3c UWCHRADDIO CYFLEUSTERAU CANOLFANNAU HAMDDEN PDF 442 KB
Adran/Wardiau yr Effeithir Arnynt: Y cyfan
Diben: Hysbysu Aelodau am y gofyniad i uwchraddio’r cynnig yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed a Chasgwent i sicrhau eu bod yn parhau’n addas i’r diben ac yn ddeniadol i gwsmeriaid.
Awdur: Ian Saunders, Prif Swyddog Gweithredu Monlife; Nick John, Rheolwr Gwasanaethau Hamdden MonLife; Marie Bartlett, Rheolwr Cyllid ac Adnoddau MonLife; Richard Simpkins, Rheolwr Datblygu Busnes a Masnachol MonLife
Manylion Cyswllt: iansaunders@monmouthshire.gov.uk
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cefnogi gwaith ymchwilio rhagarweiniol a symud ymlaen gyda’r astudiaeth dichonoldeb ar gyfer mân ailwampio ac uwchraddio cyfleusterau ffitrwydd yng Nghanolfannau Hamdden y Fenni, Cil-y-coed a Chas-gwent.
Atal prif gynllun “Ailwampio Canolfannau Canolfan Hamdden Cil-y-coed” dros dro nes byddir yn dychwelyd i amodau gweithredu arferol a bod peth cydnerthedd wedi ei adeiladu i’r farchnad. Cynhelir asesiad pellach i benderfynu ar lefelau cyllid unwaith yr adferir lefelau cwsmeriaid i lefelau cyn-Covid i benderfynu os y gellir sicrhau’r cyfraniad gofynnol o aelodaeth ychwanegol yn y dyfodol.