Dysgu Proffesiynol EAS
Cofnodion:
Rhoddodd Cynghorydd EAS adroddiad ar yr ystod eang o ddysgu proffesiynol a ddigwyddodd dros y tymor diwethaf, tebyg i:
· Addysgu mewn CGM: Mae hyn wedi cynnwys dwy sesiwn a bu ar agor i bob ysgol. Mynychodd ychydig o ysgolion cynradd o Sir Fynwy (yn cynnwys rhai ysgolion ffydd).
· Addysgeg: Edrychodd y cwrs hwn ar wahanol ymagweddau at y cwricwlwm newydd ac ystyried cynllunio ar gyfer dilyniant. Sefydlwyd gr?p CGM o’r cwrs. Cynhelir y sesiwn gyntaf gydag athrawon cynradd yn nhymor yr haf a bydd yn ystyried sut olwg sydd ar ddilyniant. Mae Ysgol Gynradd Tryleg ac ysgol arall wedi cynnal rhai prosiectau bach a gobeithir y byddant yn rhoi adborth i ddangos enghreifftiau o ddilyniant. Mae pynciau yn cynnwys y Nadolig a’r Pasg a bwriedir symud ymlaen i gysyniadau mwy tebyg i faddeuant ac yn y blaen.
· Cafodd sesiwn terfynol Athroniaeth ar gyfer Plant ei chwblhau. Mae llawer o ysgolion wedi dilyn yr hyfforddiant hwn a bydd yn ddiddorol gweld sut mae’n trosi i’r ystafell ddosbarth.
· Mae’r gwaith wedi dechrau ar Chwarae Duwiol o ymagwedd ffydd. Yn yr un modd ag Athroniaeth i Blant, mae ffocws hyn ar ofyn y cwestiynau mawr gyda straeon ffydd am ddamhegion yn hytrach na thrafodaeth gyffredinol.
· Bu peth hyfforddiant ar ddiweddariadau mewn CGM ar gyfer penaethiaid ysgolion a sesiynau gwybodaeth ar gydaddoli gyda nifer dda yn bresennol.
· Bu cyfarfodydd rhwydwaith cyffredinol a byddir yn dechrau edrych ar lythrennedd o fewn CGM yn nhymor yr haf.