Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan
Diben: Cyflwyno rhaglen cynnal a chadw yn unol â Chod Ymarfer ‘Seilwaith priffyrdd a reolir yn dda’. Newid o ddibyniaeth ar ganllawiau penodol ac argymhellion yn y Codau blaenorol i ddull seiliedig ar risg a benderfynwyd gan y dadansoddiad priodol, data cadarn ac adolygiad parhaus. Cynlluniwyd y Cod i hyrwyddo mabwysiadu dull rheoli ased integredig at seilwaith priffyrdd yn seiliedig ar sefydlu lefelau lleol o wasanaeth drwy asesiad seiliedig ar risg. Fel gyda’r codau blaenorol, mae’r Cod yn cydnabod fod “ataliaeth bob amser yn well na iachau”.
Buddsoddi mewn cynnal a chadw priffyrdd i sefydlu system ‘canfod a thrwsio’. Gwrthdroi effaith gostyngiadau cyllideb a pwysau arbedion sydd wedi arwain at raglen cynnal a chadw ymatebol ac ar sail system angen.
Mae 6 ffordd i helpu cadw’r asedau daeniad yn llifo’n rhydd ac yn glir:
Mae’r cynnig yn ceisio cyllid ychwanegol i:
· Ysgubo ffyrdd addas i amodau lleol
· Gwagu gwliau a phrofi fod pibelli ac all-lifau yn addas ar gyfer amodau lleol
· Atgyweirio seilwaith a ddifrodwyd lle na fedrid ei glirio
· Uwchraddio’r capasiti lle’n hyfyw
Awdur:Carl Touhig
Manylion Cyswllt: carltouhig@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cynyddu’r cyllid ar gyfer cynnal a chadw asedau draeniad priffyrdd yn unol â Chod Ymarfer ‘Seilwaith Priffordd wedi ei Reoli yn Dda’.
Cynyddu cyllid ar gyfer ysgubo’r llwybrau blaenoriaeth i gefnogi cynnal a chadw asedau draeniad.
Cyflwyno rhaglen gylchol o gynnal a chadw ar gyfer draeniad asedau ar hyd llwybrau blaenoriaeth y Sir.
Dynodi a llunio pob ased draeniad ar hyd y sir fel rhan o asesiad seiliedig ar risg a darparu cofnodion cynnal a chadw yng nghyswllt rheoli asedau.