Mater - cyfarfodydd

Test 7

Cyfarfod: 08/06/2016 - Cabinet (eitem 3f)

3f Adroddiad Rhaglen Cyfalaf pdf icon PDF 402 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y cyfan

 

Diben:Gofyn am gymeradwyaeth aelodau i gynlluniau priffyrdd a chludiant fel rhan o grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru a chytundebau Adran 106 yn gysylltiedig gyda datblygiadau newydd ledled Sir Fynwy fel y dangosir yn atodiad A a B.  

 

Awdur: Paul Keeble, Rheolwr Traffig a Rhwydweithiau

 

Manylioncyswllt: paulkeeble@monmouthshire.gov.uk

Penderfyniad:

Y dylid creu'r cyllidebau cyfalaf yn 2016/17 i gynnal y prosiectau a nodwyd yn 2.2 isod ac a fanylir yn Atodiad A a B, a bod y rhain yn cael eu hariannu gan gyfraniadau cyfalaf cyfatebol o'r ceisiadau grant priodol a gweddill Adran 106 a gedwir gan y Cyngor Sir a bod cyllidebau refeniw yn cael eu creu er mwyn cynnal y gwariant a nodwyd yn 2.3 dros y ddwy flwyddyn ariannol nesaf;

Y dylid cymeradwyo'r prosiectau cyfalaf a nodir isod ac a fanylir yn Atodiad A:

 

Prosiectau 2016/17

Swm

Grant Trafnidiaeth

Cynllun Gwella Cyffordd Pont Afon Gwy A466/ A40

£387,000

Pont teithio actif Y Fenni - Llan-ffwyst

£145,000

Mapio Teithio Actif

£5,000

Llwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau

£60,000

Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd

Dim

 

Y dylid cymeradwyo'r gwariant refeniw a nodir isod ac a fanylir yn Atodiad B:

 

Eitem 2019-19

Swm

Adran 106

Cefnogi a gwella llwybrau bws 74 a 75 yn ac o amgylch Cil-y-Coed 2016-2019

£95,000