Mater - cyfarfodydd

WJEC Qualifications

Cyfarfod: 19/03/2025 - Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (eitem 7)

Cymwysterau CBAC

TGAU Astudiaethau Crefyddol | Gwnaed i Gymru

Trafodaeth am Samplau o Ddeunyddiau Asesu.

 

Cofnodion:

Esboniodd y Cynghorydd CGM y cyhoeddwyd manyleb newydd TGAU yn llawn gan CBAC. Mae ar gael ar ei wefan ac yn cynnwys canfyddiadau ymgynghoriad, opsiwn deunyddiau gyda’r nos i helpu ysgolion gyda hyrwyddo, sampl o ddeunyddiau asesu a chanllawiau ar gyfer athrawon. Mae’r fanyleb newydd ar gyfer cyflenwi o fis Medi 2025.

 

Mae newidiadau i’r ffordd y gofynnir cwestiynau gyda e.e. dwy elfen nad oes arholiad arnynt. Mae CBAC yn dweud fod y cynnwys yn debyg i’r cwricwlwm gwaddol ond nid oes unrhyw addysgu am ryfel.

 

Cynhaliwyd deuddeg digwyddiad Dysgu Proffesiynol i hyrwyddo’r TGAU newydd a darparu hyfforddiant staff. Bydd hyfforddiant pellach yn nhymor yr haf.

 

O fewn y fanyleb, mae ysgolion fel arfer yn dewis Cristnogaeth ac un grefydd arall. Mae Ysgol Gyfun Cil-y-coed wedi dewis Cristnogaeth ac Iddewiaeth. Mae Ysgol Gyfun Trefynwy ac Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII wedi dewis Cristnogaeth a Hind?aeth. Nid yw Ysgol Cas-gwent yn cynnig TGAU CGM.

 

Bydd ysgolion sy’n astudio dewisiadau tebyg yn cydweithio i rannu adnoddau.

 

Parthed asesu, bydd arholiadau yn parhau am awr a 15 munud ac mae dau arholiad. Rhoddodd y Cynghorydd CGM enghreifftiau o’r ystod a mathau o gwestiynau. Maent yn cynyddu mewn cymhlethdod a’r nifer o farciau sydd ar gael. Esboniodd am yr elfennau nad oes arholiad arnynt.

 

Dywedodd Aelod o CYSAG fod athrawon wedi codi pryderon eu bod eisiau parhau gyda’r TGAU gwaddol ar hyn o bryd, a hyfforddiant. Cytunwyd y dylai CYSAG feddwl am y pwysau ar athrawon yn y cyfnod pontio, yn arbennig o gofio am y nifer fach o arbenigwyr mewn CGM. Caiff ysgolion, gyda chymorth EAS, ar draws y rhanbarth a ledled Cymru, eu hannog i rwydweithio i greu a rhannu adnoddau ac i drafod a chefnogi ei gilydd ar yr asesiad lle nad oes arholiad.

 

Wrth gyfeirio at y newidiadau mewn cynnwys a ffocws, gofynnodd Aelod o CYSAG os yw athrawon wedi codi fod ehangu safbwyntiau anghrefyddol yn fater o gonsyrn e.e. materion hawliau dynol, hawliau LHDTC+, cydraddoldeb rhywedd, hawliau ffoaduriaid ac yn y blaen, hefyd bynciau newydd ar gyd-berthynas a moeseg teulu. Cadarnhawyd nad oes unrhyw athrawon wedi codi unrhyw faterion penodol o gonsyrn eto. Cafodd y pynciau hyn eu haddysgu yn hanesyddol bob amser. Dim ond ers ychydig wythnosau y cyhoeddwyd yr wybodaeth felly bydd athrawon angen amser i bori’r cynnwys ac i ystyried darpariaeth. Byddai’n ddefnyddiol edrych eto ar gynnwys a chyflenwi yn y cyfarfod nesaf.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Cynghorydd CGM yn bendant na chaiff y fanyleb newydd ei gohirio a’r disgwyliad yw y bydd yr addysgu yn dechrau ym mis Medi 2025. Cytunodd y Cadeirydd i godi cwestiwn yn ei gyfarfod nesaf gyda CBAC.