Is-adran/Wardiau yr effeithir arnynt: Y Fenni
Pwrpas: Pwrpas yr adroddiad yw rhoi canlyniad y cyfnod gwrthwynebu statudol i'r Cabinet ynghylch y cynigion i gynyddu capasiti Ysgol Gymraeg y Fenni i 420 o leoedd drwy ei adleoli i hen safle Ysgol Gynradd Deri View.
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno'r adroddiad gwrthwynebu (atodiad 1) i'r Cabinet ac yn gofyn am eu cymeradwyaeth i fwrw ymlaen â'r cynnig.
Awdur: Matt Jones, Rheolwr Uned Mynediad
Manylion Cyswllt: matthewdjones@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cytuno i fwrw ymlaen â chynigion fel yr ymgynghorwyd arnynt, sef cynyddu capasiti Ysgol Gymraeg y Fenni i 420 o leoedd (ynghyd â 60 lle Meithrin) drwy ei hadleoli i hen safle Ysgol Gynradd Deri View.
Cytunwyd y bydd y cynigion uchod yn cael eu gweithredu o’r 1af Medi 2025.