Mater - cyfarfodydd

Membership Update

Cyfarfod: 19/03/2025 - Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (eitem 4)

4 Diweddariad ar Aelodaeth pdf icon PDF 269 KB

Cofnodion:

Dywedwyd fod lleoedd gwag fel sy’n dilyn:

 

Yr Eglwys yng Nghymru

Yr Eglwys Gatholig

Yr Eglwys Rydd (2)

Y Ffydd Iddewig

Y Ffydd Hind?

Y Ffydd Bwdhaidd

Y Ffydd Sikh

Credo athronyddol anghrefyddol

Cynrychiolwyr athrawon (6)

 

Yn anffodus, ni fedrai’r Pennaeth Cyflawniad a Gwasanaethau Estynedig fynychu’r cyfarfod ond rhoddodd ddiweddariad byr y bu adroddiad ar Aelodaeth CYSAG i’r Cyngor drwy’r Cabinet Busnes ac y bydd yn mynd i’r Cyngor llawn nesaf sydd ar gael. Mae’r adroddiad yn cynnwys enwebiadau yn cynrychioli Cyngor yr Eglwys Rydd, Credo Athronyddol Anghrefyddol ac Athrawon.

 

Dywedodd Aelod fod rhai pobl oedd wedi dangos diddordeb mewn ymuno â CYSAG wedi gorfod amser yn hir iawn i gael eu penodi, a bod hynny yn anfoddhaol.

 

Cytunwyd y bydd cael mwy o Aelodau wedi eu cymeradwyo yn cynorthwyo gyda chworwm cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Nodwyd fod Panel Recriwtio CYSAG yn dilyn cyfarfod heddiw i ystyried cynrychiolydd o’r Eglwys Gatholig. Anogwyd y gellid ychwanegu’r enwebiad (os y’i cymeradwyir) at yr adroddiad.