Mater - cyfarfodydd

MINERALS REGIONAL TECHNICAL STATEMENT SECOND REVISION (RTS2)

Cyfarfod: 13/01/2021 - Penderfyniadiau Aelod Cabinet Unigol (eitem 2.)

2. DIWYGIO AIL DDATGANIAD TECHNEGOL RHANBARTHOL MWYNDERAU (RTS2) pdf icon PDF 612 KB

CABINET MEMBER:          County Councillor RJW Greenland

 

AUTHORS:

Mark Hand - Head of Placemaking, Housing, Highways and Flood

Craig O’Connor - Head of Planning

Rachel Lewis - Planning Policy Manager

 

CONTACT DETAILS:

 

Tel: 07773478579

markhand@monmouthshire.gov.uk

 

Tel: 07816175737

craigoconnor@monmouthshire.gov.uk

 

Tel: 01633 644827

rachellewis@monmouthshire.gov.uk

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Roedd yr Aelod Cabinet ar gyfer Mentergarwch a Chynllunio Defnydd Tir wedi cymeradwyo’n rhannol y Datganiad Technegol Rhanbarthol (2ail Adolygiad) o ran  dosraniadau unigol ar gyfer  agregau ardal Sir Fynwy unig ac ymatal rhag cytuno i’r egwyddor o gwrdd â’r gofynion agregu isranbarthol ehangach ar hyn o bryd yn sgil y diffyg gwybodaeth o ran goblygiadau hyn ar y CDLlRh. 

 

Roedd yr Aelod Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen gyda pharatoi Datganiad o Gydweithredu  Isranbarthol (SSRC) er mwyn gwyntyllu’r  opsiynau o sut y mae modd cwrdd â gofynion y dosrannu isranbarthol er mwyn caniatáu’r CDLlRh  i symud i’r broses gynllunio. Gellir cytuno ar SSRC lefel swyddog o dan bwerau dirprwyedig, a hynny ar yr amod bod yr holl Awdurdodau Cynllunio Lleol unigol o fewn yr isranbarth yn derbyn eu dyraniadau unigol ar gyfer yr agregau yn eu hardaloedd ac yn gwneud dyraniadau priodol yn eu CDLlRh er mwyn diwallu’r fath anghenion. Os oes angen i Sir Fynwy i gwrdd  â dosraniadau awdurdod arall, bydd angen i’r Cabinet i gytuno a chymeradwyo unrhyw ddatganiad perthnasol o gydweithredu isranbarthol.