Asesiad Risg Strategol Awdurdod Cyfan
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Swyddog Perfformiad yr Adroddiad Asesiad Risg Strategol ar gyfer yr Awdurdod Cyfan. Gofynnwyd y cwestiynau canlynol:
· Cyfeiriodd un aelod at y sgoriau risg a restrir o dan Rhiant Corfforaethol (6 & 7) a chwestiynodd sut y gwnaethpwyd y penderfyniad o roi sgôr “Canolig” i’r risg sy’n ymwneud â phlant. Dywedodd y Pennaeth Polisi a Llywodraethu mai’r elfennau sy’n cael eu hystyried wrth benderfynu ar sgôr risg yw tebygolrwydd ac effaith posib. Eglurwyd bod yr effaith posib bob amser yn uwch ond bod y tebygolrwydd isel, wrth ystyried y systemau diogelu sydd mewn lle a pha mor gymharol anaml y gwelir y canlyniadau gwaethaf, yn creu cydbwysedd ac yn arwain at sgôr “Canolig”. Lleisiodd un aelod bryder yngl?n â ffactorau sydd tu hwnt i reolaeth yr awdurdod, a dywedodd y dylai’r sgôr risg fod yn uwch.
Cytunodd un aelod mai ychydig iawn o reolaeth sydd gan yr awdurdod o ran pwy sy’n cael eu rhoi mewn gofal ac o ganlyniad, y gost. Er hyn, mae cyllidebau wedi eu gosod er mwyn rheoli’r risg, lliniaru’r effaith ac adeiladu tueddiadau.
· Cwestiynodd un aelod y sgôr risg ar gyfer ynni a seilwaith ynni wrth i ni symud i ffwrdd oddi wrth geir disel a phetrol at geir trydan. Yn ail, o ran newid hinsawdd byd eang, awgrymwyd y dylid cyfeirio at newid amgylcheddol a chynnwys ee pandemig a newidiadau sylweddol eraill a allai greu effaith amgylcheddol. Ymatebodd y swyddog drwy ddweud nad yw’r agwedd ynni a seilwaith ynni wedi ei gofnodi’n benodol, ond bod contractau egni a phrisiau yn eithaf diogel yn y tymor byr / canolig. Eglurwyd bod swyddog egni ychwanegol wedi ei benodi’n ddiweddar.
Mae’r broblem newid hinsawdd byd-eang yn ymestyn y tu hwn i gyfnod 3 blynedd yr asesiad risg hwn. Rhoddwyd gwybod i’r pwyllgor bod gwaith, sydd ynghlwm â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent o lunio cofrestr risgiau a chyfleoedd mwy hirdymor. Mae cyllid wedi ei sicrhau i dalu am arbenigedd er mwyn datblygu gwybodaeth, risgiau ac atebion posibl. Bydd diweddariad ar y gwaith yn cael ei gyflwyno i’r pwyllgor mewn 4/5 mis wrth iddo ddatblygu. Atgoffwyd y Pwyllgor bod yr aelodau wedi datgan argyfwng hinsawdd yn 2019.
Eglurwyd yr ymdrinnir â materion amgylcheddol byd-eang megis pandemig yn ein cynlluniau parhad busnes. Mae gan y Tîm Cynllunio ar gyfer Argyfwng ran fawr i’w chwarae o ran ymdrin ag effaith ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau.
· Cwestiynodd un Aelod y risg posib i gapasiti’r sefydliad gan gyfeirio at ganran uwch, sef 11.5%, o ddyddiau wedi eu colli ar gyfer pob gweithiwr llawn amser yn ogystal â throsiant staff o 9%. Gwnaed ymholiad yngl?n â’r gwir ffigurau, yn ogystal â’r effaith ar ddarparu gwasanaethau. Gofynnwyd cwestiwn pellach yngl?n â nifer y staff sy’n aros gartref ac yn parhau i weithio tra’n sâl. Cwestiynwyd effaith y ffactorau rhain ar y gweithlu. Eglurodd y Pennaeth Polisi a Llywodraethu bod trosiant staff yn cael ei groesawu er mwyn creu syniadau ... view the full Cofnodion text for item 6