Wedi ei gyflwyno gan y Cynghorydd Sir J. Pratt
Mae’r Cyngor hwn yn sir arfordirol falch ac yn fan dechrau Llwybr Arfordir Cymru. Rydym yn falch o gydnabod pwysigrwydd yr ecosystem forol a’n rôl fel rhanddeiliad a gwarcheidwad yr ecosystem. Dylid cyflwyno adroddiad i’r Cyngor o fewn 6 mis ar y cynnig hwn sydd yn cynnwys argymhellion priodol er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i chwarae ein rhan yn sicrhau môr sydd yn lân, iachus a’n gynhyrchiol ar y cyd gyda’n hymrwymiad presennol i fynd i’r afael gyda’r argyfwng hinsawdd.