Mater - cyfarfodydd

INVESTMENT IN HIGHWAYS OPERATIONS FOR MAINTENANCE DRAINAGE NETWORK IN LINE WITH CODE OF PRACTICE 'WELL MANAGED HIGHWAYS INFRASTRUCTURE'

Cyfarfod: 14/04/2021 - Cabinet (eitem 3d)

3d BUDDSODDIAD MEWN GWEITHGAREDDAU PRIFFYRDD AR GYFER RHWYDWAITH DRAENIAD CYNNAL A CHADW YN UNOL Â CHOD YMARFER ‘SEILWAITH PRIFFYRDD A REOLIR YN DDA’ pdf icon PDF 449 KB

Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan

 

Diben: Cyflwyno rhaglen cynnal a chadw yn unol â Chod Ymarfer ‘Seilwaith priffyrdd a reolir yn dda’. Newid o ddibyniaeth ar ganllawiau penodol ac argymhellion yn y Codau blaenorol i ddull seiliedig ar risg a benderfynwyd gan y dadansoddiad priodol, data cadarn ac adolygiad parhaus. Cynlluniwyd y Cod i hyrwyddo mabwysiadu dull rheoli ased integredig at seilwaith priffyrdd yn seiliedig ar sefydlu lefelau lleol o wasanaeth drwy asesiad seiliedig ar risg. Fel gyda’r codau blaenorol, mae’r Cod yn cydnabod fod “ataliaeth bob amser yn well na iachau”.

 

Buddsoddi mewn cynnal a chadw priffyrdd i sefydlu system ‘canfod a thrwsio’. Gwrthdroi effaith gostyngiadau cyllideb a pwysau arbedion sydd wedi arwain at raglen cynnal a chadw ymatebol ac ar sail system angen.

 

Mae 6 ffordd i helpu cadw’r asedau daeniad yn llifo’n rhydd ac yn glir:

  • Atal ysgyrion rhag gorchuddio’r mewnlif a chyfyngu llif
  • Atal ysgyrion rhag mynd i mewn i’r bibell a chyfyngu’r llif
  • Atal ysgyrion rhag mynd i mewn i’r all-lif a chyfyngu’r llif
  • Dynodi difrod i’r seilwaith yn gyflym
  • Cynnal cwrs wyneb y ffordd i atal colli deunydd i’r draeniau
  • Atal d?r rhag rhedeg o dir cyfagos fydd yn lleidio’r system draeniad.

 

Mae’r cynnig yn ceisio cyllid ychwanegol i:

 

·       Ysgubo ffyrdd addas i amodau lleol

·       Gwagu gwliau a phrofi fod pibelli ac all-lifau yn addas ar gyfer amodau lleol

·       Atgyweirio seilwaith a ddifrodwyd lle na fedrid ei glirio

·       Uwchraddio’r capasiti lle’n hyfyw

 

 

Awdur:Carl Touhig

 

Manylion Cyswllt: carltouhig@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cynyddu’r cyllid ar gyfer cynnal a chadw asedau draeniad priffyrdd yn unol â Chod Ymarfer ‘Seilwaith Priffordd wedi ei Reoli yn Dda’.

 

Cynyddu cyllid ar gyfer ysgubo’r llwybrau blaenoriaeth i gefnogi cynnal a chadw asedau draeniad.

 

Cyflwyno rhaglen gylchol o gynnal a chadw ar gyfer draeniad asedau ar hyd llwybrau blaenoriaeth y Sir.

 

Dynodi a llunio pob ased draeniad ar hyd y sir fel rhan o asesiad seiliedig ar risg a darparu cofnodion cynnal a chadw yng nghyswllt rheoli asedau.