Mater - cyfarfodydd

Test 3

Cyfarfod: 08/06/2016 - Cabinet (eitem 3c)

3c Monitro Refeniw a Chyfalaf, Datganiad Rhagolygon All-dro 2015/16 pdf icon PDF 838 KB

Adran/Wardiau yr effeithir arnynt: All

 

Diben: Diben yr adroddiad yma yw rhoi gwybodaeth i Aelodaeth ar ragolygon sefyllfa all-dro refeniw yr Awdurdod ar ddiwedd cyfnod adrodd 4 sy'n cynrychioli sefyllfa all-dro ariannol blwyddyn ariannol 2015/16.

 

Caiff yr adroddiad hefyd ei ystyried gan y Pwyllgorau Dethol fel rhan o'u cyfrifoldeb i asesu os oes monitro effeithlon ar gyllidebau; monitro i ba raddau y caiff cyllidebau eu gwario yn unol gyda'r gyllideb a fframwaith polisi a gytunwyd; herio os yw gorwariant neu darwariant arfaethedig yn rhesymol; monitro cyflawni buddion effeitholrwydd a ragwelir neu gynnydd yng nghyswllt cynigion am arbedion.

 

Awdur: Mark Howcroft – Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, Dave Jarrett – Uwch Gyfrifydd Cymorth Busnes

 

Manylioncyswllt: markhowcroft@monmouthshire.gov.uk

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod Aelodau'n ystyried tanwariant alldro refeniw net o £579,000, gwelliant o £878,000 ar ragolygon alldro chwarter 3.

 

Bod Aelodau'n ystyried gwariant alldro cyfalaf o £18.3m yn erbyn cyllideb wedi'i diweddaru o £18.8m, ar ôl llithriad arfaethedig o £43.7 miliwn, gan arwain at danwariant net o £508k, gyda thua £433k o hynny ar gael i'w ailgylchu ar brosiectau/blaenoriaethau eraill a argymhellir cynnal tra'n disgwyl am arolygiad o'r pwysau ychwanegol a nodwyd ym mharagraff 3.6.3.

 

Ystyried a chymeradwyo'r llithriad cyfalaf a argymhellir, gan dalu sylw i'r cynlluniau hynny ym mharagraff 3.5.4 ble mae llithriad wedi cael ei geisio gan reolwr y gwasanaeth ond nid oes argymhelliad am lithriad (£170k), a noda ni ddylai'r lefel sylweddol o lithriad sydd ei angen ar alldro ymddangos yn gynt yn y flwyddyn, gan bwysleisio pryder yn rhagolygon cyfalaf y rheolwr at y dyfodol.

 

Ystyried y defnydd o adnoddau a gynigir a nodi'r lleihad sylweddol yn lefelau'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar ddiwedd 2015-16 a'r dynodiad tebygol ar ddiwedd 2016-17.

 

Cymeradwyo ailddyrannu'r cronfeydd wrth gefn, fel y nodwyd ym mharagraff 3.9.5, yn dilyn yr adolygiad actiwaraidd o'r gronfa wrth gefn ar gyfer yswiriant ac adolygiad o weddill y cronfeydd wrth gefn bychan eraill, er mwyn mynd i'r afael â phwysau ar y cronfeydd wrth gefn a dosbarthiad y tanwariant cyffredinol wrth ychwanegu at gronfeydd wrth gefn fel a ganlyn:

·         £1 miliwn i'r gronfa wrth gefn ar gyfer Diswyddiadau a Phensiynau

·         £359k i gronfeydd wrth gefn TG

·         £350k i gronfeydd wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio

·         Cymeradwyo'r defnydd o gronfeydd wrth gefn Buddsoddi i Ail-ddylunio yn ystod 2016-17 gan ddod â'r cyfanswm i £30,835 gan fod cyfraniad ychwanegol Cyngor Sir Fynwy yn caniatáu i'r gwaith ar fenter Dêl y Ddinas barhau.