unig o'r gyllideb yn sgil cymeradwyaeth ddiweddar y Cabinet a'r Cyngor ar D? Caerwent.
Mae'r Cabinet yn cydnabod y risg sy'n gysylltiedig gyda gorfod dibynnu ar ddefnydd o dderbynebau cyfalaf yn y flwyddyn arfaethedig a'r potensial i hyn roi pwysau sylweddol ar refeniw pe byddai oedi gyda'r derbynebau a bod rhaid benthyg cyllid dros dro.