Mater - cyfarfodydd

Test 5

Cyfarfod: 19/02/2020 - Cabinet (eitem 3f)

3f STRATEGAETHAU BUDDSODDI A CHRONFEYDD AM ADDYSG A CHRONFA'R DEGWM 2020/21 pdf icon PDF 1001 KB

Adran/Wardiau a Effeithir Arnynt: Pob un

Diben:Diben yr adroddiad hwn yw cyflwyno strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 i Gabinet i’w chymeradwyo ar gyfer Cronfeydd Ymddiriedolaeth y mae'r Awdurdod yn gweithredu fel ymddiriedolwr unigol neu'n geidwad ar eu cyfer i'w mabwysiadu ac i gymeradwyo dyraniad grant 2020/21 i fuddiolwyr Awdurdod Lleol o Gronfa’r Degwm.

 

Awdur: David Jarrett – Uwch Gyfrifydd Cymorth Busnes

Nicola Wellington – Rheolwr Cyllid Plant a Phobl Ifanc

 

Manylion Cyswllt: davejarrett@monmouthshire.gov.uk

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD:

Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 arfaethedig ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Fferm Sir Fynwy yn cael ei chymeradwyo.

 

Bod y Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd 2020/21 arfaethedig ar gyfer Cronfa Eglwys Cymru’n cael ei chymeradwyo.

 

Dirprwyo cyfrifoldeb dros weithredu a gweinyddu penderfyniadau rheolaeth trysorlys i’r Pennaeth Cyllid (swyddog S151) a fydd yn gweithredu yn unol â’r Strategaeth Buddsoddi a Chronfeydd (atodiad 2).

 

Cymeradwyo’r dyraniad o £210,000 o grant 2020/21 i fuddiolwyr Awdurdod Lleol i Gronfa Deddf Eglwys Cymru Sir Fynwy, i’w rannu yn unol â chyfrannau poblogaeth yn ôl Cyfrifiad 2010.

 

Bod Bwrdd Ymddiriedolaeth Ysgol Fferm Sir Fynwy’n penderfynu ar ddyraniad grant 2020-21 yn ei gyfarfod ym mis Ionawr 2020 yn seiliedig ar enillion ar fuddsoddiad y blynyddoedd blaenorol ar ddiwedd Mawrth 2019, ac y bydd unrhyw danwariant o ddyraniad grant 2019-20yn cael ei gario ymlaen er mwyn osgoi erydiad y gronfa gyfan.

 

Cymeradwyo’r Egwyddorion Cronfa, Ystyriaethau Polisi a Meini Prawf Dyrannu Grant Eglwys Cymru ar gyfer 2020-21 (Atodiad 6) a ystyriwyd a ac a gymeradwywyd ym Mhwyllgor Cronfa Eglwys Cymru ar y 16ain o Ionawr 2020.