3 Nodi cofnod y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 11 Medi 2024
PDF 138 KB
Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod diwethaf ar ôl tynnu enwau a ddyblygir o’r rhestr presenoldeb.
Materion yn codi
i) Sleidiau EAS: Gwahoddwyd sylwadau a diwygiadau yn y cyfarfod blaenorol. Roedd y Cynghorydd Brown wedi anfon sylwadau ond heb gael adborth hyd yma. Cadarnhaodd y Cynghorydd Crefydd Gwerthoedd a Moeseg (CGM) y caiff y sleidiau eu diwygio i adlewyrchu’r sylwadau a gafwyd ar gyfer y set gyffredinol a hefyd y set benodol ar gyfer ysgolion Sir Fynwy. Cytunwyd y caiff y drafft sleidiau wedi eu diwygio eu cylchredeg i CYSAG ac y cânt eu hadolygu gan y Cyfreithiwr.