Mater - cyfarfodydd

Test 4

Cyfarfod: 11/09/2024 - Cabinet (eitem 5.)

5. POLISI CLUDIANT O'R CARTREF I'R YSGOL 25-26 ARFAETHEDIG pdf icon PDF 779 KB

Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt:  Pob Un

 

Pwrpas: Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn nodi'r cyfrifoldebau cyfreithiol dros ddarparu cludiant ysgol sy'n gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i adolygu eu polisi trafnidiaeth yn flynyddol. 

 

I roi canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus diweddar i'r Cabinet i'w cynorthwyo i benderfynu a ddylid gweithredu unrhyw un o'r opsiynau yn y Polisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol 25-26.

 

Awdur: Debra Hill-Howells     Pennaeth Datgarboneiddio, Trafnidiaeth a Gwasanaethau Cymorth

 

Manylion Cyswllt:debrahill-howells@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, ynghyd â chynnwys yr adroddiad hwn a'r dogfennau ategol.

 

Gweithredu’r canlynol ym Mholisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol 25-26:

• Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r meini prawf cymhwyster pellter statudol o ddwy filltir ar gyfer dysgwyr oed cynradd sy'n mynychu eu hysgol addas neu ddalgylch agosaf.

• Bod y Cyngor yn mabwysiadu'r meini prawf cymhwyster pellter statudol o dair milltir ar gyfer dysgwyr oed uwchradd sy'n mynychu eu hysgol addas neu ddalgylch agosaf.

• Ehangu cymhwysiad cyllidebau cludiant personol lle mai dyma'r opsiwn mwyaf manteisiol yn economaidd i'r Cyngor. Byddai’r opsiwn hwn yn cael ei weithredu dim ond os yw’r rhieni/gwarcheidwaid yn cytuno â’r cynnig, a bod ganddynt fodd i gludo eu plentyn/plant yn ddyddiol.

 

Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cymunedau a Lleoedd i ddatblygu a/neu ddiwygio'r Polisi Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol ac unrhyw ganllawiau ategol i adlewyrchu penderfyniad y Cabinet.