Mater - cyfarfodydd

The Teacher Voice Project: RVE in the Curriculum for Wales

Cyfarfod: 19/03/2025 - Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (eitem 9)

Prosiect Llais Athrawon: Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Cwricwlwm i Gymru

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd CGM fod prosiect newydd Cwricwlwm i Gymru gyda ffocws ar Lais Athrawon. Caiff athrawon sy’n gweithio gyda myfyrwyr 3 i 16 oed ledled Cymru eu hannog i ateb holiadur ar weithredu, cyflenwi a’r gefnogaeth maent eu hangen i sicrhau fod CGM yn brofiad cadarnhaol ar gyfer athrawon a hefyd ddisgyblion mewn ysgolion. Gobeithir cael safbwynt eang a chytbwys.

 

Caiff yr astudiaeth ei harwain gan ymchwilwyr o Ganolfan St Giles, Prifysgol Esgob Grosseteste, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Cymorth Addysg Castell-nedd Port Talbot ac Ysgol Uwchradd Llanisien gan gydweithio gyda CYSAG Cymru a CYSAGau.

 

Gofynnir i’r sawl sy’n cymryd rhan i lenwi arolwg gwirfoddol, dienw 25 i 30 munud am eu profiadau o CGM. Gobeithir y caiff y canfyddiadau eu rhannu gyda phob corff addysgol, CYSAG Cymru/CYSAGau, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gefnogi datblygiadau pellach yn y cwricwlwm a datblygu proffesiynol.

 

Dywedodd Aelod y dylid nodi fod y prifysgolion y sonnir amdanynt yn gysylltiedig gyda swyddogion gweithredol CYSAG Cymru yn hytrach na phrifysgolion hollol annibynnol ac y dylid cofio am hyn wrth ystyried deilliannau.

 

Cadarnhawyd fod yn rhaid i brifysgolion gydymffurfio gyda chod moeseg cadarn wrth gynnal ymchwil.