11 Busnes CYSAG Cymru
PDF 493 KB
1. Busnes CYSAG Cymru
i. Derbyn a nodi drafft gofnodion cyfarfod rhithiol CYSAG Cymru Tachwedd 2024. (atodir)
ii. Nodi dyddiadau cyfarfodydd CYSAG Cymru yn y dyfodol a chadarnhau cynrychiolwyr:
· Cyfarfod y Gwanwyn – Rhithiol ar 6 Mawrth 2025, 10.30am (atodir agenda)
iii. Enwebiadau ar gyfer aelodau newydd Pwyllgor Gwaith CYSAG Cymru – cyfnod swydd cynrychiolydd Sir Fynwy yn dod i ben (Atodir papurau)
iv. Gwybodaeth bwysig gan CYSAG Cymru:
· E bost gan A.Parry/L.Jones.
· Llythyr i Gadeirydd CYSAG Cymru.
· Gwariant: Cynhadledd CYSAG Cymru – Mehefin 2024.
· Gohebiaeth Adnodd a Miller Research
· Adroddiadau Blynyddol CYSAG Cymru.
· Cod Ymddygiad diwygiedig drafft ar gyfer CYSAG Cymru.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
i. Derbyn a nodi drafft gofnodion cyfarfod rhithiol CYSAG Cymru Tachwedd 2024. (atodir)
Cafodd y cofnodion eu derbyn a’u nodi.
ii. Nodi dyddiadau cyfarfodydd CYSAG Cymru yn y dyfodol a chadarnhau cynrychiolwyr:
Nodwyd dyddiad Cyfarfod y Gwanwyn – Rhithiol ar 6 Mawrth 2025, 10.30am.
iii. Enwebiadau ar gyfer aelodau newydd Pwyllgor Gwaith CYSAG Cymru – cyfnod swydd cynrychiolydd Sir Fynwy yn dod i ben (Atodir papurau)
Gan bleidleisio mewn grwpiau ar wahân, penderfynwyd enwebu’r Cynghorydd Sir Rachel Buckler ar gyfer etholiad i Bwyllgor Gwaith CYSAG Cymru.
iv. Gwybodaeth bwysig gan CYSAG Cymru:
· E bost gan A.Parry/L.Jones – nodwyd hyn.
· Llythyr i Gadeirydd CYSAG Cymru – nodwyd hyn
· Gwariant: Cynhadledd CYSAG Cymru – Mehefin 2024 – nodwyd hyn.
· Gohebiaeth Adnodd a Miller Research – nodwyd hyn.
· Adroddiadau Blynyddol CYSAG Cymru – noddwyd hyn.
· Cod Ymddygiad diwygiedig drafft ar gyfer CYSAG Cymru. Nododd Aelodau y cod ymddygiad diwygiedig drafft ar gyfer CYSAG Cymru a thrafod os oedd angen i CYSAG Cymru gael cod ymddygiad oherwydd fod gan gynghorwyr eu cod ymddygiad eu hunain a bod gan athrawon safonau proffesiynol. Holwyd os mai dim ond i’r cynrychiolwyr ffydd a chredo y byddai’r cod ymddygiad yn berthnasol. Awgrymwyd y byddai’n well i awdurdod lleol yr unigolyn a’r CYSAG lleol drafod unrhyw broblemau yn hytrach na CYSAG Cymru.
Caiff y cod drafft ei ystyried yn CCB ym mis Mehefin a chroesawir adborth gan CYSAGau cyn y cyfarfod. Cytunwyd y dylid anfon yr adborth hwn at CYSAG Cymru.